Uned Trafnidiaeth Integredig
Amodau Cludo
Gwasanaethau Bws Lleol – Amodau cludo
Ar y dudalen hon:
- Cyflwyniad
- Amodau cyffredinol
- Ymddygiad teithwyr
- Teledu cylch cyfyng
- Mynd ar y bws, ac oddi arno
- Cludo cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd, pramiau bach a bygis
- Cadeiriau olwyn
- Sgwteri symudedd
- Cadeiriau gwthio a phramiau
- Cludo beiciau
- Bagiau
- Anifeiliaid
- Eiddo coll
- Prisiau a thocynnau
- Cynlluniau teithio rhatach
- Cwynion, sylwadau ac awgrymiadau
- Diogelu data
- Diwygiadau
- Hysbysiad cyfreithiol
1. Cyflwyniad
1.1. Mae Cyngor Sir Penfro yn gwerthfawrogi eich cwsmeriaeth a bydd yn ymdrechu i sicrhau eich bod yn teithio'n ddiogel ac yn gyfforddus ar wasanaeth bws glân a dibynadwy.
1.2. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys yr amodau sy’n berthnasol tra byddwn yn eich cludo ac yn berthnasol i unrhyw un sy’n teithio gyda ni ar ein gwasanaethau bws lleol.
1.3. Mae ein hamodau yn gyson â’r rheoliadau statudol perthnasol, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud ag ymddygiad teithwyr ac eiddo coll, ac nid ydynt yn effeithio ar eich hawliau statudol.
1.4. Gall yr amodau amrywio ar rai gwasanaethau sy’n cael eu gweithredu gan sefydliadau eraill. Bydd unrhyw amrywiadau yn cael eu hysbysu yn lleol.
2. Amodau cyffredinol
2.1 Ein nod yw darparu gwasanaeth diogel, dibynadwy a phrydlon, ond mae yna adegau pan na allwn redeg fel yr hysbysebwyd oherwydd ffactorau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, megis gwaith ar y ffyrdd, gwyriadau, tagfeydd traffig eithriadol, digwyddiadau mawr, tywydd eithafol, ac amgylchiadau gweithredu eraill nas rhagwelwyd.
2.2 Lle bynnag y bo modd, byddwn yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod i chi am unrhyw darfu ar wasanaethau. Ond, os bydd unrhyw wasanaeth yn cael ei ganslo, ei oedi, ei wyro neu ei derfynu, neu os na fydd y gwasanaeth ar gael i chi oherwydd bod y cerbyd yn orlawn neu am unrhyw resymau eraill, ni fyddwn yn atebol am golledion, difrod, costau neu anghyfleustra y byddwch yn eu dioddef o ganlyniad.
2.3 Nid ydym yn gwarantu y bydd y gwasanaethau'n cysylltu, oni bai ein bod yn hysbysebu gwasanaeth yn benodol lle mae cyswllt wedi’i warantu.
2.4 Nid ydym mewn unrhyw ffordd yn eithrio, nac yn cyfyngu ar, ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i'n hesgeulustod ac nid yw eich hawliau statudol fel defnyddiwr yn cael eu heffeithio ychwaith.
3. Ymddygiad teithwyr
3.1. Rydym yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i chi, neu ofyn i chi adael ein bysiau neu eiddo ar unrhyw adeg, pe bai gennym reswm i gredu bod eich ymddygiad yn peryglu diogelwch, diogeledd a chysur pobl eraill.
3.2. Wrth deithio gyda ni, rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:
- Ysmygu, fepio neu ddefnyddio matsis, tanwyr neu unrhyw beth sy'n creu fflam noeth;
- Cario unrhyw sylweddau niweidiol neu beryglus, megis batrïau cell hylifol, cemegion, caniau o baent sydd wedi’u hagor, petrol neu hylifau fflamadwy ar unrhyw ffurf, ffrwydron, bwledi a chetris, arfau, neu ddeunyddiau hylosg neu sy’n beryglus fel arall;
- Gwisgo helmedau modur, masgiau sgïo, neu unrhyw ddillad eraill sydd wedi'u cynllunio i guddio'r wyneb, heblaw am resymau crefyddol;
- Mynd ar y cerbyd gydag unrhyw eitemau swmpus a fyddai'n rhwystro’r eiliau neu a allai niweidio teithwyr eraill;
- Bod o dan ddylanwad alcohol yn ormodol neu fod o dan ddylanwad cyffuriau anghyfreithlon;
- Ymddwyn mewn modd sy'n sarhaus neu fygythiol neu sy'n peri tramgwydd i gwsmeriaid eraill neu ein staff;
- Bwyta neu yfed unrhyw beth sy'n cynhyrchu sbwriel a/neu sy'n gwneud yr amgylchedd yn annymunol i gwsmeriaid eraill neu sy'n peri tramgwydd fel arall;
- Yfed sylweddau alcoholig;
- Chwarae cerddoriaeth uchel neu ddefnyddio dyfais bersonol ar lefel sain y gellir ei chlywed ac a allai gael ei hystyried yn annifyr gan deithwyr eraill;
- Taflu sbwriel neu eitemau eraill ar y bws;
- Taflu neu lusgo unrhyw eitem o'r cerbyd;
- Gwisgo esgidiau sglefrio, llafnau sglefrio neu esgidiau anaddas, neu ddefnyddio sgwteri neu sglefrfyrddau ar y cerbyd;
- Gwisgo dillad gwaith budr neu gario eitemau budr a allai staenio neu ddifrodi’r seddi neu ddillad neu eiddo cwsmeriaid eraill;
- Ac eithrio mewn argyfwng, siarad â’r gyrrwr tra bod y bws yn symud, rhwystro golwg y gyrrwr neu dynnu ei sylw fel arall;
- Dosbarthu taflenni, papurau neu erthyglau eraill neu drio gwerthu unrhyw eitem neu gasglu arian i elusen heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw;
- Ymyrryd ag offer sydd wedi’u gosod ar y cerbyd;
- Difrodi neu ddifwyno unrhyw ran o'r cerbyd yn fwriadol;
- Teithio mewn unrhyw ran o'r cerbyd nad yw wedi'i chynllunio ar gyfer cludo teithwyr;
- Aros yn y cerbyd pan fydd y gyrrwr neu swyddog y cyngor yn dweud wrthych am adael.
