Uned Ewropeaidd

Cronfa Pysgodfeydd Ewrop

Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd O'r Cleddau i'r Glannau

Mae Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd O'r Cleddau i'r Glannau yn gweithredu yn ardal awdurdod Sir Benfro. Prif amcan y Grŵp yw cynnal gweithgareddau dan arweiniad y gymuned er mwyn ceisio gwella cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol diwydiant pysgota Sir Benfro. Byddai hefyd yn hoffi sicrhau bod llais a lles cymunedau pysgota yn cael eu deall a'u hyrwyddo. Mae'r Grŵp yn awyddus i gwrdd â phobl sy'n gysylltiedig ag unrhyw elfen o gymuned bysgota, er mwyn clywed eu barn am anghenion eu cymuned a thrwy hynny gynnig syniadau a phrosiectau y gallai'r Grŵp eu cefnogi a buddsoddi ynddynt.

Nod Cyffredinol y Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd

Mae Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd O'r Cleddau i'r Glannau (y Grŵp) yn gweithredu yn ardal Sir Benfro. Mae'r Grŵp yn awyddus i wella cydberthnasau rhwng sectorau gwahanol sy'n gysylltiedig â physgodfeydd drwy eu hannog i gymryd rhan mewn prosiectau cydweithredol. Nod cyffredinol y Grŵp yw: “Helpu diwydiant pysgota Sir Benfro i wella ei gynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol drwy ychwanegu gwerth, arallgyfeiro a chydweithio, a sicrhau y caiff llais a lles cymunedau pysgota eu deall a'u hyrwyddo”.

Amcanion y Grŵp:

Mae amcanion y Grŵp yn rhoi syniad o'r math o brosiectau/gweithgareddau y gellir defnyddio cyllid y Grŵp i'w hariannu:

  1. Ychwanegu gwerth at gynhyrchion pysgodfeydd a dyframaeth – Cynyddu gwerth cynhyrchion pysgodfeydd Sir Benfro fel eu bod yn sicrhau pris uwch ar y farchnad.
  2. Lleihau cost cynhyrchu cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaeth – Lleihau costau gweithredu diwydiant pysgota Sir Benfro er mwyn helpu i gynyddu proffidioldeb ac incwm busnesau. Hefyd, lleihau'r costau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â physgota a/neu weithgareddau prosesu pysgod.
  3. Arallgyfeirio incwm cymunedau pysgota – Gwella cynaliadwyedd economaidd busnesau a chynyddu incwm unigolion drwy eu helpu i amrywio eu ffynonellau incwm, a hynny o fewn y diwydiant pysgota neu'r tu hwnt iddo.
  4. Sicrhau budd i rywogaethau targed – Cydnabod bod dyfodol y diwydiant pysgota yn dibynnu ar stociau iach o rywogaethau targed. Felly, gellir mynd i'r afael â materion amgylcheddol drwy'r amcan hwn.
  5. Codi proffil pysgota yn Sir Benfro – Annog pobl i fwyta bwyd môr lleol, a thrwy hynny gynyddu'r galw amdano a'i farchnadwyedd. Tynnu sylw at bysgota fel gyrfa bosibl (o ganlyniad i weithlu sy'n heneiddio).


Hefyd, helpu i sicrhau bod llais cymunedau pysgota yn cael ei glywed mewn datblygiadau lleol ac economaidd (yn enwedig mewn gweithgareddau pysgodfeydd a dyframaeth).

Noder: Nid oes amcan penodol i hyrwyddo cyfleoedd i feithrin sgiliau; gellid cynnwys addysg a sgiliau mewn unrhyw amcan penodol.

Cymhwysedd am gyllid gan y Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd – beth y gall y Grŵp fuddsoddi ynddo?

Nid yw'r Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd yn gynllun grant (h.y. ni all unigolion wneud cais am grantiau/cyllid ar gyfer eu hanghenion penodol). Yn lle hynny, bydd Cyngor Sir Penfro yn cynnal prosiectau (neu weithgareddau) ar ran y Grŵp a, lle y bo angen, yn gwahodd unigolion/sefydliadau i dendro am brosiectau penodol. Dylai'r prosiectau sicrhau budd i gymunedau a/neu grwpiau, yn hytrach nag i unigolion.

Gweler isod wybodaeth am yr hyn sy'n gymwys am gyllid gan y Grŵp, ac am y modd y gellir defnyddio'r cyllid hwnnw:

  •  Rhaid i brosiectau gyflawni un neu fwy o amcanion penodol y Grŵp.
  • Dylai'r prosiectau gynnwys nodwedd(ion) arloesol.
  • Ni all y Grŵp ariannu darnau mawr o gyfarpar – e.e. eitemau unigol sy'n costio mwy na £10,000, eitemau ac iddynt oes ddefnyddiol o fwy na blwyddyn, neu eitemau y mae tâl dibrisiant blynyddol yn gysylltiedig â nhw.
  • Nid oes uchafswm gwerth ariannol llym ar gyfer prosiect a ariennir gan y Grŵp – fodd bynnag, rhoddir ystyriaeth ofalus i brosiectau sy'n costio mwy na £25,000.
  • Gall y Grŵp ariannu hyd at 100% o werth prosiect.
  • Gellir defnyddio cyllid y Grŵp fel arian cyfatebol ar gyfer prosiectau eraill nad ydynt yn cael eu hariannu gan yr UE.
  • Gellir defnyddio cyllid y Grŵp i gefnogi nifer o agweddau ar gymunedau pysgota – nid yw'r cyllid yn gyfyngedig i bysgotwyr a physgodfeydd.
  • Rhaid i brosiectau'r Grŵp gael eu cymeradwyo am gyllid gan bob aelod o fwrdd y Grŵp.

Noder: Mae'r Grŵp yn awyddus i glywed am unrhyw brosiectau posibl sy'n gysylltiedig â physgodfeydd (ni waeth a ydynt yn bodloni meini prawf y Grŵp ai peidio), gan y gallai fod cyfleoedd eraill am gyllid ar gael.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd O'r Cleddau i'r Glannau:

E-bost: FLAG@pembrokeshire.gov.uk Ffôn: 01437 775790

Facebook: FLAG Pembrokeshire 

Hysbysiad Preifatrwydd: Os byddwch yn ymwneud â'r Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd, efallai y caiff eich manylion cyswllt (a gwybodaeth bersonol arall) eu cofnodi a'u storio ar gronfa ddata. Caiff y gronfa ddata hon ei defnyddio i rannu gwybodaeth am weithgareddau'r Grŵp. Ni fydd y Grŵp yn rhannu eich manylion cyswllt â thrydydd partïon.

 

               

ID: 2365, adolygwyd 07/02/2023