Uned Trafnidiaeth Integredig
Uned Trafnidiaeth Integredig
Mae Uned Trafnidiaeth Integredig y cyngor yn cydlynu ac yn comisiynu ystod o wasanaethau cludo teithwyr ar ran yr awdurdod. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau cludiant ysgol a gofal cymdeithasol statudol a llwybrau cludiant cyhoeddus a chymunedol lleol. Mae’r Uned Trafnidiaeth Integredig hefyd yn gofalu am fflyd y cyngor.
At ei gilydd, rydym yn cydlynu dros 200 o lwybrau cludiant ysgol a choleg, gan gludo dros 4,000 o ddysgwyr bob dydd. Rydym hefyd yn rheoli’r rhwydwaith o wasanaethau bysiau lleol, gan gynnwys tua 20 o wasanaethau bysiau llwybr sefydlog a phum parth Fflecsi sy’n ymateb i’r galw, oll yn darparu tua 700,000 o deithiau teithwyr y flwyddyn.
Rydym yn gweithio gyda thua 40 o weithredwyr bysiau, trafnidiaeth gymunedol a thacsis lleol i ddarparu’r gwasanaethau hyn a hefyd yn rhedeg gwasanaethau’n fewnol.
I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Benfro
I gael rhagor o wybodaeth am gludiant i'r ysgol