3.3. Rhaid i bob teithiwr wneud y canlynol:
- Dilyn cyfarwyddiadau ein staff a gweithredu mewn modd sy’n rhoi sylw priodol i ddiogelwch a chysur cwsmeriaid eraill a gweithwyr y cyngor, gan gynnwys peidio â sefyll wrth ymyl allanfeydd brys, mynedfa’r cerbyd neu ar bwys y gyrrwr, neu eistedd mewn eiliau neu ar risiau, neu sefyll ar ail lawr cerbyd deulawr;
- Cydymffurfio â'r holl hysbysiadau ac arwyddion cyfreithiol a arddangosir ar y cerbyd;
- Sicrhau bod plant bach yn cael eu goruchwylio bob amser pan fyddant ar y cerbyd. Yr oedran lleiaf y gall plant deithio heb gwmni oedolyn ar ein gwasanaethau yw 11 oed fel arfer. Os hoffech drafod y posibilrwydd o blentyn o dan 11 oed yn teithio heb gwmni, cysylltwch â ni ar 01437 764551 neu drwy anfon neges e-bost i public.transport@pembrokeshire.gov.uk;
- Gwisgo gwregysau diogelwch os oes gwregysau diogelwch wedi'u gosod ar y cerbyd yr ydych yn teithio arno ac mae’n ofynnol i chi eu gwisgo yn ôl y gyfraith;
- Hysbysu aelod o staff ar unwaith os byddwch yn cael anaf wrth fynd ar fws, teithio arno neu wrth ddod oddi arno, neu os ydych yn teimlo'n sâl yn ystod eich taith;
- Hysbysu aelod o staff ar unwaith os gwelwch fag neu becyn sydd wedi’i adael, unrhyw eitem yr ydych yn ei hystyried yn amheus neu unrhyw ymddygiad amheus;
- Dilyn cyfarwyddiadau staff ynghylch uchafswm nifer y teithwyr sy’n sefyll y caniateir i fws eu cludo. Mae pob un o'n cerbydau yn cynnwys arwyddion clir sy'n nodi eu capasiti o ran nifer y teithwyr sy’n gallu sefyll;
- Rhoi sylw priodol bob amser i anghenion ein cwsmeriaid oedrannus, ifanc ac anabl ac, yn arbennig, gadael seddi a lleoedd sydd wedi’u neilltuo ar gyfer yr henoed a'r anabl pan ofynnir i chi wneud hynny;
- Cyflwyno tocynnau a phasys i'r gyrrwr pan ofynnir i chi wneud hynny.
3.4. Mae’n bosibl na chaniateir i gwsmeriaid arfaethedig deithio ar y bws sy’n ymddangos yn debygol, ym marn y gyrrwr neu swyddog arall y cyngor, o ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol neu sy’n ymddangos fel pe baent dan ddylanwad alcohol, cyffuriau neu doddyddion.
3.5. Os ydych yn torri’r rheoliadau hyn, neu reoliadau statudol eraill, bydd yn rhaid i chi roi eich enw a’ch cyfeiriad i swyddog y cyngor neu efallai y cewch eich atal, neu eich tynnu oddi ar y bws neu ein heiddo, gan swyddog y cyngor, swyddog heddlu neu swyddog cymorth cymunedol a chael eich atal rhag teithio pellach heb gael ad-daliad.
3.6. Rydym hefyd yn cadw'r hawl i gymryd unrhyw fesurau eraill yr ydym yn eu hystyried yn angenrheidiol i ddiogelu diogelwch a chysur ein cwsmeriaid a staff, gan gynnwys eich gwahardd dros dro neu'n barhaol rhag teithio gyda ni yn dilyn digwyddiad o gamymddwyn.
3.7. Er y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i reoli ymddygiad cwsmeriaid eraill, ni allwn fod yn gyfrifol am eu hymddygiad.
4. Teledu cylch cyfyng
4.1 Mae’n bosibl y bydd teledu cylch cyfyng clywedol wedi’i osod ar fysiau ac adeiladau er mwyn diogelu ein cwsmeriaid a’n staff ymhellach. Bydd arwyddion priodol yn eu lle yn y mannau lle defnyddir teledu cylch cyfyng clywedol a defnyddir y recordiadau fideo a sain yn unig ar gyfer monitro diogelwch, diogeledd ac ansawdd gwasanaethau, ac i gefnogi achosion troseddol a sifil perthnasol ac ymchwilio i gŵyn. Gellir darparu lluniau ohonoch i’r heddlu, yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, y Comisiynydd Traffig neu unrhyw asiantaeth orfodi arall ar eu cais rhesymol.
4.2 Mae ein hoffer a systemau teledu cylch cyfyng yn cael eu gweithredu’n gwbl unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018. Gallwch weld ein datganiad preifatrwydd ynghylch teledu cylch cyfyng ar gerbydau sy’n darparu cludiant i’r ysgol ar ein gwefan yma:
5. Mynd ar y bws, ac oddi arno
5.1 Yn y rhan fwyaf o ardaloedd trefol, bydd bysiau fel arfer yn codi ac yn gollwng teithwyr mewn safleoedd bysiau sydd wedi'u marcio. Mewn rhai mannau, bydd safleoedd ar wahân yn cael eu penodi i wasanaethau penodol.
5.2 Ym mhob safle bws, rhaid i chi roi arwydd clir i'r gyrrwr yr ydych am fynd ar y bws, gan roi digon o amser iddo stopio yn ddiogel yn y safle sydd wedi'i farcio.
5.3 Rhaid i chi beidio â cheisio mynd ar fws sy’n symud, neu ddod oddi arno, neu ddod oddi ar fws sy’n llonydd mewn man nad yw’n safle bws dynodedig, megis goleuadau traffig a gwaith ffyrdd ac ati.
5.4 Rhaid i chi beidio â cheisio mynd ar fws unwaith y bydd wedi gadael ei safle dynodedig mewn unrhyw orsaf fysiau.
5.5 Rhaid i chi beidio â defnyddio'r allanfeydd brys ar unrhyw gerbyd, ac eithrio mewn argyfwng go iawn, neu pan fydd y gyrrwr neu swyddog arall yn eich cyfarwyddo i wneud hynny.
