Trwyddedu

Polisi Masnachu ar y stryd

Cyflwyniad

Trosolwg

Bwriad Cyngor Sir Penfro [y Cyngor] yw creu profiad o fasnachu ar y stryd sy’n amrywiol ac yn fywiog; rhywbeth sy’n ychwanegu at ffabrig cymdeithasol a diwylliannol Sir Benfro; yn gwarchod a gwella ein hamgylchedd; ac yn hybu’r Sir.

Gall Masnachu ar y Stryd gynnwys ystod eang o weithgareddau adwerthu ac arlwyo a gynhelir ar strydoedd cyhoeddus. Mae cynnwys y ddogfen hon yn egluro’r polisi mewn perthynas â masnachu ar y stryd yn Sir Benfro. Nid yw’n ddatganiad llawn ac awdurdodol o’r gyfraith ac nid yw’n gyfystyr â chyngor cyfreithiol.

Bwriadwyd y polisi hwn i sicrhau bod swyddogaeth masnachu ar y stryd yn cael ei chyflawni yn unol â gofynion deddfwriaethol, nodau ac amcanion strategol y Cyngor ac i osod cyd-destun ar gyfer penderfynu sut i weithredu.

Mae'r polisi hefyd yn ceisio sicrhau ein bod yn diwallu anghenion trigolion, busnesau ac ymwelwyr i helpu i adfywio ein sir. Dylid adolygu'r polisi hwn hefyd ar y cyd â pholisïau allweddol eraill.

Bydd y ddogfen hon yn ganllaw i’r Cyngor wrth iddo ystyried ceisiadau am ganiatâd i fasnachu ar y stryd a bydd yn hysbysu ymgeiswyr am y meini prawf ar gyfer ystyried ceisiadau.

Y bwriad yw y bydd y Polisi hwn yn cael ei adolygu bob pum mlynedd neu’n amlach os bydd newidiadau deddfwriaethol yn gwneud hynny’n angenrheidiol.

Masnachu ar y Stryd yn Sir Benfro

Mae Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (Deddf 1982) yn egluro’r darpariaethau deddfwriaethol ynghylch masnachu ar y stryd.

Ar y 29ain o Dachwedd 2010, penderfynwyd y byddai Atodlen 4 o Ddeddf 1982 yn berthnasol i ddibenion masnachu ar y stryd yn Sir Benfro. Daeth hyn i rym yn Sir Benfro ar y 6ed o Ragfyr 2010.

Ar y 7fed o Chwefror 2011, penderfynwyd bod yr holl strydoedd o fewn Sir Benfro sy’n briffyrdd a fabwysiadwyd yn gyhoeddus (gan gynnwys cefnffyrdd) yn cael eu dynodi fel strydoedd â chaniatâd i ddibenion masnachu ar y stryd. Daeth y dynodiad i rym ar y1af o Ebrill 2011. Mae hyn yn golygu bod angen caniatâd y Cyngor Sir er mwyn i fasnachu ar y stryd ddigwydd ar y strydoedd hynny.

Yn amodol ar yr eithriadau a nodir yn y ddeddfwriaeth (y cyfeirir atynt ym mharagraff 1.5 isod, y bydd caniatâd arall efallai yn dal yn ofynnol ar eu cyfer), mae 'masnachu ar y stryd' yn golygu gwerthu neu amlygu neu gynnig i’w gwerthu unrhyw eitem (gan gynnwys peth byw) ar stryd. Gall y term 'stryd' gynnwys unrhyw ffordd, llwybr, traeth neu ardal arall y mae'r cyhoedd yn cael mynediad iddi heb dalu, maes gwasanaeth fel y'i diffinnir yn adran 329 o Ddeddf Priffyrdd 1980 a gall hefyd gynnwys rhan o stryd.

Nodau’r Polisi

Nod y Polisi hwn yw sicrhau nad yw masnachu ar y stryd yn tanseilio teithio'n ddiogel ac yn ddirwystr ar hyd priffyrdd cyhoeddus.

Mae'r Polisi hwn yn anelu at sicrhau bod y Cyngor yn delio â masnachu ar y stryd mewn ffordd gyson a thryloyw.

Wrth ddatblygu'r polisi hwn, fe wnaeth y Cyngor ystyried:

  • gofynion cyfreithiol Deddf 1982;
  • dyletswyddau’r Cyngor o dan Adran 17 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 sy'n cynnwys talu sylw dyledus i’r effaith debygol ar droseddu, a’r angen i wneud popeth sy’n rhesymol o fewn ei allu i atal troseddu ac anhrefn yn Sir Benfro;
  • Cod y Rheoleiddwyr dan Ddeddf Diwygio Rheoleiddiol a Ddeddfwriaethol 2006; a
  • Rheoliadau Darparu Gwasanaethau 2009, sy'n cynnwys sicrhau nad yw amodau yn gwahaniaethu, a’u bod yn cael eu cyfiawnhau am reswm pwysig sy'n ymwneud â lles y cyhoedd, a’u bod yn gymesur â’r amcan hwnnw o les y cyhoedd, yn glir ac yn ddiamwys, wedi eu cyhoeddi ymlaen llaw ac yn dryloyw ac yn hygyrch.

Ymgynghoriad

Nid oes gofyniad statudol i ymgynghori cyn penderfynu ar y Polisi Masnachu ar y Stryd. Fodd bynnag, er mwyn bod yn agored a thryloyw, dewisodd y Cyngor gynnal ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â pholisi masnachu ar y stryd.

