Wasanaeth Cynhwysiant
Awtistiaeth
O ganlyniad i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru â grwpiau ymgysylltu a grwpiau technegol, mae’r cod ymarfer newydd yn defnyddio’r derminoleg ganlynol, gan nodi: ‘Bydd y termau Cyflwr Sbectrwm Awtistig, awtistiaeth a phobl awtistig yn cael eu defnyddio’n gyfnewidiol ar gyfer unigolion ar bob rhan o’r sbectrwm awtistiaeth, gan gynnwys y rhai a ddisgrifir ar hyn o bryd fel pobl â syndrom Asperger. Bydd y term Sbectrwm Awtistig yn parhau o fewn y cod.’ Yn yr un modd, byddwn yn defnyddio’r derminoleg uchod ar y tudalennau hyn i gydnabod bod gan y gymuned awtistig safbwyntiau amrywiol ar hyn.
Sut mae awtistiaeth yn effeithio ar ddysgu
Beth yw awtistiaeth?
Mae awtistiaeth yn wahaniaeth niwrobiolegol. Mae pobl awtistig yn profi gwahaniaethau o ran y canlynol: rhyngweithio, cyfathrebu cymdeithasol, a phatrymau ymddygiad a diddordebau cyfyngedig, ailadroddus. Mae pobl awtistig yn aml yn canolbwyntio'n ormodol ar bynciau sy'n ddiddorol iddyn nhw. Byddai hyn yn ymddangos fel ymddygiad cyfyngedig i bobl nad ydyn nhw'n awtistig. Mae'r meysydd gwahaniaeth hyn yn cael eu profi gan bob unigolyn awtistig i raddau, ond gall eu hanghenion unigol a lefel y cymorth sydd eu hangen arnynt amrywio'n sylweddol. Efallai y bydd gan rai pobl awtistig anawsterau dysgu sylweddol a byddant yn ei chael yn anodd cyfathrebu yn y ffordd ddisgwyliedig, h.y. cyfathrebu ar lafar. Ond mae pobl eraill heb unrhyw anhawster amlwg gydag iaith. Fodd bynnag, er ein bod yn meddwl am siarad fel y prif ffordd o gyfathrebu, mae’n bwysig nodi bod llawer o bobl awtistig nad ydynt yn siarad sy’n gallu cyfathrebu'n dda iawn gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu amgen. Nid yw'r sbectrwm awtistiaeth yn llinol a bydd pob unigolyn awtistig yn unigryw o ran ble y gall fod ar y sbectrwm hwn, a gall hyn newid hefyd o ddydd i ddydd.
Yn gymdeithasol
Yn gymdeithasol, gall plant awtistig deimlo'n ynysig neu'n ei chael hi'n anodd meithrin cydberthnasau ag eraill. Mae'n bosib na fydd y cymhlethdodau cymdeithasol y gall unigolion heb awtistiaeth eu cymryd yn ganiataol, megis cyswllt llygad a gofod personol, yn cael eu cydnabod na'u defnyddio gan bobl ag awtistiaeth oherwydd anawsterau synhwyraidd. Oherwydd y gwahaniaeth mewn arddulliau cyfathrebu, efallai y bydd pobl awtistig yn ei chael hi'n anodd meithrin a chynnal cydberthnasau â phobl nad ydynt yn awtistig, ac efallai y byddant yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i ddiddordebau cyffredin gyda'u grŵp cyfoedion. Efallai na fydd rhai plant yn ceisio gwneud ffrindiau, neu na fyddant â diddordeb mewn gwneud hyn, a’i bod yn well ganddynt eu cwmni eu hunain.