5.6 Mewn ardaloedd lle nad oes unrhyw safleoedd bysiau dynodedig, bydd bysiau yn stopio ar gais cyn belled â bod y gyrrwr yn ystyried ei bod yn ddiogel gwneud hynny. Dylech bob amser ddewis pwynt nad yw’n agos at geir sydd wedi'u parcio, cyffyrdd ac ati, a rhoi arwydd clir mewn da bryd i yrrwr y cerbyd sy'n dynesu.
5.7 Pan fyddwch yn barod i fynd oddi ar y bws, dylech ganu'r gloch unwaith mewn da bryd i rybuddio'r gyrrwr. Er eich cysur a'ch diogelwch eich hun, rhowch ddigon o amser i'r gyrrwr allu arafu yn ddiogel ar gyfer eich safle. Er eich diogelwch chi, a diogelwch eraill, peidiwch â cheisio gadael eich sedd na'r cerbyd hyd nes bod y gyrrwr wedi stopio’r cerbyd yn gyfan gwbl.
5.8 Mewn arosfannau a gorsafoedd bysiau, ni ellir codi teithwyr unwaith y bydd y gyrrwr wedi nodi ei fwriad i'r cerbyd adael y safle.
5.9 Wrth deithio ar wasanaethau sy’n ymateb i’r galw y mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw ar eu cyfer, ee Gwasanaeth Fflecsi Trafnidiaeth Cymru, bydd eich mannau codi a gollwng yn cael eu cadarnhau i chi cyn y daith. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn y man codi y cytunwyd arno ar yr amser cywir. Os oes digon o le ar y cerbyd, ni chaniateir i deithwyr nad ydynt wedi archebu lle ymlaen llaw deithio ar wasanaethau Fflecsi, oni bai eu bod yn mynd ar y bws, ac oddi arno, o'r un safle â theithwyr sydd wedi archebu lle ymlaen llaw sydd eisoes ar yr amserlen.
6. Cludo cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd, pramiau bach a bygis
6.1 Byddwn bob amser yn ceisio defnyddio cerbydau â llawr isel a/neu gerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan na allwn wneud hynny am resymau technegol neu weithredol neu resymau eraill. Rydym yn cadw'r hawl i newid cerbyd â llawr isel, neu gerbyd sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, gyda math arall o gerbyd heb rybudd ymlaen llaw, yn ôl ein disgresiwn absoliwt.
6.2 Ar yr amod eu bod yn bodloni'r terfynau o ran maint a phwysau a nodir isod, a bod digon o le, gallwn ddarparu digon o le ar gyfer un gadair olwyn neu sgwter symudedd ar fysiau a adeiladwyd yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 (PSVAR). Ar rai o'n cerbydau, efallai y bydd modd gosod sgwter symudedd ychwanegol mewn gofod bygi/sgwter dynodedig. Bydd arwyddion ar y cerbyd yn dangos yn glir lle mae gofod bygi/sgwter dynodedig. Ni allwn ddarparu lle ar gyfer cadeiriau olwyn na sgwteri symudedd ar gerbydau nad oes ganddynt y cyfleusterau priodol.
6.3 Ni allwn gario cadeiriau olwyn na sgwteri symudedd sydd, ynghyd â phwysau’r deiliad, yn drymach na therfyn gweithio diogel y ramp cadair olwyn (yn gyffredinol, y terfyn gweithio diogel yw 300kg o bwysau i gyd, er y bydd gan y gyrrwr ddisgresiwn bob amser i werthuso a phenderfynu a yw'n debygol y bydd y pwysau yn mynd y tu hwnt i'r terfyn pwysau uchaf o dan yr amgylchiadau).
6.4 Mae'n ofynnol i'n gyrwyr ddarparu cymorth rhesymol i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn neu gwsmeriaid anabl ac maent wedi’u hyfforddi i allu gwneud hyn. Gall ceir sydd wedi’u parcio mewn ffordd anystyriol, neu ffactorau eraill, atal y cerbyd rhag stopio’n ddigon agos at ymyl y palmant i alluogi defnyddiwr cadair olwyn i fynd ar y bws, neu oddi arno, yn ddiogel. Yn yr achos hwn, bydd y gyrrwr yn ceisio dod o hyd i leoliad diogel lle gall stopio sydd mor agos â phosibl at y safle bws.
6.5 Cyfrifoldeb y cwsmer yw sicrhau bod ei gadair olwyn, sgwter symudedd, pram neu gadair wthio wedi’u lleoli’n ddiogel o fewn yr ardal ddynodedig, a’i fod yn cadw at unrhyw hysbysiadau sy’n berthnasol i’r ardal honno, gan sicrhau nad yw’n mynd yn y ffordd nac yn rhwystro unrhyw allanfa neu eil.
6.6 Yn yr achos annhebygol y bydd eich cadair olwyn, offer symudedd neu ddyfais gynorthwyol arall yn cael eu difrodi neu eu colli o ganlyniad i’n hesgeulustod yn ystod y daith, byddwn yn darparu digollediad hyd at y gost atgyweirio neu’n prynu un newydd yn eu lle yn unol â Rheoliad 181/2011 yr UE.
6.7 Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch hygyrchedd ein gwasanaethau gyda chadair olwyn, bygi ar gyfer unigolyn anabl neu sgwter symudedd cymeradwy, cysylltwch â ni ar 01437 764551 neu drwy anfon neges e-bost i public.transport@pembrokeshire.gov.uk.
