Trwyddedu
Casgliadau o Dŷ i Dŷ
Ar gyfer beth mae’r drwydded?
Mae casglu arian trwy ymweld â thai’n ffordd boblogaidd o godi arian at elusen neu ddigwyddiadau. Dan Ddeddf Casglu o Dŷ i Dŷ 1939 mae angen trwydded ar y rhai sy’n gwneud casgliadau.
Am ba hyd mae’r drwydded yn para?
Rhwng y dyddiadau a bennwyd ar y ffurflen gais.
Beth yw’r taliad am y drwydded hon?
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ffi am drwydded i gasglu o dŷ i dŷ.
Sut i wneud cais
Llenwi a dychwelyd y ffurflen gais.
Os bydd eich cais ei llwyddiannus, byddwch yn derbyn y drwydded drwy’r post. Ni fyddwn yn cysylltu â chi oni bai fod mater yn codi gyda’r cais.
ID: 2209, adolygwyd 08/02/2023