Uned Ewropeaidd

Yr Uned Ewropeaidd

Mae'r Uned Ewropeaidd o fewn Cyngor Sir Penfro. Rydym yn ymdrin â phob mater sy'n ymwneud â datblygu, darparu ac ôl-ofal prosiectau a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Ar hyn o bryd rydym yn y cyfnod cyllido sy'n rhedeg o 2014-2020, a'r rhaglenni canlynol sy'n effeithio ar Sir Benfro yw'r Cyllid Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop. 

Tîm Ewropeaidd

  • Gwyn Evans - Rheolwr Ewropeaidd
  • Helen Ross - Swyddog Ewropeaidd
  • Sarah Berry - Swyddog Ewropeaidd
  • Geraldine O’Donnell - Swyddog Ewropeaidd
  • Sarah Lacey - Swyddog Perfformiad ac Ansawdd
  • Andrew Boyett - Swyddog Perfformiad ac Ansawdd

Cyferiad: 0A – Neuadd Y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1TP

Rhaglenni Ewropeaidd 2014-2020

Mae Sir Benfro yn rhan o ranbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, sy'n cwmpasu 15 ardal awdurdod lleol, wedi derbyn y lefel uchaf o gefnogaeth gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer cyfnod y rhaglen Cronfeydd Strwythurol 2014-2020. Mae hyn ar gael trwy bedair rhaglen ariannu.

Mae rhaglenni Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn cynnwys cyllid o ddwy Gronfa Strwythurol Ewropeaidd ar wahân: Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Am ragor o wybodaeth am y rhaglenni:

Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewrop 2014 - 2020

Cydweithrediad Tiriogaethol Ewropeaidd 2014-2020

Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020

Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop 2014 - 2020

 

Cronfa Mor a Physgodfeydd Ewrop Cronfeydd Strwythurol a Buddosoddi Ewropeaidd

Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop

Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig

ID: 2356, adolygwyd 02/02/2023