Anhwylder Cydlynu Datblygiadol / Dyspracsia
Dyspracsia
Prif nodwedd dyspracsia yw anawsterau cydsymudedd echddygol sy’n effeithio ar lwyddiant plentyn yn ei fywyd bob dydd, ei fywyd academaidd, ei hamdden a’i chwarae (Cymdeithas Seiciatryddol America, 2013). Mae hi’n gryn her i blant sydd â dyspracsia wneud pethau pob dydd fel cau eu careiau, defnyddio siswrn, ysgrifennu, sgipio, taflu a dal, er bod ganddynt ddeallusrwydd cyffredin neu uwch na’r cyffredin.
Yn cyd-fynd â hyn, bydd gan lawer o blant sydd â dyspracsia anawsterau dysgu ieithyddol a dieiriau, anawsterau canolbwyntio, a/neu drafferthion gyda’r cof, cynllunio a threfnu. Er gwaetha’r anawsterau, mae’n bosib rheoli plant sydd â dyspracsia yn llwyddiannus mewn lleoliad addysgol trwy wneud newidiadau allweddol i’r amgylchedd dysgu, ac addasu offer dysgu er mwyn eu helpu i gyrraedd eu llawn botensial.
Cyfeiriad: Cymdeithas Seiciatryddol America (2013). Diagnostic and statistical manual of mental disorders (5ed argraffiad). Washington, DC: Awdur.
Dyspracsia yn Effeithio ar Ddysgu
- Gall plant sydd â dyspracsia ymddangos yn drwsgl ac yn lletchwith mewn amgylchedd ysgol. Maent yn ei chael yn anodd rheoli a chynnal osgo eu corff, ac mae hyn yn effeithio ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau a thasgau dysgu. Gan eu bod yn blino’n hawdd, efallai y byddant yn llithro oddi ar eu cadeiriau neu’n dewis gorwedd ar lawr pan fydd y lleill yn eistedd yn ystod gweithgarwch grŵp mawr fel amser darllen/cylch.
- Oherwydd diffyg ymwybyddiaeth ofodol o safle’u corff a safle gwrthrychau o’u cwmpas, gall plant sydd â dyspracsia faglu dros goesau byrddau, cadeiriau neu rwystrau eraill sydd ar eu ffordd, a/neu faglu i mewn i ddisgyblion eraill mewn rhes, a gall hynny beri i eraill feddwl eu bod yn camymddwyn. Gallant fod yn cael anhawster cynllunio’r symudiadau sydd eu hangen er mwyn eistedd ar gadair, dringo grisiau, neu ddysgu neidio i fyny ac i lawr. Gall penderfynu ar y nerth priodol ac amseru symudiadau mewn ffordd gydgysylltiedig hefyd fod yn anodd i’r plant yma, gan olygu eu bod yn colli eu diod o’r cwpan yn ystod amser egwyl ac yn osgoi cymryd rhan gyda’u cyfoedion mewn gwersi addysg gorfforol neu ar yr iard chwarae.
- Mae’r problemau echddygol sydd gan blant sydd â dyspracsia, yn arbennig os na fydd yn cael ei adnabod yn gynnar, yn gallu arwain at ymddygiad heriol yn yr ystafell ddosbarth, fel tarfu’n aml ar y dosbarth a/neu darfu ar ddisgyblion eraill, osgoi gwaith, ac ymddwyn mewn ffordd sy’n tynnu sylw.
- Am ragor o wybodaeth ar sut y mae dyspracsia yn effeithio ar ddysgu fesul cyfnod penodol (yn agor mewn tab newydd).
- Am wybodaeth gyffredinol ar ddyspracsia (yn agor mewn tab newydd)
- Cyfeiriad: Cymdeithas Seiciatryddol America (2013). Diagnostic and statistical manual of mental disorders (5ed argraffiad). Washington, DC: Awdur.
Addaswyd y cynnwys gan Lisa Rivard (2017) gyda chaniatâd yr awduron: Canolfan Ymchwil i Anableddau Plentyndod CanChild , Prifysgol McMaster.
