Uned Trafnidiaeth Integredig

Uned Trafnidiaeth Integredig

Mae Uned Trafnidiaeth Integredig y cyngor yn cydlynu ac yn comisiynu ystod o wasanaethau cludo teithwyr ar ran yr awdurdod.  Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau cludiant ysgol a gofal cymdeithasol statudol a llwybrau cludiant cyhoeddus a chymunedol lleol.   Mae’r Uned Trafnidiaeth Integredig hefyd yn gofalu am fflyd y cyngor.

At ei gilydd, rydym yn cydlynu dros 200 o lwybrau cludiant ysgol a choleg, gan gludo dros 4,000 o ddysgwyr bob dydd.  Rydym hefyd yn rheoli’r rhwydwaith o wasanaethau bysiau lleol, gan gynnwys tua 20 o wasanaethau bysiau llwybr sefydlog a phum parth Fflecsi sy’n ymateb i’r galw, oll yn darparu tua 700,000 o deithiau teithwyr y flwyddyn.

Rydym yn gweithio gyda thua 40 o weithredwyr bysiau, trafnidiaeth gymunedol a thacsis lleol i ddarparu’r gwasanaethau hyn a hefyd yn rhedeg gwasanaethau’n fewnol. 

I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Benfro

I gael rhagor o wybodaeth am gludiant i'r ysgol

 

 

ID: 211, adolygwyd 26/09/2024