7. Cadeiriau olwyn
7.1 Mae defnyddwyr cadeiriau olwyn yn cael blaenoriaeth dros bawb arall o ran defnyddio'r gofod cadair olwyn dynodedig, gan mai dyma'r unig le y gallant deithio'n ddiogel ynddo. Fel arfer, bydd gan ddefnyddwyr nad ydynt yn defnyddio cadeiriau olwyn ddewis o ran ble yn y bws yr hoffent eistedd neu sefyll, yn wahanol i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Dylai cwrteisi a pharch at ddefnyddwyr cadeiriau olwyn olygu bod cwsmeriaid nad ydynt yn anabl yn gwneud lle iddynt lle bynnag y bo'n rhesymol i wneud hynny. Mae'n ofynnol i gwsmeriaid gydweithredu yn rhesymol i ganiatáu defnydd priodol o'r ardal cadair olwyn ddynodedig. Os yw rhywun mewn cadair olwyn yn dymuno mynd ar y cerbyd, a bod lle mewn rhan arall o’r cerbyd, bydd y gyrrwr yn ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid adael y gofod sydd wedi’i neilltuo ar gyfer cadeiriau olwyn ar yr amod ei bod yn rhesymol iddynt wneud hynny. Bydd hyn yn cynnwys ail-leoli pramiau bach neu sgwteri symudedd, lle bo modd, a phlygu unrhyw fygis a’u storio yn y gofod bagiau pan fydd un ar gael. Fodd bynnag, ni ofynnir i unrhyw un sydd eisoes yn teithio ar y bws ddod oddi arno er mwyn darparu lle ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn.
7.2 Mae dimensiynau’r gofod ar gyfer cadeiriau olwyn yn caniatáu cludo cadair olwyn sy’n 1200mm neu lai o hyd a 700mm neu lai o led (sef maint cadair olwyn safonol enghreifftiol fel y nodir yn Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000).
8. Sgwteri symudedd
8.1 Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i gario sgwteri symudedd. Serch hynny, rydym wedi ymrwymo i god Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr y DU (CPT) ar gyfer sgwteri symudedd.
8.2 Rydym yn derbyn sgwteri symudedd Dosbarth 2 (fel y dynodwyd gan yr Adran Drafnidiaeth) ar yr amod nad yw'r sgwter symudedd yn fwy na 1000mm o hyd a 600mm o led gyda chylch troi ag uchafswm o 1200mm.
8.3 Caniateir i gwsmeriaid ddod â’u sgwter symudedd i’r cerbyd dim ond os gallant ei reoli a’i symud yn ddiogel wrth fynd ar y cerbyd, ac oddi arno, ac wrth symud eu sgwter yn y cerbyd. Os oes gan y gyrrwr unrhyw amheuon am hyn, rydym yn cadw’r hawl i ofyn i’r cwsmer gynnal asesiad i ddangos ei fod yn gallu mynd ar y cerbyd, ac oddi arno, yn ddiogel ac i wrthod gwasanaeth i’r cwsmer nes bod yr asesiad hwn wedi’i gwblhau’n foddhaol.
8.4 Unwaith byddant wedi mynd ar y cerbyd, rhaid i gwsmeriaid roi eu sgwter symudedd yn y gofod dynodedig ar gyfer cadeiriau olwyn a'i barcio gyda’i gefn yn erbyn y cynhalydd cefn. Rhaid diffodd modur y sgwter a pharcio'r sgwter mewn gêr i’w atal rhag symud. Os oes cadair olwyn eisoes yn y gofod ar gyfer cadeiriau olwyn, ni fydd yn bosibl i ddefnyddiwr y sgwter deithio.
8.5 Mae'n ofynnol i'r teithiwr aros ar y sgwter symudedd unwaith y bydd wedi parcio yn y gofod dynodedig ar gyfer cadeiriau olwyn, gan ddefnyddio'r canllawiau a ddarperir i gynorthwyo gyda diogelwch a sefydlogrwydd.
8.6 Rhaid cadw sgwteri mewn cyflwr gweithio da. Ni ddylai unrhyw fatri, neu offer trydanol neu fecanyddol, fod yn agored neu’n gollwng unrhyw hylif. Ni ddylid addasu neu addurno sgwteri mewn unrhyw ffordd a fyddai’n eu gwneud yn rhwystr neu’n creu perygl i deithwyr eraill, ac ni ddylid eu gorlwytho ag unrhyw eitemau a fyddai’n gwneud y sgwter yn ansefydlog (ee bagiau siopa).
8.7 Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am god Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr y DU (CPT) ar gyfer sgwteri symudedd (yn agor mewn tab newydd)
9. Cadeiriau gwthio a phramiau
9.1 Ar yr amod bod lle ar gael ac yn ôl disgresiwn y gyrrwr, byddwn yn derbyn pramiau bach a bygis nad ydynt wedi’u plygu ar fysiau llawr isel o fewn yr ardal ddynodedig. Byddwn yn caniatáu hyn dim ond pan nad oes angen yr ardal ar deithiwr mewn cadair olwyn neu sgwter symudedd cymeradwy (mae gan deithwyr mewn cadeiriau olwyn flaenoriaeth absoliwt yn ôl y gyfraith). Ni ddylai pramiau a bygis rwystro eil y cerbyd ar unrhyw adeg.
9.2 Mae'n ofynnol i chi gydweithredu i ganiatáu’r defnydd priodol o'r ardal ddynodedig ar gyfer cadeiriau olwyn trwy adael yr ardal hon os oes ei hangen ar gwsmer mewn cadair olwyn (neu, os nad oes defnyddiwr cadair olwyn yn teithio, bygi anabl neu sgwter symudedd cymeradwy), gan gynnwys ail-leoli pramiau bach a phlygu unrhyw fygis a'u storio yn y gofod bagiau. Bydd methu â chydymffurfio â'r gofyniad hwn yn golygu torri Adran 3 uchod a gall arwain at gamau pellach fel y nodir yn yr adran honno.
9.3 Rhaid i gadeiriau gwthio gwag, neu gadeiriau gwthio sy'n cario bagiau, gael eu plygu a'u gosod mewn mannau priodol ar gyfer bagiau lle mae'n ddiogel gwneud hynny a chan ystyried cwsmeriaid eraill a'u heiddo. Ni fyddwn yn derbyn cyfrifoldeb am golled neu unrhyw ddifrod i gadeiriau gwthio a phramiau.
10. Cludo beiciau
10.1 Oherwydd ystyriaethau o ran lle a diogelwch, ni ellir cario beiciau nad ydynt yn plygu y tu mewn i'n bysiau.
10.2 Gellir cario beiciau sydd wedi’u plygu ac sydd wedi'u gosod yn ddiogel yn y gofod dynodedig ar gyfer bagiau ar bob cerbyd – yn ddelfrydol mewn bag neu focs addas.
