Wasanaeth Cynhwysiant
Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu
Beth yw SLCN?
Mae rhai plant a phobl ifanc yn ei chael yn anodd gwrando, deall a chyfathrebu ag eraill, ac efallai y bydd angen cymorth arnynt i ddatblygu'r nifer rhyfeddol o sgiliau sydd dan sylw.
SLCN yw'r term ymbarél a ddefnyddir amlaf i ddisgrifio'r anawsterau hyn. Ystyr yr enw yn Gymraeg yw Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (Speech, Language and Communication Needs).
Mae'n bosibl y bydd plant ag SLCN yn cael anhawster gyda dim ond un sgìl lleferydd, iaith neu gyfathrebu, neu gyda sawl un. Gall plant gael anawsterau gyda gwrando a deall, neu gyda siarad, neu gyda'r ddau. Mae gan bob plentyn gyfuniad unigryw o gryfderau hefyd. Mae hyn yn golygu bod pob plentyn ag SLCN yn wahanol.
A yw'n gyffredin?
Mae Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, neu SLCN, yn eithaf cyffredin. Amcangyfrifir bod SLCN gan oddeutu 10% o blant sy'n dechrau yn yr ysgol – mae hyn yn golygu oddeutu 2-3 ym mhob ystafell ddosbarth.
Beth y mae therapydd Iaith a Lleferydd yn ei wneud?
Mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd (RCSLT) yn disgrifio therapi iaith a lleferydd fel therapi sy'n helpu i reoli anhwylderau lleferydd, iaith, cyfathrebu a llyncu mewn plant ac oedolion.
Sylw a Gwrando
Sylw
Mae angen i blentyn allu rhoi sylw i bethau perthnasol yn ei amgylchedd er mwyn medru dysgu. Mae'r gallu i ganolbwyntio a thalu sylw yn hanfodol wrth ddysgu iaith.
Yn raddol, bydd plentyn yn dysgu symud ffocws ei sylw o un gweithgaredd neu wrthrych i un arall, gan wrando ar yr un pryd.
Gwrando
Rhaid i blentyn allu clywed cyn iddo fedru siarad. Fodd bynnag, rhaid i blentyn hefyd allu 'gwrando', ac mae hyn yn wahanol iawn i glywed.
Mae gwrando yn golygu'r medr i ganolbwyntio ar y synau y mae'n eu clywed o'i gwmpas er mwyn gallu deall o le y daw'r synau.
Mae gwrando'n cynnwys:
- dethol lleferydd o blith yr holl synau eraill sydd i'w clywed o'i gwmpas
- canolbwyntio ar y lleferydd
- clywed a sylwi ar y gwahaniaethau rhwng synau'r lleferydd, a
- nodi'r gwahaniaethau rhwng geiriau.
Chwarae
Mae plant ifanc yn dysgu sgiliau cyfathrebu cynnar trwy chwarae. Mae angen llawer o gyfleoedd i chwarae arnynt. Mae chwarae, yn enwedig chwarae symbolaidd, yn gam pwysig yn natblygiad iaith. Er enghraifft, trwy ddeall bod y cwpan tegan yn cynrychioli'r cwpan go iawn, mae plentyn yn dechrau deall bod geiriau'n cynrychioli pethau, pobl, digwyddiadau, ac ati.
Er enghraifft: trwy chwarae, mae'r plentyn yn sylweddoli bod y cwpan tegan yn y set de yn 'symbol' o'r cwpan go iawn yng nghegin mami, er ei fod yn edrych yn wahanol, o bosibl.
Deall Iaith
Mae plant yn dysgu siarad trwy glywed geiriau drosodd a throsodd.
Rhaid iddynt glywed gair newydd lawer, lawer gwaith, a'i ddeall, cyn y gallant geisio ei ddweud eu hunain.
Gellir hefyd alw'r broses o ddeall iaith yn 'iaith oddefol' neu'n 'ddealltwriaeth'.
Defnyddio iaith
Siarad yw'r ffordd yr ydym fel arfer yn ein mynegi ein hunain. Dyna pam y mae therapyddion iaith a lleferydd yn aml yn cyfeirio at siarad fel 'Iaith Fynegiannol'.
