Uned Ewropeaidd
Amcan Un
Fe wnaeth Cyngor Sir Penfro ddarparu'r ysgrifenyddiaeth ar gyfer Bwrdd Rheoli Partneriaeth Sir Benfro, sef y corff a oruchwyliodd arian Amcan 1 yn y Sir. Fe gynigiodd uned Ewropeaidd y Cyngor Sir wasanaeth gwybodaeth i sefydliadau a oedd yn dymuno sicrhau arian gan Amcan 1. Fe wnaeth y tîm reoli'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd ar gyfer prosiectau Cyngor Sir Penfro ei hunan yn ogystal â rhoi cyngor ynghylch y polisi Ewropeaidd, i aelodau a swyddogion etholedig.
Rhwng 2000 a 2006 fe wnaeth Sir Benfro elwa ar fuddsoddiad o fwy na £100 miliwn o ganlyniad i arian Ewropeaidd Amcan 1. Bu'n fodd i gyfrannu at lwyddiant sawl cynllun gwahanol, a oedd yn amrywio o syniadau arloesol am gludiant hyd at ddarparu grantiau a chymorth i fusnesau lleol a phrosiectau cymunedol a llawer rhagor.
Er mwyn cael copi o'n taflen liw Amcan 1 neu ein hadroddiadau blynyddol byddwch cystal â chysylltu â Helen Ross helen.ross@pembrokeshire.gov.uk