DCD / Dyspracsia: Rhai Pwyntiau Pwysig
- Mae dyspracsia’n digwydd pan fydd sgiliau echddygol cydsymudedd gwael yn amharu ar weithrediad dyddiol ac academaidd, a chaiff ei fesur ar gontinwwm o’r ysgafn i’r difrifol.
- Mae gan blant sydd â dyspracsia ddeallusrwydd cyffredin neu uwch na’r cyffredin. Mae eu sgiliau echddygol yn anghyson â’u galluoedd eraill.
- Gwelir anawsterau wrth berfformio sgiliau echddygol, ond hefyd wrth ddysgu rhai newydd sy’n addas i’w hoedran.
- Mae cyffredinoli sgiliau (mynd o ddal pêl fawr i ddal pêl fach) a throsglwyddo sgiliau (camu i fyny gris neu gamu i fyny ar balmant) yn heriol.
- Nid yw plant sydd â dyspracsia yn ddiog nac yn ‘ddigymhelliant’ – maent yn gweithio llawer yn galetach na’u cyfoedion ac yn blino’n arw oherwydd yr ymdrech. Bydd hyn yn digwydd hyd yn oed pan fyddant wedi ymarfer y weithgaredd droeon, gan fod yn rhaid iddynt dalu sylw’n barhaus i dasgau sydd byth yn dod yn awtomatig.
- Nid oes gwehllad i ddyspracsia ar hyn o bryd, ac nid yw plant yn ‘tyfu allan’ o’r cyflwr. Er na fyddant yn gwaethygu gydag amser, gall yr heriau ddod yn fwy amlwg wrth i’r gofynion academaidd gynyddu. Rhaid iddynt weithio’n galetach a/neu’n wahanol i’w cyfoedion er mwyn cyflawni’r un nod.
- Er eu anawsterau, gall disgyblion sydd â dyspracsia ddysgu cyflawni rhai tasgau echddygol yn eithaf da, ac maent yn gwneud hynny. Maent yn fwyaf tebygol o fod yn llwyddiannus pan fydd y tasgau, yr amgylchedd neu ddisgwyliadau eraill ohonynt wedi’u haddasu.
- Mae adnabod y cyflwr yn gynnar, ynghyd â dulliau addysgu gwahaniaethol a newidiadau i’r gweithgareddau ac amgylcheddau dysgu, yn hanfodol ar gyfer rheoli’r cyflwr yn effeithiol yn yr hirdymor.
- Dim ond dyspracsia fydd yn effeithio ar ran disgyblion, tra bod gan eraill broblemau dysgu, lleferydd/iaith, a chanolbwyntio yn cyd-ddigwydd. Er mwyn rheoli hyn yn effeithiol, rhaid cael stategaethau addysgol sydd wedi’u teilwra ar gyfer anghenion unigol pob plentyn.
- Bydd canolbwyntio ar gryfderau’r plentyn yn eu hannog i fod yn gadarnhaol, i fod â chymhelliant, ac i ddal ati er gwaetha’r anawsterau. Bydd y dull yma o bwysleisio’u cryfderau yn helpu hefyd i leihau effaith goblygiadau eilradd posib fel colli hunan-werth a hunan-barch ac ynysu cymdeithasol.
- Bydd rhoi cynnig ar wahanol strategaethau, a gwylio sut y mae plant gyda dyspracsia yn ymateb i’r strategaethau hynny yn eich helpu i bennu’r dulliau mwyaf effeithiol.
- Wrth i blant sydd â dyspracsia dyfu a datblygu, byddant yn dal i gael anhawster wrth ddysgu tasgau echddygol newydd. Felly mae’n hanfodol eu bod yn cael tasgau a gweithgareddau sydd o fewn eu galluoedd, er mwyn iddynt lwyddo.
- Am ragor o wybodaeth am Ddyspracsia (yn agor mewn tab newydd)
- Addaswyd y cynnwys gan Lisa Rivard (2017) gyda chaniatâd yr awduron: Canolfan Ymchwil Anableddau mewn Plentyndod CanChild, Prifysgol McMaster.
