Trwyddedu
Polisi masnachu ar y stryd
Bwriad Cyngor Sir Penfro yw creu profiad o fasnachu ar y stryd sy’n amrywiol ac yn fywiog; rhywbeth sy’n ychwanegu at ffabrig cymdeithasol a diwylliannol Sir Benfro; yn gwarchod a gwella ein hamgylchedd; ac yn hybu’r Sir.
Gall Masnachu ar y Stryd gynnwys ystod eang o weithgareddau adwerthu ac arlwyo a gynhelir ar strydoedd cyhoeddus.
Bwriadwyd y polisi hwn i sicrhau bod swyddogaeth masnachu ar y stryd yn cael ei chyflawni yn unol â gofynion deddfwriaethol, nodau ac amcanion strategol y Cyngor ac i osod cyd-destun ar gyfer penderfynu sut i weithredu.
Mae'r polisi hefyd yn ceisio sicrhau ein bod yn diwallu anghenion trigolion, busnesau ac ymwelwyr i helpu i adfywio ein sir. Dylid adolygu'r polisi hwn hefyd ar y cyd â pholisïau allweddol eraill
ID: 5611, adolygwyd 09/10/2023