Wasanaeth Cynhwysiant

Darpariaeth a lleoliadau arbenigol

Yn Sir Benfro, rydym wedi ymrwymo i gynhwysiant ac i addysgu cymaint o'n plant a'n pobl ifanc â phosibl yn ein hysgolion prif ffrwd.

Y cynharaf y bydd y lleoliadau ysgol arbenigol yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad yw’r tymor ar ôl i’r disgybl droi’n bedair oed ac mae ganddo hawl i ddarpariaeth addysg llawn amser.

Mae ystod o ddarpariaeth arbenigol wedi'i datblygu i ddarparu lleoliadau priodol i addysgu plant a phobl ifanc ag ystod o'r anghenion mwyaf cymhleth. Fel rhan o’n hymrwymiad, mae’r Gwasanaeth Cynhwysiant yn adolygu ei ddarpariaeth arbenigol yn barhaus ac yn cynllunio’r ffordd orau o ddiwallu’r anghenion a ragwelir yn y dyfodol.

Yn Sir Benfro, ar gyfer dysgwyr ag anghenion mwy cymhleth, mae lleoliad arbenigol naill ai mewn ysgol arbennig, Canolfan Adnoddau Dysgu (CAD), neu Ganolfan Ddysgu Sir Benfro, yn darparu gofal cofleidiol a chymorth addysgol i sicrhau bod y plant yn cyflawni eu llawn botensial. Yn unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Chod ADY 2021, bydd ysgolion yn cynnal cyfarfodydd cynllunio sy’n canolbwyntio ar unigolyn i bennu anghenion ddysgu ychwanegol (ADY) y plentyn unigol i nodi darpariaeth dysgu ychwanegol a allai gynnwys lleoliad arbenigol. Mae hyn yn caniatáu cynllunio cadarn a rhannu gwybodaeth gywir i hysbysu paneli cyn gwneud penderfyniadau ynghylch lleoliadau arbenigol.

Ysgol Arbennig Portfield

Mae Ysgol Portfield (yn agor mewn tab newydd) yn ysgol arbennig ar gyfer disgyblion 3-19 oed sydd wedi'u lleoli yn Hwlffordd, Sir Benfro gyda disgyblion yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg. Mae gennym hefyd ddwy ganolfan loeren: Y Porth yn Ysgol y Preseli yng Nghrymych lle mae disgyblion yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn Ysgol Uwchradd VC Hwlffordd sy'n gyfrwng Saesneg. Rydym yn darparu cyfleoedd a gwasanaethau dysgu rhagorol i'n disgyblion sydd ag ystod o alluoedd ac anghenion gan gynnwys anghenion ychwanegol cymedrol, difrifol, dwys a lluosog, cyflwr sbectrwm awtistiaeth a disgyblion ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Mae Portfield yn dilyn ymarfer Ysgolion Sy'n Seiliedig ar Drawma ac mae ein gwaith yn seiliedig ar ofal personol, ymddiriedaeth ac empathi. Rydym yn dathlu unigoliaeth pob disgybl, yn personoli'r cwricwlwm i ddiwallu eu hanghenion a'u cefnogaeth ac yn dathlu pob llwyddiant.

Canolfannau Adnoddau Dysgu (CADau)

Mae Canolfan Adnoddau Dysgu (CAD) yn ystafell neu gyfres o ystafelloedd sydd wedi'u lleoli'n gyffredinol mewn ysgolion prif ffrwd sy'n darparu addysg i ddisgyblion ag anghenion cymhleth. Mae CADau wedi'u sefydlu i ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys i ddisgyblion sy'n hynod wahaniaethol er mwyn eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Mae CADau yn rhoi cyfle i ddisgyblion fod yn rhan o weithgareddau a gwersi prif ffrwd lle bo’n briodol ac i gymdeithasu â’u cyfoedion tra bod eu hanghenion unigol yn cael eu cefnogi a’u diwallu.

Ar hyn o bryd mae wyth CAD cynradd a phedair canolfan uwchradd ar draws Sir Benfro.

Pwy all gael mynediad i Ganolfan Adnoddau Dysgu?

Mae CAD yn addas ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu cymhleth. Wrth ystyried a yw person ifanc yn addas ar gyfer lleoliad, bydd gweithwyr proffesiynol yn ystyried ystod o feini prawf penodol. Mae hyn yn cynnwys ystyried: gallu gwybyddol, cyrhaeddiad a chymhlethdod angen mewn perthynas â sgiliau bywyd, cymdeithasol a chyfathrebu.

Y Cyngor Sir yw'r awdurdod derbyn ar gyfer pob Canolfan Adnoddau Dysgu mewn ysgolion. Bydd panel Awdurdod Lleol sy’n cynnwys ysgolion enwebedig, gweithwyr proffesiynol y Gwasanaeth Cynhwysiant a’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol yn trafod pob disgybl sy’n cael ei ystyried ar gyfer mynediad i ddarpariaeth arbenigol. Bydd y panel yn penderfynu a yw'r disgybl yn bodloni meini prawf y CAD ac yn argymell priodoldeb y lleoliad.