Cyfathrebu
Efallai y bydd pobl awtistig yn cael anhawster cynnal sgwrs ddwy ffordd. Efallai na fyddant yn gweld fawr o bwrpas mewn gwneud sgwrs ddiangen â rhywun, gan ffafrio dull llythrennol, syml a gonest o gyfathrebu. Yn yr un modd, efallai na fydd pobl awtistig yn hoffi'r defnydd o goegni, jôcs neu idiomau, er enghraifft, gan y gallant ystyried bod hyn yn ddibwrpas ac yn ddryslyd. Mae gan lawer o blant ifanc ag awtistiaeth eirfa eang a gallu rhagorol i ddefnyddio iaith, ond eto gallant gael trafferth mewn ffyrdd eraill – er enghraifft gydag iaith fynegiannol (gwneud eu hunain yn ddealladwy) a/neu iaith oddefol (deall yr hyn y mae eraill yn ei ddweud neu'n ei olygu) - oherwydd y gall pobl nad ydynt yn awtistig gyfathrebu'n wahanol neu gall gwahaniaethau synhwyraidd wneud i'r weithred o brosesu iaith fod yn un anodd.
Patrymau ymddygiad a diddordebau cyfyngedig, ailadroddus
Gall patrymau ymddygiad a diddordebau cyfyngedig, ailadroddus olygu bod pobl awtistig yn anhyblyg yn eu hymddygiad a gallant ei chael yn anodd ymdopi â newid. Efallai eu bod yn ymwneud â diddordebau arbennig neu fod ganddynt arferion / defodau sy'n bwysig iawn iddynt. Efallai y byddant yn ei chael hi'n anodd cyffredinoli gwybodaeth a dysgu, felly gall fod yn ddefnyddiol cadw mewn cof, er eu bod wedi amgyffred neu ddysgu sgìl newydd mewn un lleoliad, efallai na fyddant yn gallu trosglwyddo'r ddealltwriaeth hon i le neu amser gwahanol. Er enghraifft, efallai y byddant yn ymdopi'n dda â siopa yn eu harchfarchnad leol ond yn gweld yr un sgìl mewn siop wahanol yn llethol ac yn methu â chyflawni'r un dasg yno, oherwydd gwahaniaethau synhwyraidd, er enghraifft. Gall darogan a deall ymddygiad pobl eraill fod yn anodd iawn i bobl awtistig, a gall y byd cyfnewidiol y maent yn byw ynddo ac o bosibl ymddygiad anrhagweladwy pobl nad ydynt yn awtistig wneud iddynt deimlo'n rhwystredig neu'n ofidus.
Gwahaniaethau o ran prosesu'r synhwyrau
Gall gwahaniaethau o ran prosesu'r synhwyrau achosi anawsterau i bobl awtistig. Gall y systemau a ddefnyddir gennym i brosesu a dysgu am y byd o'n cwmpas, sef gweld, clywed, blasu, arogli a chyffwrdd, ymddangos yn wahanol i rai pobl ifanc ag awtistiaeth. Gall hyn olygu y gall synau bob dydd, er enghraifft, nad yw mwyafrif y dosbarth yn sylwi arnyn nhw, fod yn boenus yn gorfforol i'r unigolyn sy'n awtistig, neu dynnu ei sylw i raddau sylweddol.
Gorbryder
Mae'n bwysig bod yn ymwybodol bod disgyblion awtistig yn aml yn profi lefelau uchel o orbryder sy'n gysylltiedig â'r gwahaniaethau a grybwyllir uchod. Gall hyn, ynghyd ag anawsterau llencyndod a phwysau academaidd, fod yn anodd iawn i'r bobl ifanc hyn eu rheoli. Mae'n bwysig nodi y gallant ymddwyn yn wahanol iawn yn yr ysgol o gymharu â sut y byddant yn ymddwyn gartref. Weithiau, bydd plant yn mynd i'r ysgol, yn cwblhau gwaith, yn ymddangos fel petaent yn fodlon, ac yn dangos dim ymddygiad sy'n dynodi gorbryder neu drallod. Efallai y byddant yn cuddio pethau yn yr ysgol ond yn cyrraedd adref ac yn teimlo'n ofidus iawn wrth iddynt brosesu a cheisio cadw'n dawel ar ôl diwrnod o ymddwyn fel y mae eraill yn disgwyl iddynt ymddwyn a ‘chadw pethau at ei gilydd’. Gall hefyd weithio'r ffordd arall, lle mae popeth yn iawn gartref ond mae'r ysgol yn gweld ymddygiad neu sylw gwahanol. Mae rhai pobl awtistig yn egluro bod ceisio cydymffurfio â disgwyliadau pobl nad ydynt yn awtistig a'u ffyrdd o fod yn flinedig.