Dyspracsia yn a Cartref
Arwyddion o Ddyspracsia yn y Cartref
- Trwsgl neu letchwith – yn taro i mewn i bethau, yn colli diod neu’n taro pethau drosodd
- Cael anhawster defnyddio cyllell/fforc, brwsio dannedd, cau sipiau, cau botymau ar ddillad, clymu careiau esgidiau
- Hir yn dysgu reidio beic tair olwyn/dwy olwyn, anhawster defnyddio siswrn, dal pêl, hopian, sgipio, defnyddio bat, neu drin ffon hoci
- Cael anhawster dysgu sgiliau echddygol newydd
- Diffyg diddordeb mewn gweithgareddau sy’n golygu defnyddio sgiliau echddygol, neu’n eu hosgoi, neu’n tynnu allan o’r gweithgareddau
- Blino’n rhwydd; yn mynd yn rhwystredig yn hawdd; hunan-barch isel a diffyg cymhelliant; efallai’n amharod i newid arferion neu amgylchedd Am ragor o arwyddion. I ddarllen mwy am gwestiynau rhieni am dyspracsia (yn agor mewn tab newydd).
- Y cynnwys wedi ei addasu gan Lisa Rivard (2017) gyda chaniatâd: 1) Missiuna, C., Rivard, L., & Pollock, N. (2011). Children with Developmental Coordination Disorder: At home, at school, and in the community. Canolfan Ymchwil Anabledd mewn Plentyndod CanChild, Prifysgol McMaster. 2) Missiuna, C. (2003) Does your child have Dyspracsia? Understanding developmental coordination disorder. Canolfan Ymchwil Anabledd mewn Plentyndod CanChild, Prifysgol McMaster.
Sut i Helpu Gartref
- M.A.T.C.H. – Addasu’r (Modify) dasg, Newid (Alter) disgwyliadau, Dysgu (Teach) strategaethau, Newid (Change) yr amgylchedd, a Helpu (Help) drwy ddeall
- Annog defnyddio dillad sy’n hawdd eu tynnu a’u rhoi (crysau-T, legins, trowsusau/crysau rhedeg, siwmperi, eitemau sy’n cau â Velcro yn hytrach na botymau neu gareiau)
- Dysgu sut i ddefnyddio dyfeisiadau cau pan fydd gennych chi fwy o amser ac amynedd (ar y penwythnos neu yn ystod gwyliau’r haf) yn hytrach na phan fydd brys mawr i adael y tŷ
- Annog cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol a fydd yn helpu gwella’r gallu i gynllunio/trefnu tasgau echddygol (gosod y bwrdd, paratoi cinio, rhoi trefn ar fag ysgol)
- Gofyn cwestiynau sy’n canolbwyntio ar ddilyniant o gamau (“Beth sydd angen i ti ei wneud gyntaf?”); os yw’n rhwystredig, rhoi arweiniad a chyfeiriad penodol
- Wrth addysgu sgiliau echddygol, gofyn cwestiynau syml i wneud yn siŵr fod y plentyn yn deall (“Beth wy ti’n ei wneud pan fyddi di’n taro’r bêl?”)
- Am ragor o wybodaeth am sut y gallwch chi helpu (yn agor mewn tab newydd). I ddysgu’n benodol sut i annog eich plentyn i fod yn fwy egnïol yn gorfforol (yn agor mewn tab newydd)
- Y cynnwys wedi ei addasu gan Lisa Rivard (2017) gyda chaniatâd: 1) Missiuna, C., Rivard, L., & Pollock, N. (2011). Children with Developmental Coordination Disorder: At home, at school, and in the community. Canolfan Ymchwil Anabledd mewn Plentyndod CanChild, Prifysgol McMaster. 2) Rivard, L., & Missiuna, C. (2004). Encouraging participation in physical activities for children with developmental coordination disorder.
