Trwyddedu

Trwyddedau alcohol ac adloniant

Trwydded safle

Mae trwydded safle yn awdurdodi defnyddio'r safle ar gyfer un neu fwy o weithgareddau trwyddedadwy sef:

  • Gwerthu alcohol trwy fanwerthu
  • Darparu adloniant rheoledig
  • Darparu lluniaeth hwyrnos

Wrth baratoi ceisiadau, dylech ddarllen ein Datganiad o Bolisi Trwyddedu  a dilyn y canllawiau statudol (a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref o dan adran 182 o Ddeddf Trwyddedu 2003), wrth ddisgrifio'r camau rydych yn bwriadu eu cymryd er mwyn hybu'r amcanion trwyddedu, sef:

  • Atal Troseddu ac Anhrefn
  • Diogelu'r Cyhoedd
  • Atal Niwsans Cyhoeddus
  • Amddiffyn Plant rhag Niwed

 

Ffurflenni Cais

 

Ffiodd

 

Trwydded personol

Rydym yn cyflwyno trwyddedau personol sy'n caniatáu i unigolion awdurdodi gwerthiant alcohol ar safle - cyhyd â bod gan y safle drwydded safle ddilys - sy'n cynnwys tafarnau, siopau trwyddedig, bwytai a gwestai.

Gall deiliaid trwydded bersonol hefyd gael eu henwi ar drwydded safle fel Goruchwylydd Penodedig y Safle.

Sut i wneud cais

Mae'n rhaid ichi wneud cais i'r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal lle rydych chi'n byw, nid yr awdurdod trwyddedu lle rydych chi'n gweithio.

Y ffi ar gyfer y drwydded hon yw £37.

Cyn cyflwyno'ch cais, rydym yn awgrymu eich bod yn darllen ein nodiadau cyfarwyddyd  - mae'r rhain yn egluro gofynion y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â hwy.

Ffurflenni Cais

Cais am Drwydded Bersonol

Datgeliad Collfarnau a Datganiad

 

Gellir cael pob cais trwy e-bostio licensing@pembrokeshire.gov.uk neu drwy gysylltu â'n canolfan gwasanaeth cwsmeriaid ar 01437 764551

Yn gorff cyhoeddus, ein dyletswydd yw diogelu'r arian cyhoeddus yr ydym yn ei weinyddu, ac i'r perwyl hwn gallem ddefnyddio'r wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi ar y ffurflen hon er mwyn atal a darganfod  twyll.  Gallem hefyd rannu'r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus i'r dibenion hyn.   

ID: 2057, adolygwyd 08/02/2023