Wasanaeth Cynhwysiant
Addysg pobl ifanc allan o'u hoed cronolegol
Wrth gefnogi plant a phobl ifanc yn Sir Benfro, fe all staff ysgol / CADY, cyrff llywodraethol a gwasanaethau derbyniadau orfod ystyried a ddylid cynorthwyo pobl ifanc trwy eu haddysgu mewn grŵp blwyddyn wahanol i’w hoed cronolegol.
Bwriad y polisi hwn yw rhoi sylw i’r dadansoddiad uchod, fel bod pobl ifanc, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol yn gallu ystyried y penderfyniad i addysgu allan o grŵp oed cronolegol a chynllunio’n briodol. Mae’r ddogfen hon yn cefnogi a thywys y rhai sy’n byw neu’n gweithio yn Sir Benfro ac yn arwain at ganllawiau i arferion da y dylid cadw atynt wrth wneud cais o’r fath i’r Awdurdod Lleol
Canllawiau i rieni ac ysgolion ar addysg pobl ifanc allan o`u hoed cronolegol
Os ydych yn meddwl am wneud cais i’ch plentyn gael ei addysgu oddi allan i’w grŵp blwyddyn, mae’n fwy na thebyg eich bod wedi bod yn meddwl tipyn am y pwnc yn barod. Mae nifer o ffactorau i’w hystyried, felly rydym wedi casglu rhywfaint o wybodaeth ynghyd ac wedi edrych ar dystiolaeth ymchwil i’ch helpu i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth.
Taflen Canllawiau i rieni a gofalwyr