Eithriadau

I ddibenion Atodlen 4 o Ddeddf 1982, nid masnachu ar y stryd yw'r canlynol:

  • Pedleriaid – masnachu gan berson sy'n gweithredu fel pedler dan awdurdod tystysgrif pedler a roddwyd o dan Ddeddf Pedleriaid 1871;
  • Unrhyw beth a wneir mewn marchnad neu ffair, lle y cafwyd yr hawl i ddal yn rhinwedd grant (gan gynnwys grant tybiedig), neu a gafwyd neu a sefydlwyd yn rhinwedd deddfiad neu orchymyn;
  • Masnachu mewn ardal bicnic wrth ochr cefnffordd a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Adran 112 o Ddeddf Priffyrdd 1980;
  • Masnachu fel gwerthwr Newyddion:
    • lle nad oes ond papurau newydd neu gyfnodolion yn unig yn cael eu gwerthu neu eu harddangos i'w gwerthu; ac
    • maent yn cael eu gwerthu neu eu harddangos neu eu cynnig i'w gwerthu heb stondin na chynhwysydd iddynt, neu gyda stondin neu gynhwysydd iddynt nad yw:
    • yn fwy nag 1 metr o led neu hyd neu 2 fetr o uchder
    • yn cymryd arwynebedd daear sy’n fwy na 0.25 metr sgwâr; neu
    • yn sefyll ar gerbytffordd stryd;
  • Masnach sy'n cael ei rhedeg ar safle a ddefnyddir fel gorsaf betrol; neu sy’n cael ei chynnal ar fangre a ddefnyddir fel siop neu ar stryd cyfagos i eiddo a ddefnyddir felly ac fel rhan o fusnes y siop;
  • Gwerthu pethau, neu gynnig, neu eu harddangos i'w gwerthu, fel dyn ar rownd (e.e. dyn llefrith). Dyn ar rownd yw un sy'n mynd o gwmpas ei gwsmeriaid ar gyfer archebu a chyflenwi nwyddau;
  • Defnyddio ar gyfer masnachu, o dan Ran VIIA o Ddeddf Priffyrdd 1980, wrthrych neu strwythur a osodwyd ar, yn neu dros briffordd;
  • Rhedeg cyfleusterau ar gyfer hamdden neu luniaeth o dan Ran VIIA o Ddeddf Priffyrdd 1980;
  • Gwneud unrhyw beth sydd wedi'i awdurdodi drwy reoliadau a wnaed o dan adran 5 o Ddeddf yr Heddlu, Ffatrïoedd, ac yn y blaen (Darpariaethau Amrywiol) 1916.

Gofynion Trwyddedu

Dylid nodi bod ar fasnachwr stryd, sy’n dymuno gwerthu alcohol neu ddarparu lluniaeth yn hwyr y nos, angen awdurdodiad ychwanegol dan delerau Deddf Drwyddedu 2003.
Lluniaeth yn hwyr y nos yw cyflenwi bwyd poeth neu ddiod rhwng 11.00 p.m. a 5.00 a.m. ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos.

Bydd Swyddogion Trwyddedu yn gallu rhoi gwybodaeth bellach ynghylch gofynion Deddf Drwyddedu 2003. Cysylltwch â - licencing@pembrokeshire.gov.uk

Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963 ac Is-ddeddfau’r Cyngor ar Gyflogi Plant sy’n rheoli cyflogi plant wrth fasnachu ar y stryd. Bydd Adran Addysg y Cyngor yn gallu rhoi gwybodaeth bellach ynghylch hyn. Cysylltwch â licencing@pembrokeshire.gov.uk

Ffioedd

Caiff y Cyngor godi ffioedd fel y mae’n ystyried yn rhesymol am roi caniatâd neu adnewyddu caniatâd i fasnachu ar y stryd. Caiff y Cyngor benderfynu ffioedd gwahanol ar gyfer mathau gwahanol o ganiatâd ac, yn neilltuol, caiff benderfynu ar ffioedd gwahanol gyda golwg ar hyd y caniatâd, y lleoliad, a disgrifiad y nwyddau y mae’r daliwr yn cael ei awdurdodi i fasnachu ynddynt.

Caiff ffioedd eu hadolygu’n flynyddol ar sail adennill y gost a chaiff unrhyw amrywiad ei gymeradwyo gan y Cyngor. Gwelir y ffioedd cyfredol a ffurflenni cais ar wefan y Cyngor Trwyddedu neu drwy gysylltu ag adran Gofal Strydoedd drwy’r e-bost streetcare@pembrokeshire.gov.uk neu drwy lythyr i Cyngor Sir Penfro, Adran Gofal Strydoedd, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP neu drwy ffonio 01437 764551.

Rhaid i'r ffioedd cais gael eu hanfon gyda’r cais am ganiatâd neu gais i adnewyddu caniatâd. Os gwrthodir y cais, ad-delir blaendal gan y Cyngor i’r ymgeisydd.

Mae ffioedd caniatâd yn daladwy unwaith y bydd y cais yn llwyddiannus. Rhaid talu 30% o’r ffioedd caniatâd ymlaen llaw a rhaid talu'r gweddill mewn rhandaliadau cyfartal o fewn 6 mis i ddyddiad dechrau'r caniatâd. Efallai y bydd methiant i gynnal taliadau yn arwain at beidio ag adnewyddu’r caniatâd. Os bydd Ymgeisydd yn ildio ei ganiatâd neu os bydd y caniatâd yn cael ei ddirymu, bydd y Cyngor yn talu’r rhan o’r ffi a dalwyd am y caniatâd neu adnewyddu’r caniatâd fel y bo’r Cyngor yn ystyried yn briodol am y cyfnod sy’n weddill o’r caniatâd.

Ceisiadau

Cyngor i Ymgeiswyr Newydd

Cynghorir ymgeiswyr newydd i gysylltu â’r Cyngor cyn gynted ag y bo modd, gorau oll cyn gwneud cais. Rhydd hyn gyfle i’r Swyddogion roi cyngor yn ogystal ag egluro unrhyw feysydd lle bo ansicrwydd.
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd, yn y lle cyntaf, yw nodi’r lleoliad(au) lle mae’n dymuno masnachu gan nad oes rhestr ddynodedig o leiniau ar gyfer masnachu ar y stryd, y gellir masnachu oddi arnynt.

Gall y Cyngor hefyd roi cyngor mewn cysylltiad â gofynion eraill, a all fod yn berthnasol i ymgeisydd newydd, er enghraifft, caniatâd cynllunio neu ofynion diogelwch bwyd.

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Disgwylir i ymgeiswyr sy’n gwneud cais am ganiatâd newydd i fasnachu ar y stryd gaffael tystysgrif DBS (a adwaenid gynt fel CRB) gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (yn agor mewn tab newydd) y mae’n rhaid iddi beidio â bod yn fwy nag un mis calendr o oed pan fydd yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor.