10.3 Ni chaniateir cario sgwteri di-fodur ar lefel uchaf cerbydau deulawr, a dylid eu cadw'n ddiogel yn y gofod bagiau ar y llawr gwaelod.
11. Bagiau
11.1 Er mwyn diogelwch a chysur ein holl gwsmeriaid, rydym yn cyfyngu ar faint, math a nifer y bagiau neu eiddo arall y gallwch eu cymryd ar ein bysiau ac rydym yn cadw'r hawl i wrthod caniatâd i chi ddod ag unrhyw eitem ar ein bysiau.
11.2 Ar wasanaethau a weithredir gan fysiau, yn hytrach na choetsys, rydym yn cadw'r hawl, yn ôl disgresiwn y gyrrwr, i wrthod unrhyw becynnau mawr, anaddas neu letchwith neu nifer gormodol o fagiau llaw personol.
11.3 Chi sy'n parhau i fod yn gyfrifol am unrhyw eitemau y byddwch yn cymryd gyda chi. Mae’n bosibl na chaniateir i chi deithio, er enghraifft, os yw’r lle sydd ar gael i gadw bagiau eisoes yn llawn neu, os, ym marn y gyrrwr, bydd eich bagiau neu’ch eiddo yn rhwystro eiliau a mynediad at allanfeydd brys ar y bws. Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw golled neu anghyfleustra i chi os cewch eich gwrthod rhag teithio o dan yr amgylchiadau hyn. Mae ein rhwymedigaeth o ran bagiau wedi’i chyfyngu i £100 y teithiwr ac fe’ch cynghorir i sicrhau bod gennych yswiriant priodol os yw eich bagiau yn werth mwy na hyn. Rydym yn cadw'r hawl i ofyn i chi agor unrhyw eitem o fagiau er mwyn iddi gael ei harchwilio gan y gyrrwr neu swyddog arall o'r cyngor sy’n bresennol gyda chi os, am resymau diogelwch, ystyrir bod angen gwneud hynny.
11.4 Dim ond os ydynt o faint rhesymol ac wedi'u pacio'n ddiogel y bydd eitemau bregus megis nwyddau electronig, setiau teledu cludadwy, cyfrifiaduron, radios ac ati yn cael eu cario. Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i eitemau o'r fath, sut bynnag y'i hachosir. Dim ond yn eu cynwysyddion gwreiddiol o bum litr neu lai y gellir cario paent.
11.5 Er mwyn diogelwch, ni ellir cario rhai eitemau o dan unrhyw amgylchiadau. Mae'r rhain yn cynnwys cronaduron, ffrwydron, bwledi a chetris, arfau, a deunyddiau hylosg neu ddeunyddiau eraill sy’n beryglus, gan gynnwys petrol.
12. Anifeiliaid
12.1 Caniateir i un ci, neu anifail bach arall, sy’n ymddwyn yn dda ac na fydd yn berygl neu’n niwsans i gwsmeriaid eraill neu’n staff deithio gyda chi ar ein bysiau yn ôl disgresiwn y gyrrwr, a all benderfynu’n rhesymol ble ar y bws sydd orau i gludo’r anifail. Lle bo hynny'n briodol, rhaid i gŵn gwisgo safnrwym, neu gael eu rhoi ar dennyn yn unol â'r Ddeddf Cŵn Peryglus.
12.2 Rhaid i bob anifail a gludir cael ei roi mewn cawell neu focs neu ei gadw ar dennyn. Rhaid i unrhyw anifail a gludir aros dan reolaeth ac ni ddylid caniatáu iddo eistedd ar y seddi. Os byddwch yn dod ag anifail ar fws, chi fydd yn gyfrifol am unrhyw ddifrod, colled neu anaf sy'n deillio o'i bresenoldeb ar y bws. Mewn achosion lle mae anifeiliaid yn achosi niwsans neu anghyfleustra i gwsmeriaid eraill, efallai y gofynnir i gwsmeriaid adael y cerbyd. Codir tâl am lanhau'r cerbyd os bydd unrhyw anifail yn baeddu'r cerbyd ac am unrhyw waith atgyweirio pe bai unrhyw ddifrod yn cael ei achosi. Ni allwn fod yn atebol am unrhyw anghyfleustra neu golled a achosir i gwsmer os caiff ei wrthod rhag teithio neu os gofynnir iddo adael o dan yr amgylchiadau hyn.
12.3 Caiff cŵn tywys, cŵn clyw neu gŵn cymorth sy’n teithio gyda phobl anabl gofrestredig eu cludo am ddim ar unrhyw adeg. Dylai cŵn cymorth wisgo eu harnais neu siaced adnabod wrth deithio.
13. Eiddo coll
13.1 Os ydych yn dod o hyd i eiddo coll ar fws, rhaid i chi ei roi i'r gyrrwr. Cyn belled nad yw'r eitem yn ddarfodus nac yn annymunol, byddwn yn ei chadw am un mis.
13.2 Byddwn yn gwneud popeth sy’n rhesymol o fewn ein gallu i leoli a dychwelyd unrhyw eiddo a adawyd ar ein heiddo neu ar un o'n bysiau i'w berchennog. Os na chaiff eiddo coll ei hawlio o fewn mis, byddwn yn dod yn berchennog yr eiddo ac yn ei roi i elusen a enwebwyd gan Gyngor Sir Penfro. Bydd data pob cyfrifiadur, ffôn ac eitem electronig arall yn cael ei ddileu’n ddiogel a bydd yr eitem yn cael ei gwaredu, a bydd unrhyw elw yn cael ei roi i elusen.
13.3 Os byddwch yn hawlio unrhyw eitem o eiddo coll, bydd rhaid i chi ein hargyhoeddi bod yr eitem yn perthyn i chi, gan roi eich enw a'ch cyfeiriad i ni, ac efallai y codir ffi weinyddol arnoch. Os yw'r eiddo coll yn ddarfodus ac nad yw'n cael ei hawlio cyn pen 48 awr ar ôl dod o hyd iddo, byddwn yn cael gwared arno mewn ffordd sy’n cael ei hystyried yn briodol. Os yw eiddo darfodus yn annerbyniol, neu’n dod yn annerbyniol, neu’n risg i iechyd cyn pen y cyfnod o 48 awr, rydym yn cadw’r hawl i’w ddinistrio neu ei waredu ar unrhyw adeg. Os yw'r eiddo coll wedi'i gynnwys mewn pecyn, bag neu gynhwysydd arall, efallai y byddwn yn ei agor a'i archwilio er mwyn olrhain y perchennog neu nodi natur a gwerth yr eiddo coll.