Awtistiaeth – rhai pwyntiau allweddol
- Gall defnyddio iaith glir a diamwys gyda chyfarwyddiadau clir i sicrhau dealltwriaeth fod yn ddefnyddiol.
- Bydd siarad mewn ffordd glir a chyson, gan ddefnyddio iaith lythrennol, yn helpu pobl ag awtistiaeth i brosesu'r hyn sy'n cael ei ddweud.
- Efallai y bydd angen ychydig mwy o amser ar bobl awtistig i brosesu iaith, efallai oherwydd anawsterau prosesu’r synhwyrau.
- Gall y ffordd y mae pobl nad ydynt yn awtistig yn rhyngweithio ac yn ymddwyn ymddangos yn anrhagweladwy iawn a gall fod yn ddryslyd i bobl awtistig. Gall arferion beunyddiol, rhybuddion cynnar o newid, a sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth glir o ddisgwyliadau helpu pobl awtistig i gael bywyd sy'n fwy rhagweladwy, ac o bosibl gall beri llai o bryder.
- Bydd y mwyafrif o bobl awtistig yn profi gorbryder, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n ei ddangos. Bydd unrhyw beth y gallwch ei wneud i'w helpu i deimlo'n ddigynnwrf ac i deimlo eu bod yn gallu rheoli’r hyn sy'n digwydd yn eu bywyd yn helpu.
- Gall addasiadau fel seibiannau gorffwys, seibiannau symud, teganau synhwyraidd ac ati helpu i reoleiddio prosesu'r synhwyrau a helpu gyda gorbryder.
Yn y cartref – yr hyn y gallwch chi ei wneud i gefnogi plentyn ag awtistiaeth gartref
Chwe Awgrym i Ymdopi â Gorbryder
Straeon am awtistiaeth
Fideo awtistiaeth - Stori 1 (yn agor mewn tab newydd)
Fideo awtistiaeth - Stori 2 (yn agor mewn tab newydd)
Adnoddau cymorth ar awtistiaeth
My child is autistic (yn agor mewn tab newydd)
Cod ymarfer ar gyflenwi gwasanaethau awtistiaeth (yn agor mewn tab newydd)
Tim Awtistiaeth Cenedlaethol Tafeln Adnoddau (yn agor mewn tab newydd)
Ffilm am arwyddion awtistiaeth mewn plant (yn agor mewn tab newydd)
Can you make it to the end? (yn agor mewn tab newydd). Ffilm fer sy'n dangos yr hyn y mae rhai pobl awtistig yn ei wynebu bob dydd - cynhyrchwyd gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol
Adnoddau ychwanegol
Cumine, V., Dunlop, J. a Stevenson G. (2010). Autism in the Early Years. Ail argraffiad. Llundain: Routledge. Mae'n darparu deunydd, cymorth a chyngor hygyrch i rieni, athrawon a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'i gilydd mewn maes anghyfarwydd yn dilyn diagnosis cynnar o awtistiaeth mewn plant ifanc.
Hannah, L. Teaching Young Children with autism spectrum disorders to learn. A practical guide for parents and staff in mainstream schools and nurseries Llundain: Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth
Gwefannau
Mae'r dolenni canlynol yn agor mewn tab newydd:
- Awtistiaeth Cymru (yn agor mewn tab newydd)
- Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth (yn agor mewn tab newydd)
- Rhaglen Awtistiaeth TEACCH (yn agor mewn tab newydd)H]
- Autism Speaks (yn agor mewn tab newydd)
- Carol Gray Social Stories (yn agor mewn tab newydd)
- Autism Toolbox (yn agor mewn tab newydd)
Cysylltu â ni
Dros y ffôn
Gallwch gysylltu ag athro ymgynghorol ar gyfer awtistiaeth ar 07867 461745.
Drwy e-bost
claire.bullock@pembrokeshire.gov.uk