  • Rhaid i’r dystysgrif DBS fod yn enw a chyfeiriad yr ymgeisydd fel y’u rhoddwyd ar y ffurflen gais.
  • Rhaid cyflwyno’r dystysgrif wreiddiol gyda’r ffurflen gais.
  • Bydd y Cyngor yn gofyn am dystysgrif DBS newydd gan ymgeisydd bod trydedd blwyddyn gan ddechrau gyda’r flwyddyn ar ôl rhoi caniatâd newydd.

Disgwylir i’r dystysgrif DBS gael ei hanfon gyda’r cais am adnewyddiad bob tair blynedd a bydd y Cyngor yn ei gwneud yn glir i ymgeiswyr pryd y bydd angen hon.

Addasrwydd yr Ymgeisydd

Wrth benderfynu ar gais am ganiatâd neu adnewyddu caniatâd i fasnachu ar y stryd bydd y Cyngor yn ystyried yr holl wybodaeth berthnasol yn ymwneud ag addasrwydd yr ymgeisydd i ddal caniatâd o’r fath. Mae Masnachwyr Stryd a’u gweithgareddau masnachol yn aml yn destun lefelau isel o oruchwyliaeth. Maent yn rhyngweithio’n agos ag aelodau o’r cyhoedd ac mae’n bwysig bod y cyhoedd, yn enwedig pobl agored i niwed, yn cael eu hamddiffyn rhag niwed, a rhag y rheiny a allai eu niweidio, lle bynnag y bo modd.

Bydd y Cyngor yn penderfynu a yw’r ymgeisydd yn berson addas i gynnal busnes fel masnachwr stryd ac efallai na fydd yn rhoi caniatâd os na fydd yn fodlon bod yr ymgeisydd yn addas. Wrth benderfynu hyn, efallai y bydd y Cyngor yn talu sylw i unrhyw wybodaeth, y mae’n ei hystyried yn berthnasol gan gynnwys:

  • A yw’r ymgeisydd wedi ei gael yn euog o unrhyw drosedd;
  • Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gaffael tystysgrif DBS cyn gwneud cais, gweler paragraff 2.2 uchod (bydd angen hon hefyd ar gyfer unrhyw gymorth cysylltiedig â’r ffurflen gais);
  • Gwrthod neu esgeuluso talu ffioedd i’r Cyngor am ganiatâd i fasnachu ar y stryd, neu unrhyw daliadau eraill sy’n ddyledus am wasanaethau a ddarparwyd gan y Cyngor i’r ymgeisydd yn ei swyddogaeth fel daliwr caniatâd i fasnachu ar y stryd;
  • Unrhyw gam gorfodi blaenorol;
  • Unrhyw dro o'r blaen pan wrthodwyd cais am ganiatâd neu adnewyddu caniatâd i Fasnachu ar y Stryd;
  • Unrhyw dro o’r blaen pan gafodd Caniatâd i Fasnachu ar y Stryd ei ddirymu.

Cyflwyno cais am Ganiatâd i Fasnachu ar y Stryd

Rhaid gwneud pob cais am ganiatâd i Fasnachu ar y Stryd ar ffurflen gais ragnodedig y Cyngor. Mae’r ffurflen ar gael gan Dîm Gofal Strydoedd y Cyngor y gellir cysylltu â hwy ar 01437 764551 neu drwy'r e-bost streetcare@pembrokeshire.gov.uk neu drwy lythyr i Cyngor Sir Penfro, Adran Gofal Strydoedd, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP neu drwy glicio ar y ddolen gysylltiedig i wefan y Cyngor yn Trwyddedu
Rhaid i bob ffurflen gais gael ei chyflwyno gyda’r ffi ymgeisio ragnodedig. Nid ystyrir bod cais wedi ei gwblhau hyd nes y bydd y ffi ragnodedig a’r holl ddogfennaeth ategol wedi cael eu derbyn.
Bydd angen cyflwyno’r dogfennau canlynol gyda’r cais ar gyfer gwerthwyr tymor Byr, Canolig, Hir, Achlysurol, Gwerthwyr Marchnad A Gwerthwyr Symudol -

  1. Prawf o gymhwyster i weithio yn y DU;
  2. Prawf o dystysgrif DBS (a adwaenid gynt fel CRB) gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (yn agor mewn tab newydd) 
  3. Map lleoliad sy’n dangos yn glir y lleoliad arfaethedig ar gyfer masnachu ar y stryd;
  4. Ffotograff neu daflen yn rhoi manylion yr uned / y cerbyd sydd i gael ei ddefnyddio gan gynnwys ei fesuriadau;
  5. Copi o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus o £5 miliwn o leiaf o ran unrhyw un digwyddiad;
  6. Dau ffotograff maint pasbort o’r ymgeisydd ac unrhyw berson fydd yn cynorthwyo gyda’r masnachu yn rheolaidd;
  7. Rhaid cyflwyno manylion unrhyw gynorthwyydd gyda’r cais hwn ar adeg ymgeisio;
  8. Gyda golwg ar werthwyr symudol bydd angen y canlynol yn ogystal:
    1. Copi o dystysgrif MOT ddilys y cerbyd.
    2. Dogfennaeth yswiriant y cerbyd.

(Sylwer. Os yw’r cais yn cynnwys cynorthwywyr, yna bydd rhaid cyflwyno pwyntiau 1,2,6 hefyd gyda’r cais).

Bydd angen cyflwyno’r dogfennau canlynol gyda’r cais ar gyfer caniatâd Diwylliant Caffi

  1. Darparwch fap yn dangos y lleoliad lle rydych yn dymuno gosod eich byrddau a’ch cadeiriau;
  2. Darparwch ffotograffau o’r byrddau a’r cadeiriau yr ydych yn dymuno eu defnyddio cyn y gellir rhoi caniatâd;
  3. Cadarnhewch hefyd gyfleusterau storio’r byrddau a’r cadeiriau y tu allan i oriau’r Diwylliant Caffi.

Ni ellir ystyried ceisiadau gan neb dan 17 mlwydd oed; nac ar gyfer unrhyw fasnachu ar briffordd lle mae gorchymyn rheoli dan adran 7 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 mewn grym, ac eithrio masnach nad yw’r gorchymyn rheoli yn berthnasol iddi.