13.4 Yn achos cardiau debyd a chredyd, caiff unrhyw gardiau talu sy’n cael eu cyflwyno eu dinistrio'n ddiogel. Os ydych wedi colli eich cerdyn talu, cysylltwch â'ch banc ar unwaith.
13.5 I adennill eiddo coll, dylech gysylltu â Chyngor Sir Penfro ar 01437 764551 neu drwy anfon neges e-bost i public.transport@pembrokeshire.gov.uk. O dan amgylchiadau arferol, bydd angen i chi gasglu'r eiddo coll o swyddfa Cyngor Sir Penfro neu’r depo lle mae'r eiddo coll yn cael ei storio. Os byddwn yn cytuno i bostio'r eiddo yn ôl atoch, bydd angen i chi dalu’r gost i bostio a phecynnu’r eiddo ymlaen llaw. Mae ein trefniadau yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
14. Prisiau a thocynnau
14.1 Mae ‘Canllaw ar gyfer tocynnau’ cynhwysfawr ar gael ar ein gwefan.
14.2 Pryd bynnag y byddwch yn mynd ar fws, rhaid i chi naill ai:
- dangos i’r gyrrwr docyn rhagdaledig neu symudol dilys, cerdyn teithio neu fath arall o gerdyn awdurdodol. Bydd y gyrrwr yn gwirio’r tocyn neu gerdyn i gadarnhau ei ddilysrwydd cyn eich caniatáu i deithio ar y bws. Wrth deithio gyda Cherdyn Teithio Rhatach, rhaid ei gyflwyno i'r peiriant adnabod er mwyn gwirio ei ddilysrwydd ac i gofnodi eich taith; neu
- gellir talu’r pris am y daith rydych yn bwriadu ei chymryd i’r gyrrwr, neu’r swyddog tocynnau, p’un ai y gofynnir yn benodol i chi wneud hynny ai peidio.
14.3 Pan fyddwch yn talu'r gyrrwr, neu'r swyddog tocynnau, dylech sicrhau eich bod yn cael tocyn newydd o'r peiriant tocynnau sy'n cyfateb i'r swm yr ydych wedi'i dalu ac sy'n ddilys ar gyfer eich taith gyfan. Gallwch dalu gydag arian parod neu’n ddigyswllt. Nid ydym yn derbyn taliad gyda siec nac arian tramor.
14.4 Os ydych yn talu ag arian parod, defnyddiwch yr union newid lle bynnag y bo modd. Dylech wirio unrhyw newid a thynnu sylw at unrhyw anghysondebau ar unwaith gan na allwn gywiro camgymeriadau yn ddiweddarach. Ni all gyrwyr dderbyn papurau £50 ac efallai na fydd ganddynt ddigon o newid bob amser ar gyfer papurau banc mawr eraill. Mewn rhai lleoliadau, lle nad oes gan y gyrrwr ddigon o newid, efallai y bydd yn rhoi taleb newid i chi yn lle arian parod, ac mae modd cael eich arian yn ôl drwy gyfnewid y daleb yn un o swyddfeydd Cyngor Sir Penfro.
14.5 Wrth dalu’n ddigyswllt, chi sy'n gyfrifol am sicrhau nad yw'ch cerdyn yn cael ei ddifrodi. Os nad yw eich cerdyn yn gweithio pan fyddwch yn ei gyflwyno i’r darllenydd, eich cyfrifoldeb chi yw cyflwyno cerdyn arall neu fath arall o daliad.
14.6 Gellir defnyddio rhai talebau a gwarantau yn lle arian parod. Fel arfer, caiff y manylion priodol eu nodi ar y daleb neu'r warant.
14.7 Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os nad yw deiliad tocyn rhagdaledig dilys, neu gerdyn teithio dilys, yn gallu ei ddefnyddio oherwydd nad oes digon o le ar y cerbyd, neu os yw’n llawn neu os nad yw gwasanaeth yn gweithredu. Nid yw teithwyr sydd â cherdyn teithio dilys neu docyn rhagdaledig dilys yn cael blaenoriaeth dros deithwyr eraill.
14.8 Rhaid i chi gadw'ch tocyn, cerdyn teithio neu ddogfennau perthnasol eraill (gan gynnwys y cerdyn banc a ddefnyddiwyd i dalu’n ddigyswllt) i'w harchwilio gan swyddog Cyngor Sir Penfro ar gais drwy gydol eich taith. Nid oes rheidrwydd arnom i newid eich tocyn, cerdyn teithio neu drwydded deithio os caiff ei golli, ei golli dros dro, neu ei ddwyn. Os na allwch ddangos eich tocyn, neu os yw wedi dod i ben, neu os yw wedi cael ei newid neu fod rhywun wedi ymyrryd ag ef, byddwch yn atebol i dalu am docyn safonol ar gyfer y daith. Os yw eich tocyn, taliad neu awdurdod i deithio ar eich ffôn symudol, mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich ffôn ar gael i’w archwilio os oes angen. Os ydych wedi colli eich ffôn, neu os nad oes digon o bŵer batri i ddangos yr wybodaeth berthnasol, byddwch yn atebol i dalu am docyn safonol perthnasol ar gyfer y daith. Ni fyddwn yn ad-dalu'r pris hwn i chi os byddwch yn dod o hyd i'r tocyn neu ddogfen arall goll yn ddiweddarach. Mae manylion pob tocyn safonol ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro.
14.9 Pan fyddwch yn cwblhau’r daith yr ydych wedi talu amdani, neu pan ddaw dilysrwydd eich tocyn neu ddogfennau perthnasol eraill i ben, rhaid i chi adael y bws neu dalu am docyn newydd i gyrraedd eich pen taith disgwyliedig. Eich cyfrifoldeb chi yw cael tocyn dilys ar gyfer y daith gyfan ac i gario gyda chi wrth deithio unrhyw brawf adnabod cysylltiedig sydd ei angen ar gyfer prynu’r tocyn sydd gennych, megis dogfen adnabod ar gyfer myfyrwyr, prawf oedran, ac ati. Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw docyn a brynir ar y bws yn cael ei roi i chi'n uniongyrchol o'r peiriant tocynnau a'i fod yn dangos y pris cywir yr ydych wedi'i dalu am y daith yr ydych yn ei gwneud. Rydych yn agored i gael eich erlyn os nad oes gennych docyn dilys, cerdyn teithio neu ddogfennau perthnasol eraill.