Dyspracsia ynghyd ag Anawsterau Eraill
- Mae’n bosibl y bydd gan blant sydd â dyspracsia broblemau dysgu, lleferydd/iaith a phroblemau canolbwyntio cysylltiedig
- Maent yn aml i’w gweld yn gwrthod cymryd rhan mewn gweithgareddau (‘diogyn’), gan arwain at ddiffyg ffitrwydd, cryfder a dycnwch
- Efallai y bydd disgyblion sydd â dyspracsia yn mynd yn rhwystredig yn rhwydd, a’u hunan-barch a’u hunan-werth yn isel
- Nid yw’n anghyffredin iddynt deimlo’u bod wedi eu hynysu oddi wrth eu cyfoedion
- Am ragor o wybodaeth am anhwylderau cysylltiedig, a sut y gallai’r rhain ddod i’r amlwg yn yr ystafell ddosbarth (yn agor mewn tab newydd). Am awgrymiadau am ddulliau effeithiol o gyflwyno Addysg Gorfforol a sut i annog plant sydd â dyspracsia (yn agor mewn tab newydd). Ceir rhagor o wybodaeth am anawsterau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol cysylltiedig (yn agor mewn tab newydd)
- Y cynnwys wedi ei addasu gan Lisa Rivard (2017) gyda chaniatâd yr awduron: Canolfan Ymchwil Anabledd mewn Plentyndod CanChild, Prifysgol McMaster
Ysgrifennu a Dyspracsia
- Mae disgyblion sydd â dyspracsia bron yn ddieithriad yn cael anhawster gyda phrintio/ysgrifennu
- Mae disgyblion sydd â dyspracsia yn aml yn araf ac yn llafurus wrth brintio neu ysgrifennu, ac mae’n gryn ymdrech iddynt greu gwaith ysgrifenedig
- Mae eu cynnyrch ysgrifenedig yn aml yn anhrefnus ar y dudalen ac yn annarllenadwy, gyda llawer o wallau, mae gwaith yn aml wedi’i ddileu a thudalennau wedi’u rhwygo am eu bod yn gafael yn rhy dynn yn y bensel/pin ysgrifennu ac yn pwyso’n rhy drwm ar y dudalen
- Er y gall eu galluoedd ieithyddol llafar fod yn gryf, nid ydynt yn creu gwaith ysgrifenedig sy’n adlewyrchu’r galluoedd hynny, ac mae hyn yn amharu ar eu cynnydd academaidd
- Am wybodaeth ynglŷn â defnyddio cyfrifiadur/bysellfwrdd i gynorthwyo disgyblion sydd â dyspracsia ac am awgrymiadau a strategaethau ar sut i gynorthwyo, gan gynnwys addasiadau yn yr ysgol (yn agor mewn tab newydd).
- Y cynnwys wedi ei addasu gan Lisa Rivard (2017) gyda chaniatâd: Pollock, N., & Missiuna, C. (2005). To write or to type – that is the question!, Canolfan Ymchwil Anabledd mewn Plentyndod CanChild, Prifysgol McMaster.