Gellir cyflwyno ceisiadau’n electronig i streetcare@pembrokeshire.gov.uk neu drwy’r post i Reolwr Gofal Strydoedd a Pharcio, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA64 0ER. Bydd y Cyngor yn hysbysu’r ymgeisydd cyn gynted ag y bo modd os bydd y cais yn anghyflawn ac os bydd angen gwybodaeth/dogfennaeth ychwanegol, yn ogystal â’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar y cyfnod o amser i brosesu’r cais (y cyfeirir ato isod).

Prosesu Cais

Yn dilyn derbyn eich ffurflen gais wedi ei chwblhau, bydd y Cyngor yn cydnabod ei derbyn ac yn nodi dyddiad cau’r cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer prosesu eich cais. Bydd y ddogfen hon yn cynnwys manylion unrhyw gyfrwng iawndal a bydd yn cadarnhau nad yw caniatâd dealledig yn berthnasol fel y dywedir isod.

Prosesir eich cais cyn gynted ag y bo modd a bydd y Cyngor y ymdrechu i ddod i benderfyniad o fewn y cyfnod o 28 diwrnod y cyfeiriwyd ato uchod. Pan fydd cymhlethdod y mater yn cyfiawnhau hynny, bydd y Cyngor yn cadw’r hawl i’ch hysbysu bod y cyfnod hwn yn cael ei ymestyn, a bydd hefyd yn cadarnhau hyd yr amser a’r rhesymau am yr estyniad hwn, cyn i’r cyfnod o 28 diwrnod y cyfeiriwyd ato o’r blaen ddod i ben.

Fel y dywedwyd uchod nid yw caniatâd dealledig yn berthnasol gan ei fod o fudd i’r cyhoedd fod ceisiadau’n cael eu prosesu cyn y gellir eu caniatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan y Cyngor o fewn y cyfnod o 28 diwrnod neu gyfnod unrhyw estyniad wedi hynny, cysylltwch â’r Cyngor, os gwelwch yn dda, i weld beth yw statws eich cais.

Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod am gais i roi Caniatâd ar gyfer Masnachu ar y Stryd Tymor Hir i’r bobl a’r cyrff canlynol: -

Adrannau’r Cyngor:

  • Trwyddedu
  • Diogelwch Bwyd
  • Iechyd a Diogelwch
  • Llygredd Masnachol
  • Safonau Masnach
  • Adrannau Priffyrdd
  • Cynllunio
  • Adfywio a Thwristiaeth

Hefyd:

  • Heddlu Dyfed Powys
  • Y Cyngor Tref/Cymuned perthnasol i’r lleoliad y gwnaed cais ar ei gyfer
  • Y Cynghorydd Sir dros y ward sy’n berthnasol i’r lleoliad y gwnaed cais ar ei gyfer
  • Busnesau a Thrigolion yn yr ardal gyfagos
  • Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phob caniatâd ar rwydwaith Cefnffyrdd

Efallai y cyfeirir ceisiadau eraill am ganiatâd (e.e. am ganiatâd tymor byr neu ganolig) i sylw rhai neu’r cyfan o’r uchod yn dibynnu ar effaith a natur y cais. Er enghraifft, efallai y cyfeirir eitemau megis gwerthu bwyd i sylw’r tîm diogelwch bwyd.

Caiff gwrthwynebiadau ysgrifenedig i gais eu derbyn gan y Cyngor os byddant yn dod i law o fewn y cyfnod o 14 diwrnod i’r dyddiad y rhoddodd y Cyngor hysbysiad ynghylch y cais.

Penderfynu ar Gais

Mae pwerau wedi eu dirprwyo i Reolwr Gofal Strydoedd a Pharcio’r Cyngor i roi neu wrthod cais yn dilyn y cyfnod pryd y gellir cyflwyno gwrthwynebiadau (fel y cyfeiriwyd ato yn 2.5 uchod). Wrth wneud y penderfyniad hwnnw, caiff y cais ac unrhyw wrthwynebiadau eu hystyried ochr yn ochr â Deddf 1982 a rhestr o feini prawf penodedig i benderfynu ar geisiadau i fasnachu ar y stryd cyn y gwneir penderfyniad. Ceir y meini prawf yn Atodiad 1 y ddogfen hon.

Pan fydd y Cyngor yn derbyn gwrthwynebiad ysgrifenedig ynglŷn â chais o fewn y cyfnod o 14 diwrnod a grybwyllwyd yn 2.5 uchod, bydd gan Reolwr Gofal Strydoedd a Pharcio’r Cyngor ryddid i geisio cyfryngu rhwng y partïon perthnasol.

Er enghraifft efallai y bydd modd dod o hyd i gyfaddawd drwy -

  • Newid yr amseroedd y bydd masnachu ar y stryd yn digwydd;
  • Newid y diwrnodiau y bydd masnachu ar y stryd yn digwydd;
  • Newid y rhestr o eitemau i gael eu gwerthu.

Pan fydd yr holl bartïon perthnasol yn cytuno ar gyfaddawd ac mae’r Rheolwr Gofal Strydoedd a Pharcio yn fodlon y dylid caniatáu’r cais ar y telerau hynny, rhoddir y Caniatâd gan Reolwr Gofal Strydoedd a Pharcio, yn amodol ar y newidiadau y cytunwyd arnynt.

Penderfynir ar bob cais yn ôl ei deilyngdod ei hun a rhoddir rhesymau dros y penderfyniad. Os bydd Cyngor Sir yn penderfynu rhoi neu adnewyddu caniatâd i fasnachu ar y stryd, caiff y Cyngor gysylltu amodau iddo, fel y bydd yn ystyried yn rhesymol angenrheidiol. Caiff y Cyngor Sir ar unrhyw adeg amrywio amodau caniatâd i fasnachu ar y stryd.