Nid yw'r lleoliad wedi'i fwriadu i fod yn lleoliad hirdymor a bydd yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn yn unol â'r broses adolygu statudol.

Canolfan Ddysgu Sir Benfro (PLC)

Mae portffolio Canolfan Ddysgu Sir Benfro yn cynnwys ystod o ddarpariaethau ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys plant a phobl ifanc ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol sydd o oedran ysgol statudol ac na ellir diwallu eu hanghenion dysgu mewn lleoliad prif ffrwd.

Nid yw'r lleoliad wedi'i fwriadu i fod yn lleoliad hirdymor a bydd yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn yn unol â'r broses adolygu statudol.

Mae'r disgyblion wedi'u cofrestru'n ddeuol sy'n golygu eu bod yn cael eu cadw ar gofrestr eu hysgol brif ffrwd i sefydlu cydweithio ac i fonitro cyfleoedd ailintegreiddio.

Y Cyngor Sir yw'r awdurdod derbyn ar gyfer Canolfan Ddysgu Sir Benfro. Bydd panel Awdurdod Lleol sy’n cynnwys ysgolion enwebedig, gweithwyr proffesiynol y Gwasanaeth Cynhwysiant a’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol yn trafod pob disgybl sy’n cael ei ystyried ar gyfer mynediad i ddarpariaeth arbenigol.

Mae gennym gydberthnasau cryf, effeithiol â'n dysgwyr, eu teuluoedd, rhwydweithiau cefnogol, cymunedau ac asiantaethau eraill.

Proses Ymgeisio i Ysgolion wrth Symud i’r Sir – Gwybodaeth i Rieni

Ar gyfer plentyn/person ifanc sydd â Chynllun Datblygu Unigol (CDU), Datganiad AAA neu Gynllun Gofal Iechyd Addysgol (EHCP)

Gall Rhiant/Gofalwyr â Chyfrifoldeb Rhiant wneud cais am leoliad ysgol yn Sir Benfro unwaith y byddwch yn breswylydd amser llawn mewn cyfeiriad yn Sir Benfro.

Mae’n rhaid i chi hysbysu’r Awdurdod Lleol (ALl) hwn o’r dyddiad y byddwch yn symud i’ch cyfeiriad newydd yn Sir Benfro trwy anfon neges e-bost at movein@pembrokeshire.gov.uk. Disgwylir i chi ddarparu prawf o breswyliad.

Bydd y broses Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn dechrau o’r dyddiad y byddwch yn hysbysu’r ALl hwn eich bod yn byw yn Sir Benfro, pan fydd eich prawf o breswyliad wedi’i gadarnhau a phan fydd tystiolaeth o ADY.

Mae pob cais am leoliad ysgol yn Sir Benfro yn ei gwneud yn ofynnol i rieni/gofalwyr lenwi’r Ffurflen Derbyn i Ysgolion ar-lein gan enwi’r ysgol(ion) prif ffrwd yr ydych yn gwneud cais amdanynt – hyd yn oed os credwch y bydd angen lleoliad arbenigol ar eich plentyn.

Nodwch ar y ffurflen gais ysgol fod gan eich plentyn Gynllun Datblygu Unigol, Datganiad, Cynllun Gofal Iechyd Addysgol neu unrhyw Gynllun Statudol arall yn ei ysgol/lleoliad presennol, a manylion y ddarpariaeth ysgol.

Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth ategol ar y cam hwn, h.y. copi o’r Cynllun ac unrhyw wybodaeth arall o ysgol flaenorol eich plentyn.

Lleoliadau Arbenigol

Bydd panel Cynhwysiant yr Awdurdod Lleol yn ystyried unrhyw geisiadau am leoliad arbenigol unwaith y bydd wedi cael hysbysiad eich bod wedi symud i’ch cyfeiriad newydd yn Sir Benfro ac wedi cwblhau’r ffurflen derbyniadau i ysgolion ar-lein yn unol â’r broses uchod.

Ar sail y dystiolaeth a ddarparwyd, ac mewn trafodaeth â theuluoedd, bydd y panel yn penderfynu pa fath o ddarpariaeth a fydd yn cynorthwyo anghenion eich plentyn.

Mae panel Cynhwysiant yr Awdurdod Lleol yn cyfarfod bob pythefnos a bydd y canlyniad yn cael ei rannu â chi trwy lythyr.

Mae gwybodaeth am ddarpariaethau arbenigol ar y tudalennau Cynhwysiad.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth am ysgolion Sir Benfro ar gael.

Mae rhagor o wybodaeth am y system ADY yng Nghymru (Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol 2021) ar gael.

Cysylltwch â Gwasanaethau Partneriaeth Rhieni Sir Benfro am gyngor a chymorth diduedd ar pps@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 776354

Sylwch, nid yw polisi cludiant ysgol Cyngor Sir Penfro yn ymestyn i ysgolion ‘allan o’r dalgylch’; felly, os yw rhieni yn dewis ysgol y tu allan i’r dalgylch, y rhieni sy’n gyfrifol am gludo eu plant i/o’r ysgol. 

ID: 7931, adolygwyd 30/04/2024