Hunan-barch
- Dewiswch weithgareddau corfforol a fydd yn sicrhau llwyddiant i’r plentyn o leiaf 50% o’r amser, a chofiwch wobrwyo ymdrech, nid sgil
- Rhowch adborth calonogol a chadarnhaol pan fydd plant yn dysgu sgiliau newydd am y tro cyntaf, er mwyn hybu eu cymhelliant
- Cofiwch mai cymryd rhan yw’r prif nod, nid cystadlu. Gyda gweithgareddau ffitrwydd ac adeiladu sgiliau, ceisiwch annog y plant i gystadlu â’u hunain, nid ag eraill. Rhowch bwyslais ar weithgaredd corfforol a mwynhad yn hytrach nac ar fedrusrwydd neu gystadleuaeth
- Gadewch i ddisgyblion ymgymryd â rôl arweinydd mewn gweithgareddau addysg gorfforol (capten y tîm, canolwr) er mwyn hybu hunan-barch ac annog sgiliau trefnu neu reoli
- Ceisiwch annog y plentyn i gymryd rhan mewn gemau/campau sydd o ddidordeb iddo, ac sy’n ei annog i ymarfer a gweld arferion echddygol
- Ceisiwch helpu hyfforddwyr chwaraeon ac arweinwyr cymunedol i ddeall cryfderau a heriau dyspracsia fel y gallant gefnogi ac annog plant i fod yn llwyddiannus
- Ceisiwch annog plant i ymgymryd â gweithgareddau nad ydynt yn ddibynnol ar sgiliau echddygol, fel cerddoriaeth, drama, clybiau ac ati, er mwyn hybu profiadau cymdeithasol a manteision cymryd rhan yn gymdeithasol
- Am wybodaeth am ddyspracsia y gallwch ei rhannu gyda hyfforddwyr chwaraeon (yn agor mewn tab newydd). Am wybodaeth ar ddyspracsia y gallwch ei rhannu gydag arweinwyr a hyfforddwyr grwpiau cymunedol (yn agor mewn tab newydd)
- Y cynnwys wedi ei addasu gan Lisa Rivard (2017) gyda chaniatâd: Missiuna, C., Rivard, L., & Pollock, N. (2011). Children with Developmental Coordination Disorder: At home, at school, and in the community. Canolfan Ymchwil Anabledd mewn Plentyndod CanChild, Prifysgol McMaster
Dyspracsia – Cryfderau
- Medrus ar lafar
- Sgiliau darllen uwch
- Dychymyg creadigol/creadigrwydd – ffotograffiaeth, ysgrifennu telynegol, barddoniaeth
- Yn sensitif i anghenion eraill, empathi
- Sgiliau cyfathrebu llafar cryf
- Dyfalbarhad a phenderfyniad
- Yn weithgar dros ben
- Sgiliau gwrando a chlywed da, a all gynnwys y gallu i ddysgu ieithoedd a cherddoriaeth
Sut i helpu yn y Gymuned
- M.A.T.C.H. – Addasu’r (Modify) dasg, Newid (Alter) disgwyliadau, Dysgu (Teach) strategaethau, Newid (Change) yr amgylchedd, a Helpu (Help) drwy ddeall
- Defnyddiwch gyfarpar amddiffynnol fel gorchudd garddwrn a helmedau gyda gweithgareddau corfforol
- Ceisiwch hybu chwaraeon ffordd-o-fyw fel nofio, sglefrio, a beicio er mwyn cynnal neu wella cryfder a dycnwch cyffredinol
- Gallai gwersi preifat fod yn ddefnyddiol weithiau er mwyn dysgu sgiliau penodol, yn enwedig pan fydd yn rhaid cyrraedd lefel sgil uwch
- Ceisiwch annog y disgybl i gymryd rhan mewn gemau/chwaraearon sydd o ddiddordeb iddo, ac sy’n rhoi cyfle iddo ymarfer gweithgareddau echddygol, a’u gweld ar waith
- Helpwch hyfforddwyr, athrawon chwaraeon ac arweinwyr cymunedol i ddeall cryderau a heriau plant sydd â dyspracsia er mwyn iddynt allu cefnogi ac annog plant i fod yn llwyddiannus
- Ceisiwch annog plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd heb fod yn seiliedig ar sgiliau echddygol, fel cerddoriaeth, drama, a chlybiau er mwyn hybu profiadau cymdeithasol a manteision cymryd rhan yn gymdeithasol
- Am wybodaeth am ddyspracsia y gallwch ei rhannu gyda hyfforddwyr ac athrawon chwaraeon (yn agor mewn tab newydd). Am wybodaeth am ddyspracsia y gallwch ei rhannu gydag arweinwyr a hyfforddwyr grwpiau cymunedol (yn agor mewn tab newydd).
- Y cynnwys wedi ei addasu gan Lisa Rivard (2017) gyda chaniatâd: Missiuna, C., Rivard, L., & Pollock, N. (2011). Children with Developmental Coordination Disorder: At home, at school, and in the community. Canolfan Ymchwil Anabledd mewn Plentyndod CanChild, Prifysgol McMaster.
Cymorth Pontio
Adnoddau i Rieni / Gofalwyr
Gwefannau defnyddiol