Caiff y Cyngor Sir roi caniatâd i fasnachu ar y stryd am unrhyw gyfnod heb fod yn hwy na 12 mis. Cyfiawnheir y cyfnod hwn gan reswm pwysig yn ymwneud â lles y cyhoedd yng ngoleuni polisi cyhoeddus.
Caiff y Cyngor ddirymu caniatâd i fasnachu ar y stryd ar unrhyw adeg. Os rhoddir caniatâd i chi, bydd yn ofynnol i chi gydymffurfio â’r amodau cysylltiedig â‘r caniatâd. Os caiff amodau eich caniatâd eu torri, yna efallai y caiff ei ddirymu.

Nid oes hawliau statudol i apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor i roi, gwrthod rhoi, adnewyddu a gwrthod adnewyddu, amrywio caniatâd neu ei ddirymu.

Os, fodd bynnag, na fydd ymgeisydd neu berson/corff, sydd wedi cyflwyno gwrthwynebiad ysgrifenedig i’r Cyngor o fewn y cyfnod penodedig, yn fodlon ar y penderfyniad ynghylch y cais, neu os na fydd daliwr caniatâd yn fodlon ar benderfyniad i amrywio telerau’r caniatâd neu ddirymu’r caniatâd, caiff y person/corff hwnnw gyflwyno apêl ysgrifenedig i Bennaeth Seilwaith y Cyngor o fewn 14 diwrnod i ddyddiad llythyr y Cyngor yn ei hysbysu am y penderfyniad.

Gellir gwneud apêl o’r fath drwy’r post i Bennaeth Seilwaith y Cyngor, Neuadd y Sir Hwlffordd, SA61 1TP neu drwy’r e-bost i streetcare@pembrokeshire.gov.uk. Rhoddir gwybod i’r apeliwr am ganlyniad yr apêl yn ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod i dderbyn yr apêl.

Gellir herio penderfyniad y Cyngor hefyd drwy adolygiad barnwrol i’r Uchel Lys.

At hynny mae proses gwynion y Cyngor yn agored i chi, a cheir manylion hon drwy’r ddolen https://www.pembrokeshire.gov.uk/complaints neu drwy ffonio ein canolfan gyswllt ar 01437 764551.

Os caiff caniatâd i fasnachu ar y stryd ei roi, caiff daliwr y caniatâd hwnnw ildio ei ganiatâd ar unrhyw adeg i’r Cyngor ac wedyn bydd yn peidio â bod yn ddilys.

Ceisiadau i Adnewyddu Caniatâd i Fasnachu ar y Stryd

Gellir rhoi caniatâd am gyfnod heb fod yn hwy na deuddeng mis ond ceir ei roi am gyfnod byrrach. Anfonir llythyrau atgoffa ynghylch adnewyddu i ddalwyr caniatâd 6 wythnos cyn i’w caniatâd ddod i ben.
Dylid gwneud cais i adnewyddu caniatâd presennol i fasnachu ar y stryd o leiaf un mis calendr cyn y mae i fod i ddod i ben. Unwaith y bydd y ffurflen gais i adnewyddu wedi ei chwblhau, wedi dod i law, efallai y bydd y Cyngor yn hysbysu pobl/cyrff ymhellach yn dibynnu ar dymor y caniatâd sy’n destun y cais (gweler 2.4 a 2.5 uchod). Gweler 2.6 uchod ynglŷn â phenderfynu ar geisiadau.

Os na chaiff cais i adnewyddu ei wneud cyn dyddiad terfyn y caniatâd presennol, bydd angen gwneud cais newydd. Effaith hyn fydd na chaniateir masnachu ar y stryd hyd nes y bydd penderfyniad wedi ei wneud ynglŷn â’r cais newydd.

Trosglwyddo Caniatâd i Fasnachu ar y Stryd

Ni cheir trosglwyddo caniatâd i fasnachu ar y stryd na’i werthu i berson arall.

Gwaherddir is-osod llain.

Amodau

Os bydd y Cyngor yn penderfynu rhoi neu adnewyddu caniatâd i fasnachu ar y stryd, caiff y Cyngor gysylltu’r cyfryw amodau iddo ag y mae’n eu hystyried yn rhesymol angenrheidiol, a bydd yr amodau safonol yn berthnasol i’r caniatâd oni fydd y Cyngor yn cadarnhau fel arall. Nid yw’r amodau safonol yn rhestr gyflawn a cheir cysylltu amodau eraill â chaniatâd unigol lle bo’n briodol. Ceir copi o’r amodau safonol yn Atodiad 2 y Polisi hwn.

Efallai y bydd y Cyngor Sir yn cynnwys caniatâd i ddaliwr caniatâd i fasnachu mewn stryd â chaniatâd allan o fan sefydlog, cert, berfa neu gerbyd arall; neu o stondin gludadwy. Wrth wneud hynny, caiff y Cyngor beri i’r caniatâd fod yn ddarostyngedig i amodau: - ynghylch ble y bydd daliwr y caniatâd i fasnachu ar y stryd yn cael masnachu; a’r amseroedd y bydd daliwr y caniatâd i fasnachu ar y stryd yn cael masnachu rhyngddynt neu’r cyfnodau.

Gorfodi

Ymdrinnir â’r holl gamau gorfodi a gymerir gan y Cyngor yn unol â Pholisi Gorfodi Is-adran Amddiffyn y Cyhoedd y Cyngor ac egwyddorion cysondeb, tryloywder a chymesuredd a eglurir yng Nghod y Rheoleiddiwr.
Troseddau

Mae troseddau dan Atodlen 4 Deddf 1982 yn cynnwys -

  • Masnachu ar y stryd mewn stryd â chaniatâd heb ei awdurdodi i wneud hynny dan yr Atodlen 4 ddywededig;
  • Cael ei awdurdodi drwy ganiatâd i fasnachu ar y stryd mewn stryd â chaniatâd, masnachu yn y stryd honno allan o fan sefydlog, cert, berfa neu gerbyd arall; neu o stondin gludadwy; heb yn gyntaf dderbyn caniatâd i wneud hynny, neu fynd yn groes i amod a osodwyd dan ganiatâd a roddwyd; neu
  • Unrhyw berson sy’n gwneud datganiad ffug y mae ef/hi yn gwybod ei fod yn ffug yn unrhyw ffordd o bwys, neu nad yw ef/hi yn credu ei fod yn wir, mewn cysylltiad â’r cais am ganiatâd i fasnachu ar y stryd.

