Uned Ewropeaidd
Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop
Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd O'r Cleddau i'r Glannau
Mae Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd O'r Cleddau i'r Glannau yn gweithredu yn ardal awdurdod Sir Benfro. Prif amcan y Grŵp yw cynnal gweithgareddau dan arweiniad y gymuned er mwyn ceisio gwella cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol diwydiant pysgota Sir Benfro. Byddai hefyd yn hoffi sicrhau bod llais a lles cymunedau pysgota yn cael eu deall a'u hyrwyddo. Mae'r Grŵp yn awyddus i gwrdd â phobl sy'n gysylltiedig ag unrhyw elfen o gymuned bysgota, er mwyn clywed eu barn am anghenion eu cymuned a thrwy hynny gynnig syniadau a phrosiectau y gallai'r Grŵp eu cefnogi a buddsoddi ynddynt.
Nod Cyffredinol y Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd
Mae Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd O'r Cleddau i'r Glannau (y Grŵp) yn gweithredu yn ardal Sir Benfro. Mae'r Grŵp yn awyddus i wella cydberthnasau rhwng sectorau gwahanol sy'n gysylltiedig â physgodfeydd drwy eu hannog i gymryd rhan mewn prosiectau cydweithredol. Nod cyffredinol y Grŵp yw: “Helpu diwydiant pysgota Sir Benfro i wella ei gynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol drwy ychwanegu gwerth, arallgyfeiro a chydweithio, a sicrhau y caiff llais a lles cymunedau pysgota eu deall a'u hyrwyddo”.
Amcanion y Grŵp:
Mae amcanion y Grŵp yn rhoi syniad o'r math o brosiectau/gweithgareddau y gellir defnyddio cyllid y Grŵp i'w hariannu:
- Ychwanegu gwerth at gynhyrchion pysgodfeydd a dyframaeth – Cynyddu gwerth cynhyrchion pysgodfeydd Sir Benfro fel eu bod yn sicrhau pris uwch ar y farchnad.
- Lleihau cost cynhyrchu cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaeth – Lleihau costau gweithredu diwydiant pysgota Sir Benfro er mwyn helpu i gynyddu proffidioldeb ac incwm busnesau. Hefyd, lleihau'r costau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â physgota a/neu weithgareddau prosesu pysgod.
- Arallgyfeirio incwm cymunedau pysgota – Gwella cynaliadwyedd economaidd busnesau a chynyddu incwm unigolion drwy eu helpu i amrywio eu ffynonellau incwm, a hynny o fewn y diwydiant pysgota neu'r tu hwnt iddo.
- Sicrhau budd i rywogaethau targed – Cydnabod bod dyfodol y diwydiant pysgota yn dibynnu ar stociau iach o rywogaethau targed. Felly, gellir mynd i'r afael â materion amgylcheddol drwy'r amcan hwn.
- Codi proffil pysgota yn Sir Benfro – Annog pobl i fwyta bwyd môr lleol, a thrwy hynny gynyddu'r galw amdano a'i farchnadwyedd. Tynnu sylw at bysgota fel gyrfa bosibl (o ganlyniad i weithlu sy'n heneiddio).
Hefyd, helpu i sicrhau bod llais cymunedau pysgota yn cael ei glywed mewn datblygiadau lleol ac economaidd (yn enwedig mewn gweithgareddau pysgodfeydd a dyframaeth).
Noder: Nid oes amcan penodol i hyrwyddo cyfleoedd i feithrin sgiliau; gellid cynnwys addysg a sgiliau mewn unrhyw amcan penodol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd O'r Cleddau i'r Glannau:
E-bost: FLAG@pembrokeshire.gov.uk Ffôn: 01437 775790
Facebook: FLAG Pembrokeshire (yn agor mewn tab newydd)
Hysbysiad preifatrwydd: Os byddwch yn ymwneud â'r Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd, efallai y caiff eich manylion cyswllt (a gwybodaeth bersonol arall) eu cofnodi a'u storio ar gronfa ddata. Caiff y gronfa ddata hon ei defnyddio i rannu gwybodaeth am weithgareddau'r Grŵp. Ni fydd y Grŵp yn rhannu eich manylion cyswllt â thrydydd partïon.