Mae iaith fynegiannol yn golygu defnydd eich plentyn o iaith, gan gynnwys y geiriau y mae'n eu defnyddio a'r modd y gall gyfuno geiriau mewn brawddegau. Wrth i blant ddatblygu, mae eu geirfa'n cynyddu a gallant ddefnyddio brawddegau ac iddynt strwythurau mwy cymhleth.
Mae babanod yn cyfathrebu cyn y gallant siarad, drwy grio, gwneud synau a defnyddio mynegiant wyneb fel cyswllt llygaid a gwenu.
Mae plant yn dysgu siarad trwy glywed geiriau drosodd a throsodd. Rhaid iddynt glywed gair newydd lawer, lawer gwaith cyn y gallant geisio ei ddweud eu hunain.
Lleferydd
'Lleferydd' yw'r synau yr ydym yn eu rhoi at ei gilydd i ffurfio geiriau. Mae'r synau hyn yn cael eu ffurfio trwy ddefnyddio'r gwefusau, y tafod, y dannedd, y geg a'r trwyn.
Mae lleferydd plant ifanc yn aml yn 'aneglur', h.y. maent yn defnyddio synau anghywir mewn geiriau. Mae'n bwysig cofio'r canlynol:
- Mae pob plentyn yn datblygu mewn ffordd wahanol
- Nid yw pob plentyn yn siarad yn glir o'r dechrau
- Ni all pob plentyn ddweud pob sain ar unwaith
- Efallai y bydd eich plentyn yn datblygu lleferydd clir dros amser, heb unrhyw help
Atal dweud
Beth yw atal dweud?
- Cyfeirir at atal dweud hefyd fel siarad ag atal neu ddiffyg rhuglder.
- Mae pawb yn dioddef o ddiffyg rhuglder o bryd i'w gilydd, sy'n golygu eu bod yn ailadrodd rhannau o eiriau neu'n defnyddio geiriau llanw megis 'y' ac 'ym’.
Y llais
Pam y mae gofal llais mor bwysig?
- Mae eich llais a thannau eich llais mewn perygl o ddioddef o draul.
- Mae tannau llais plant yn fach a bregus iawn.
- Pan fydd plant yn siarad, mae tannau eu llais yn dirgrynu (yn siglo gyda'i gilydd) tua 300 gwaith yr eiliad.
- Os yw'r dirgryniad hwn dan straen, gall beri i dannau'r llais fynd yn ddolurus neu'n llidiog.
- Os bydd y straen hwn yn para dros gyfnod o amser, bydd yn anodd i dannau'r llais wella a gallai hyn wedyn gael effaith ar ansawdd llais eich plentyn. Pan fydd ansawdd y llais yn gryg, yn wan neu'n anadlol, neu dan straen, am gyfnod hir, gelwir hyn yn dysffonia.
Rhyngweithio Cymdeithasol
Pam y mae rhyngweithio cymdeithasol yn bwysig?
Mae angen sgiliau rhyngweithio cymdeithasol i fod yn gyfathrebwr llwyddiannus. Ymhlith y sgiliau y mae'r canlynol
- siarad
- gwrando
- deall
- gwybod sut a phryd i ddefnyddio iaith mewn sefyllfaoedd gwahanol a chyda pobl wahanol
- gallu defnyddio a deall cyfathrebu dieiriau, megis mynegiant wyneb, cyswllt llygaid, iaith y corff a chymryd tro
Gwefannau defnyddiol
Bwrdd Iechyd Hywel Dda Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd Pediatrig (yn agor mewn tab newydd)
I CAN, yr elusen gyfathrebu plant (yn agor mewn tab newydd)
Michael Palin Centre for Stammering (yn agor mewn tab newydd)
Therapi Iaith a Lleferydd Plant ar gyfer Luton a Bedford (yn agor mewn tab newydd)
Therapi Iaith a Lleferydd Plant Ffife'r GIG (yn agor mewn tab newydd)
Manylion Tîm Iaith a Lleferydd Plant Sir Benfro:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch datblygiad iaith a Lleferydd eich plentyn, dylech drafod hyn gyntaf ag athro dosbarth eich plentyn neu Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol.
Isod y mae manylion cyswllt Tîm Therapi Iaith a Lleferydd Plant Sir Benfro:
- Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd, Canolfan Gofal Iechyd, Water Street, Doc Penfro, SA72 6DW
- 01437 773393
- Pembs.ChildrensSpeechTherapy.HDD@wales.nhs.uk