Atodiad 1

Meini prawf ar gyfer Penderfynu ar Geisiadau am Ganiatâd i Fasnachu ar y Stryd

  • Bydd pob cais yn cael ei gloriannu yn ôl ei deilyngdod ei hun.
  • Caiff nifer y masnachwyr stryd yn unrhyw un stryd ei gyfyngu er mwyn peidio ag achosi gormodedd yn yr un lle.
  • Rhaid i safle a gweithrediad unrhyw fasnachwr stryd fod yn gyfryw nad yw yn achosi unrhyw broblemau o ran diogelwch y ffordd, rhwystr ar y stryd na pherygl i bersonau sy’n ei defnyddio, rhwystr ar ffordd llinellau gwelediad pwysig camerâu teledu cylch cyfyng, gwrthdaro yn erbyn gofynion cerbydau brys na chreu problemau parcio annerbyniol.
  • Ni fydd lleoliadau ar gyfer defnydd ag anghenion neilltuol (megis cyflenwad dŵr neu drydan) yn cael eu hystyried ond lle gellir darparu’r cyflenwadau hyn yn ddiogel ac yn gyfleus.
  • Rhaid i'r defnydd fod yn gydnaws â chymeriad yr ardal lle y bwriedir ei leoli. Rhaid i ddyluniad yr uned beidio â chael effaith anffafriol sylweddol ar fwynder gweledol yr ardal.
  • Rhaid i ymddangosiad a defnydd yr Uned Fasnachu Stryd, gan gynnwys offer neu strwythurau cysylltiedig, fod o ansawdd da sy’n cyd-fynd â naws yr ardal. Bydd angen dangos union ymddangosiad yr uned cyn y rhoddir caniatâd. (Er mwyn eglurder, cydnabyddir mai barn oddrychol yw ‘ansawdd da’, ond bydd yn cynnwys cyfeiriad at ansawdd a chyflwr yr uned, y cynnyrch a’r staff, o ran eu gwisg ac o ran eu hymddygiad hefyd, a bydd yn berthnasol ar ddechrau'r caniatâd ac yn parhau yn ystod ei weithredu.)
  • Ni roddir caniatâd i ddefnydd sy’n debygol o achosi problemau sŵn, niwsans neu annifyrrwch, tarfu ar draffig, arogl, sbwriel neu aflonyddwch yn hwyr y nos yn enwedig mewn ardaloedd preswyl.
  • Efallai y rhoddir ystyriaeth i unrhyw effeithiau iechyd cadarnhaol a ddarperir gan yr amrywiaeth o fwyd a diodydd fydd ar gael i gwsmeriaid.
  • Ni roddir ystyriaeth i geisiadau am ganiatâd neu adnewyddu caniatâd i unrhyw fasnachwr stryd sydd ag ôl-ddyledion ffioedd masnachu ar y stryd hyd nes y bydd dyledion o’r fath wedi cael eu talu’n llawn.
  • Mae’r Cyngor yn annog masnachwyr stryd i ddarparu gwasanaethau ac arwyddion yn Gymraeg a Saesneg lle bo modd, ond nid yw hyn yn amod cais. Fodd bynnag, byddai’r Cyngor yn falch pe bai pob cais yn amlinellu unrhyw wasanaethau neu arwyddion Cymraeg fydd yn berthnasol i’w masnach ar y stryd. Cedwir y wybodaeth hon er gwybodaeth i’r Cyngor ynghylch dulliau a thueddiadau mewn gwasanaethau Cymraeg yn unig, ac ni fydd yn cael ei hystyried fel rhan o’r broses ymgeisio a rhoi caniatâd.

Atodiad 2

Telerau ac Amodau Safonol Masnachu ar y Stryd

Bydd unrhyw ganiatâd i Fasnachu ar y Stryd a roddir gan y Cyngor yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol, cyn belled na fyddant yn gwrthdaro neu’n cael eu newid gan amodau penodol a osodwyd pan roddwyd y Caniatâd i Fasnachu ar y Stryd:

  • Mae’r Caniatâd i Fasnachu ar y Stryd yn ddilys am y cyfnod a nodir yn y Caniatâd. Os nad oes cyfnod o amser wedi ei nodi yn y Caniatâd, fe’i rhoddir am gyfnod o 12 mis o ddyddiad rhoi’r caniatâd.
  • Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd dalu ffi i’r Cyngor yn unol â’r rhestr gymeradwy o ffioedd.
  • Caiff Daliwr y Caniatâd ildio’r Caniatâd i Fasnachu ar y Stryd ar unrhyw adeg, a rhaid i’r Cyngor dalu i Ddaliwr y Caniatâd i Fasnachu ar y Stryd y rhan honno o’r ffi y mae’r Cyngor yn ystyried sy’n briodol am y cyfnod cyn terfyn y Caniatâd i Fasnachu ar y Stryd.
  • Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd bob amser, wrth fasnachu, arddangos yn glir y Caniatâd i Fasnachu ar y Stryd a roddwyd gan y Cyngor.
  • Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd bob amser, wrth fasnachu, arddangos yn glir ac yn weladwy fathodyn adnabod dilys a roddwyd gan y Cyngor.
  • Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd beidio â chynnal ei fasnach yn y fath ffordd ag i achosi rhwystr ar unrhyw ran o’r Stryd lle mae’n masnachu, na chreu perygl i bersonau yn y stryd.
  • Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd beidio â chynnal ei fasnach yn y fath ffordd ag i achosi niwsans neu annifyrrwch i bersonau sy’n defnyddio’r stryd nac i rai sy’n byw’n gyfagos.
  • Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd beidio â gwerthu unrhyw fath o fwydydd, nwyddau na marsiandïaeth ond yr hyn a nodwyd yn y Caniatâd i Fasnachu ar y Stryd.
  • Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd ddarparu a chynnal, lle bo’n briodol, gyfleusterau digonol ar gyfer casglu’r sbwriel sy’n ganlyniad ei fasnach ac ar ddiwedd pob diwrnod masnachu rhaid iddo symud y sbwriel hwnnw o’r stryd.
  • Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd fod yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i’r Stryd neu fel arall sy’n ganlyniad ei weithgaredd Masnachu ar y Stryd.
  • Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd wneud y cyfryw ddarpariaeth ag sydd ei hangen i atal gadael yn unrhyw stryd sbwriel solid neu hylifol, sy’n ganlyniad ei weithgaredd Masnachu ar y Stryd, a rhaid iddo beidio â thaflu dŵr gwastraff ar wyneb y Stryd nac i’r traeniau ar gyfer dŵr wyneb.
  • Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd beidio â defnyddio unrhyw deledu, recordydd sain na dyfais arall ar gyfer ailgynhyrchu sŵn tra bydd yn masnachu ar y stryd heb ganiatâd ysgrifenedig y Cyngor.
  • Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd beidio â chynnal Masnach ar y Stryd y tu allan i’r amseroedd a'r dyddiau a ganiatawyd gan y Caniatâd i Fasnachu ar y Stryd.
  • Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd beidio â masnachu yn unrhyw leoliad ac eithrio’r lleoliad a ganiatawyd gan y Caniatâd i Fasnachu ar y Stryd.
  • Rhaid i ddefnydd a storio nwy petrol hylifol gydymffurfio ag unrhyw ofynion a nodwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
  • Rhaid i’r Caniatâd i Fasnachu beidio â gweithredu i unrhyw ddiben arall ac eithrio i ganiatáu i Ddaliwr y Caniatâd, neu berson sy’n cael ei gyflogi gan Ddaliwr y Caniatâd i’w gynorthwyo yn ei fasnach, i fasnachu mewn Stryd â Chaniatâd yn unol â’r amodau a osodwyd dan y Caniatâd i fasnachu ar y Stryd. Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd sicrhau ei fod ef/hi wedi derbyn unrhyw gymeradwyaeth arall neu gofrestriad sy’n ofynnol dan unrhyw ddarpariaethau statudol eraill yn ymwneud â’i fasnach.
  • Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd fod yn gyfrifol bob amser am reoli’r Uned Fasnachu ar y Stryd. Rhaid i unrhyw berson sy’n cynorthwyo yn yr uned fod yn 17 mlwydd oed neu hŷn.
  • Mae’r Caniatâd i Fasnachu ar y Stryd yn bersonol i Ddaliwr y Caniatâd a enwyd ynddo ac ni cheir ei ddyrannu, ei is-osod na’i drosglwyddo i unrhyw berson, busnes na chwmni arall.
  • Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd neu ei gyflogai symud yr uned Fasnachu ar y Stryd neu adael y safle ar unwaith os bydd Plismon neu Swyddog Awdurdodedig y Cyngor yn ei gyfarwyddo i wneud hynny.
  • Ni fydd dim sydd wedi ei gynnwys yn y ddogfen hon yn amharu ar hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau’r Cyngor nac unrhyw awdurdod gorfodi arall dan unrhyw statudau, gorchmynion, rheoliadau nac is-ddeddfau cyhoeddus na phreifat. Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd bob amser ddal polisi Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus Trydydd Parti dilys sy’n foddhaol i’r Cyngor a dangos tystiolaeth o yswiriant o'r fath ar unrhyw adeg os gofynnir. Ni fydd dim sydd wedi ei gynnwys yn yr amodau hyn yn rhyddhau nac yn esgusodi Daliwr y Caniatâd neu ei gyflogai neu ei asiant rhag unrhyw ddyletswydd neu atebolrwydd cyfreithiol a rhaid i Ddaliwr y Caniatâd indemnio’r Cyngor o ran pob hawliad, cam gweithredu, gofyniad neu gost sy’n codi o’i Fasnach ar y Stryd.
  • Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd, a/neu unrhyw berson a gyflogir gan Ddaliwr y Caniatâd i’w gynorthwyo yn ei fasnach, wisgo dillad glân ac addas.
  • Rhaid i Ddaliwr y Caniatâd hysbysu’r Cyngor o fewn 7 diwrnod os bydd unrhyw wybodaeth a roddwyd wrth wneud y cais am ganiatâd yn newid.
  • Caiff y Cyngor amrywio’r amodau sy’n gysylltiedig â’r Caniatâd i Fasnachu ar y Stryd ar unrhyw adeg.
  • Os caiff yr amodau eu torri o gwbl efallai y bydd hynny’n arwain at ddirymu’r Caniatâd i Fasnachu ar y Stryd.

Atodiad 3

Canllawiau ynghylch addasrwydd ymgeiswyr

Egwyddorion Cyffredinol

Prif nod y polisi hwn yw amddiffyn y cyhoedd. I fod o gymorth i gyrraedd y nod hon, bydd y Cyngor yn ystyried addasrwydd ymgeiswyr i gael eu hawdurdodi fel masnachwyr stryd. Mae Masnachwyr Stryd a’u gweithgareddau masnachol yn aml yn destun lefelau isel o oruchwyliaeth. Maent yn rhyngweithio’n agos ag aelodau o’r cyhoedd ac mae’n bwysig bod y cyhoedd, yn enwedig pobl agored i niwed, yn cael eu hamddiffyn rhag niwed, a rhag y rheiny a allai eu niweidio, lle bynnag y bo modd.

Bydd y Cyngor yn penderfynu a yw’r ymgeisydd yn berson addas i redeg busnes fel masnachwr stryd ac efallai na fydd yn rhoi caniatâd os na fydd yn fodlon bod yr ymgeisydd yn addas. Wrth benderfynu hyn, efallai y bydd y Cyngor yn talu sylw i unrhyw wybodaeth, y mae’n ei hystyried yn berthnasol, yn enwedig:

  • A yw’r ymgeisydd wedi ei gael yn euog o unrhyw drosedd berthnasol:
  • A yw’r ymgeisydd wedi ei gael yn euog o unrhyw gam gorfodi perthnasol:
  • Unrhyw dro o’r blaen y cafodd cais am ganiatâd neu adnewyddu caniatâd i fasnachu ar y stryd ei wrthod (a’r rhesymau dros hynny);
  • Unrhyw dro o’r blaen y cafodd caniatâd i fasnachu ar y stryd ei ddirymu (a’r rhesymau dros y dirymiad);

I ddibenion y polisi hwn, mae troseddau perthnasol yn cynnwys euogfarnau sydd heb ddarfod am droseddau yn cynnwys anonestrwydd, defnyddio a chyflenwi cyffuriau rheoledig, trais a throseddau o natur rywiol, sy’n llai na 3 mlwydd oed ar y dyddiad y derbyniwyd y cais i fasnachu ar y stryd a byddant yn cael eu cynnwys yn yr ystyriaeth ynghylch a yw’r ymgeisydd yn berson addas i ddal caniatâd i fasnachu ar y stryd.