14.10 Ni chaniateir i unrhyw gwsmer ddefnyddio tocyn, cerdyn teithio neu fandad teithio arall sydd:
- Wedi'i niweidio, ei ddifrodi neu ei ddifwyno;
- Wedi'i gyhoeddi i'w ddefnyddio gan berson arall ar delerau nad ydynt yn drosglwyddadwy;
- Wedi dod i ben; neu
- Ym marn resymol y gyrrwr neu un o swyddogion y cyngor, wedi’i gael drwy dwyll.
14.11 Mae prisiau tocyn sengl neu ddwyffordd a brynir ar fysiau fel arfer yn cael eu cyfrifo gan gyfeirio at barthau prisiau. Os byddwch yn mynd ar fws mewn lleoliad lle nad oes parth pris, codir tâl arnoch o'r parth blaenorol. Yn yr un modd, os byddwch yn mynd oddi ar y cerbyd mewn lleoliad lle nad oes parth pris, codir tâl arnoch sy’n cyfateb i bris y parth dilynol. Mewn rhai ardaloedd, gellir grwpio nifer o safleoedd bws gyda'i gilydd fel un parth pris. Os ydych yn teithio mewn ardaloedd lle mae parthau prisiau yn berthnasol, bydd eich pris yn cael ei bennu gan nifer y parthau y byddwch yn teithio ynddynt neu drwyddynt. Ni chewch dorri eich taith wrth deithio gan ddefnyddio tocyn sengl neu ddwyffordd oni bai fod hysbysiadau lleol yn nodi'n benodol bod hyn yn bosibl. Ar gyfer rhai teithiau, gallwch brynu tocyn dwyffordd, sydd fel arfer yn rhatach na dau docyn sengl. Mae tocynnau dwyffordd fel arfer yn ddilys ar gyfer y diwrnod pan gawsant eu prynu yn unig, oni bai yr hysbysebir yn glir fel arall, ac weithiau mae cyfyngiadau amser arnynt o ran eu dilysrwydd. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio amodau dilysrwydd tocyn dwyffordd. Dylid prynu tocynnau dwyffordd oddi wrth yrrwr y bws ar gam cyntaf y daith a’u cyflwyno i yrrwr y bws ar y daith yn ôl i gael eu dilysu. Maent yn ddilys ar gyfer un daith sengl i bob cyfeiriad. Ni all mwy nag un unigolyn ddefnyddio tocynnau aml-daith yn ystod yr un daith.
14.12 Os byddwch yn trosglwyddo o gerbyd gweithredwr arall i un o’n cerbydau ni, ystyrir eich bod yn cychwyn ar daith newydd. Oni bai eich bod yn dangos cerdyn teithio dilys, tocyn rhagdaledig dilys neu docyn dilys ar gyfer mwy nag un cysylltiad i'r gyrrwr, bydd gofyn i chi brynu tocyn newydd am y pris priodol.
14.13 Bydd plant o dan 16 oed ac unrhyw berson o unrhyw oedran sydd, ym marn y gyrrwr, yn agored i niwed, mewn perygl neu mewn trallod, ac sy’n methu â thalu eu tocyn, yn cael eu cludo bob amser, cyn belled ag y gellir rhoi eu henw a’u cyfeiriad er mwyn gallu casglu’r pris sy’n ddyledus yn ddiweddarach ynghyd ag unrhyw gostau gweinyddol rhesymol.
14.14 Ni chodir tâl am hyd at bedwar o blant dan bum oed wrth deithio gyda theithiwr cyfrifol arall, ar yr amod nad ydynt yn eistedd mewn sedd sy'n eithrio teithiwr sy'n talu am docyn neu eu bod yn eistedd mewn bygi mewn man priodol yn y cerbyd. Codir tâl ar blant ychwanegol fel pe baent yn bum oed neu'n hŷn. Mae manylion prisiau ar gyfer tocynnau plant a dogfennau derbyniol er mwyn profi oedran ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro.
14.15 Bydd penderfyniadau ar geisiadau am ad-daliadau tocynnau yn cael eu gwneud yn ôl ein disgresiwn llwyr a gall unrhyw ad-daliad y cytunir arno fod yn amodol ar dâl gweinyddol rhesymol.
14.16 Os nad yw ein hoffer tocynnau yn gweithio'n iawn, ac o ganlyniad i hyn na ellir cynhyrchu tocynnau, mae’n rhaid i chi dalu'r pris cywir ar gyfer eich taith o hyd.
15. Cynlluniau teithio rhatach
15.1 Mae cynlluniau teithio rhatach ar gyfer llawer o gategorïau o deithwyr yn cael eu gweithredu gan awdurdodau lleol yn Lloegr, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru. Mae’r telerau, rheolau ac amodau sy’n berthnasol i’r cynlluniau hyn yn gyfrifoldeb yr awdurdod sy’n rhoi’r cerdyn teithio, ac mae dilysrwydd cardiau teithio unigol yn cael ei bennu gan yr awdurdod hwnnw.
15.2 Rhaid i deithwyr sy’n defnyddio cerdyn teithio rhatach gydymffurfio â phob agwedd ar yr amodau hyn, yn ogystal â rheolau ac amodau’r awdurdod sy’n rhoi’r cerdyn. Wrth deithio gan ddefnyddio tocyn teithio rhatach, rhaid i chi hysbysu'r gyrrwr o'ch pen taith arfaethedig, lle bo angen gwneud hyn yn lleol.