Bydd disgwyl i berson sydd ag euogfarn am drosedd berthnasol fod wedi cadw’n rhydd o euogfarnau am gyfnod o amser, cyn y caniateir cais. Ceir arfer peth dewis os yw’r drosedd yn un ar ei phen ei hun, yn fychan ei natur a bod yna amgylchiadau lliniarol. Fodd bynnag, yr ystyriaeth bennaf bob amser fydd amddiffyn y cyhoedd.

Er gwaethaf yr uchod, mae’r Cyngor yn ymwybodol o’i ddyletswydd i beidio â chyfyngu ei ddisgresiwn a bydd yn caniatáu dadl gan yr ymgeisydd pam y byddai er hynny yn briodol i roi caniatâd i fasnachu ar y stryd.
Canllawiau ynghylch perthnasedd euogfarnau

Bydd pob cais yn cael ei gloriannu yn ôl ei deilyngdod ei hun.

  • Bydd y Cyngor yn asesu a yw:
    • ymgeisydd am ganiatâd neu adnewyddu caniatâd i fasnachu ar y stryd yn berson addas i ddal neu i barhau i ddal caniatâd i fasnachu ar y stryd,
    • Wrth wneud yr asesiad hwnnw, bydd y Cyngor yn ystyried euogfarnau blaenorol personau o’r fath.
  • Wrth ystyried euogfarnau blaenorol y personau hynny a grybwyllwyd uchod, bydd y Cyngor yn ystyried y canlynol:
    • a yw’r euogfarn yn berthnasol;
    • difrifoldeb y drosedd;
    • hyd yr amser ers i’r drosedd ddigwydd;
    • a oes yna batrwm o ymddygiad troseddol;
    • a yw amgylchiadau'r person hwnnw wedi newid ers i’r drosedd ddigwydd;
    • yr amgylchiadau o gwmpas y drosedd a’r esboniad a gynigiwyd gan y person hwnnw.
  • Rhydd yr enghreifftiau canlynol arweiniad cyffredinol ynghylch y camau i’w cymryd lle mae euogfarnau a rhybuddion perthnasol yn amlwg.
    • Troseddau yn cynnwys Trais

Bydd ymgeisydd ag euogfarnau am droseddau yn cynnwys trais yn cael ei ystyried yn ofalus. Yn dibynnu ar natur a difrifoldeb y drosedd, pan fydd gan ymgeiswyr euogfarnau am achosi anaf corfforol difrifol, clwyfo, ymosod, neu droseddau mwy difrifol fyth yn cynnwys trais, yn gyffredinol, dylai cyfnod o dair i ddeng mlynedd rhydd o euogfarnau fynd heibio cyn y rhoddir caniatâd.

    • Troseddau cysylltiedig â chyffuriau

Ni fydd un euogfarn ar ei phen ei hun am drosedd yn ymwneud â chyffuriau, boed am feddiant anghyfreithlon yn unig neu’n cynnwys cyflenwi cyffuriau rheoledig, o reidrwydd yn atal ymgeisydd rhag cael caniatâd i fasnachu ar y stryd, cyn belled â bod gan yr ymgeisydd dair blynedd o leiaf yn rhydd o euogfarnau.

Fel rheol, bydd cais yn cael ei wrthod lle bo gan ymgeisydd fwy nag un euogfarn am droseddau yn ymwneud â meddu ar gyffuriau a lle bo’r euogfarn ddiwethaf neu ddyddiad ei ryddhau o’r carchar, os gosodwyd dedfryd o garchar, yn llai na 5 mlynedd cyn dyddiad y cais.

    • Troseddau rhywiol

Ni fydd ymgeiswyr ag unrhyw droseddau o natur rywiol heb ddarfod, fel rheol, yn cael caniatâd i fasnachu ar y stryd.

    • Anonestrwydd

Mae’n rhaid i ddalwyr caniatâd i fasnachu ar y stryd fod yn bersonau y gellir ymddiried ynddynt. Mae’n hawdd i fasnachwr anonest fanteisio ar y cyhoedd. Mae aelodau o’r cyhoedd sy’n defnyddio allanfa fasnachu ar y stryd yn disgwyl i’r daliwr fod yn onest ac yn ddibynadwy. Am y rhesymau hyn bydd unrhyw euogfarn yn cynnwys anonestrwydd yn cael ei hystyried yn ddifrifol.

Ni fydd euogfarnau am fân droseddau yma ac acw o reidrwydd yn atal ymgeisydd rhag cael caniatâd i fasnachu ar y stryd, ond mewn achosion yn cynnwys lladrad neu dwyll difrifol, dylai tair blynedd o leiaf fod wedi mynd heibio cyn rhoi caniatâd. Pan fydd trais wedi cyd-fynd â throseddau o anonestrwydd, dylai pum mlynedd o leiaf yn rhydd o euogfarn fod wedi mynd heibio cyn rhoi caniatâd.

    • Euogfarnau Gyrru

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae troseddau moduro yn annhebygol o fod yn berthnasol wrth benderfynu a yw ymgeisydd am ganiatâd i fasnachu ar y stryd yn berson addas. Fodd bynnag, efallai y bydd yna achosion pan fydd y troseddau o natur ddifrifol iawn. Yn yr achosion hynny, disgwylid i ymgeisydd ddangos cyfnod o 3 blynedd o leiaf yn rhydd o unrhyw euogfarnau o’r fath ers dyddiad yr euogfarn neu ddyddiad ei ryddhau o’r carchar os gosodwyd dedfryd o garchar.

Ym mhob achos, bydd pob cais unigol yn cael ei gloriannu yn ôl ei deilyngdod ei hun

ID: 10956, adolygwyd 09/10/2023