15.3 Os oes gennych drwydded neu gerdyn teithio rhatach dilys, rhaid i chi ei ddangos i’r gyrrwr bob tro y byddwch yn mynd ar un o’n cerbydau a, lle bo angen, rhaid i chi gyflwyno’r cerdyn teithio i’r peiriant tocynnau sydd ar y cerbyd i sicrhau ei ddilysrwydd. Mewn rhai ardaloedd, bydd y gyrrwr yn rhoi tocyn nad oes ganddo unrhyw werth i chi wrth wneud taith o’r fath, a rhaid i chi ei gadw am hyd eich taith. Lle bo’n berthnasol, ni fydd eich trwydded neu gerdyn teithio rhatach yn cael eu hystyried yn ddilys os nad yw’r peiriant tocynnau yn cydnabod eu bod felly.
15.4 Pan fo cerdyn teithio rhatach yn caniatáu i ddeiliad y cerdyn ddod â chydymaith gyda nhw, bydd un cydymaith yn cael ei gludo heb dâl neu am y pris rhatach priodol fel y nodir gan yr awdurdod sy’n rhoi’r cerdyn ac yn ddarostyngedig i’w amodau ar gyfer defnyddio’r cerdyn. Rhaid i gydymaith ddod oddi ar y bws yn yr un safle bws â deiliad y cerdyn teithio rhatach (neu unrhyw safle bws blaenorol) neu raid iddo fod â thocyn dilys neu brynu tocyn dilys ar gyfer unrhyw deithio pellach y tu hwnt i’r safle bws hwnnw oni bai fod eithriad penodol yn berthnasol. Bydd manylion cerdyn unrhyw ddeiliad cerdyn teithio rhatach a welir yn cynnig taith am ddim neu am bris gostyngol i deithwyr eraill yn cael eu rhannu â’r awdurdod sy'n rhoi'r tocyn.
15.5 Pan fo gennym sail resymol dros amau bod cerdyn teithio rhatach yn cael ei gamddefnyddio mewn unrhyw ffordd, rydym yn cadw’r hawl i drosglwyddo manylion deiliad y tocyn i’r awdurdod sy’n rhoi’r cerdyn a/neu wrthod teithio pellach a/neu dynnu’r tocyn oddi wrth y deiliad, fel y bo’n briodol.
15.6 Rydym yn cymryd rhan yng nghynllun teithio rhatach Llywodraeth Cymru ar gyfer teithwyr hŷn ac anabl (a weinyddir gan Trafnidiaeth Cymru) a chynllun FyNgherdynTeithio ar gyfer pobl ifanc 16 i 21 oed.
15.7 I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau hyn, gweler ein tudalen we:
- Cynllun Teithio Rhatach Cymru Gyfan (yn agor mewn tab newydd)
- Telerau ac Amodau Fy Ngherdyn Teithio (yn agor mewn tab newydd)
16. Cwynion, sylwadau ac awgrymiadau
16.1 Rydym yn croesawu awgrymiadau a chwynion oherwydd eu bod yn ein helpu i wella ein gwasanaethau ac unioni pethau pan fyddant wedi mynd o chwith. Rydym eisiau i bobl gysylltu â ni yn hytrach na rhoi'r gorau i ddefnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn ymdrin â chwynion mewn modd sensitif ac ystyriol, ac ni fyddwn byth yn cymryd unrhyw gwynion yn bersonol. Gwyddom fod cwsmeriaid am gael eu cymryd o ddifrif yn bennaf. Pan fyddwn wedi methu, byddwn yn ymddiheuro’n ddidwyll ac yn fuan, a byddwn yn ymrwymo’n wirioneddol i atal hyn rhag digwydd eto.
16.2 Os hoffech roi gwybod am fater neu wneud cwyn, rhowch fanylion am rif y gwasanaeth, y dyddiad, yr amser a'r lleoliad fel bod gennym ddigon o wybodaeth i fynd ar ei thrywydd.
16.3 Bydd pob awgrym a chŵyn, boed yn ysgrifenedig, drwy neges e-bost, wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, yn destun ymchwiliad ac yn cael eu trin yn unol â pholisi cwynion Cyngor Sir Penfro. Pan fydd sylwadau neu gŵynion yn ymwneud â materion sydd y tu allan i'n rheolaeth, byddwn yn eu hanfon ymlaen at y sefydliad perthnasol ac yn egluro ein bod wedi gwneud hyn.
16.4 Gallwch gysylltu â ni fel a ganlyn:
- Dros y ffôn: 01437 764551
- Drwy neges e-bost: public.transport@pembrokeshire.gov.uk
- Yn ysgrifenedig: Uned Trafnidiaeth Integredig Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd SA61 1TP
16.5 Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb terfynol i’ch cwyn, mae gennych hawl i apelio i Bus Users UK, y corff datrys anghydfodau amgen cymeradwy ar gyfer diwydiant bysiau a choetsys y DU:
Bus Users UK
Ffôn:0300 111 0001
E-bost: complaints@bususers.org
wefan: Bus users (yn agor mewn tab newydd)
17. Diogelu data
17.1 Mewn unrhyw amgylchiadau pan fyddwn yn casglu eich data personol, mewn cysylltiad â thrafodiad manwerthu, arolwg cwsmeriaid neu at ddiben arall, byddwn ond yn casglu ac yn prosesu eich data yn unol â’r egwyddorion a gynhwysir yn y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.
17.2 Gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer gwasanaethau cludo teithwyr ar-lein
18. Diwygiadau
18.1 Mae’r amodau hyn yn berthnasol i Gyngor Sir Penfro ac yn disodli’r holl amodau cludo blaenorol sy’n berthnasol i’n holl wasanaethau neu unrhyw un o’n gwasanaethau. Gall yr amodau hyn gael eu diwygio unrhyw bryd a bydd unrhyw ddiwygiad yn cael ei hysbysebu ar ein gwefan.
19. Hysbysiad cyfreithiol
19.1 Y gyfraith lywodraethol ar gyfer yr amodau hyn fydd cyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd gan Lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth unigryw. Os bydd unrhyw ddarpariaeth o’r amodau hyn yn annilys neu'n anorfodadwy, ni fydd hyn yn effeithio ar ddilysrwydd a gorfodadwyedd y darpariaethau sy'n weddill. Yr amodau hyn yw'r cytundeb cyfan rhwng Cyngor Sir Penfro a'i gwsmeriaid. Nid oes gan unrhyw un o'n gweithwyr hawl i newid nac amrywio unrhyw un o ddarpariaethau'r amodau hyn.