Wasanaeth Cynhwysiant

Dyslecsia

Beth yw dyslecsia?

'Mae dyslecsia yn anhawster dysgu sy'n effeithio'n bennaf ar y sgiliau sy'n gysylltiedig â darllen a sillafu geiriau cywir a rhugl. Nodweddion nodweddiadol dyslecsia yw anawsterau o ran ymwybyddiaeth ffonolegol, cof llafar a chyflymder prosesu geiriol. Mae dyslecsia'n digwydd ar draws yr ystod o alluoedd deallusol. Mae'n well meddwl amdano fel continwwm, nid categori penodol, ac nid oes unrhyw bwyntiau terfyn clir. Gellir gweld anawsterau sy'n digwydd mewn agweddau ar iaith, cydlynu moduron, cyfrifo meddyliol, canolbwyntio a threfniadaeth bersonol, ond nid yw'r rhain, ar eu ion eu hunain, yn farciwyr dyslecsia. Gellir cael syniad da o ddifrifoldeb a dyfalbarhad anawsterau dyslecsia drwy archwilio sut mae'r unigolyn yn ymateb neu wedi ymateb i ymyriad sydd wedi'i seilio'n dda' (Adroddiad Rose 2009).

Sut mae dyslecsia yn effeithio ar ddysgu

Mae dyslecsia yn derm sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio disgyblion sydd fel arfer yn cael anhawster darllen, ysgrifennu a/neu sillafu. Mae’n ddefnyddiol edrych ar ddyslecsia fel gwahaniaeth dysgu yn hytrach nag anhawster dysgu.

Yn aml maent yn ddysgwyr gweledol ac yn dysgu drwy brofiad felly mae dysgu trwy wrando a darllen testunau hir yn anodd iawn.

Yr hyn sy’n allweddol i gynnydd yw sicrhau bod deunyddiau dysgu yn cael eu cyflwyno mewn ffordd amlsynhwyraidd sy’n defnyddio pob un o’r synhwyrau. Mae’n arbennig o bwysig defnyddio deunyddiau gweledol ac ymarferol a gwaith llaw. Fel hyn, bydd dysgwyr yn gallu defnyddio eu galluoedd ac mae hyn yn bwysig os ydyn nhw’n mynd i allu datblygu strategaethau annibynnol a llwyddiannus.

Gall fod gan blant â dyslecsia anawsterau eraill yn ogystal ag anawsterau llythrennedd. Gallai fod ganddynt anawsterau gyda chyflymder prosesu gwybodaeth, cof, a threfnu gwybodaeth. Gallant hefyd gael anawsterau gyda strwythuro a threfnu gwaith ysgrifenedig.

Yn aml efallai na fyddant yn arddangos eu gwir allu mewn profion ysgrifenedig ac os cânt gyfle i wneud rhywfaint ohono mewn ffordd wahanol ee ar lafar, gallant gyflawni canlyniadau gwell.

Y Dull Adnabod ac Ymyrryd yn Gynnar yn Sir Benfro

Mae hyn yn cynnwys proses sgrinio a rhaglen ymyrraeth sy’n galluogi ysgolion i nodi anawsterau a thargedu cymorth i blant yn y cyfnod cyn llythrennedd.

Bydd y plant hynny y nodwyd bod ganddynt anawsterau yn gwneud gweithgareddau ymyrraeth meithrin a chyfathrebu i sgrinio eu cyfathrebu, gan weithio ar y cyd â’r gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd.

Yn y cyfnod sylfaen, mae offeryn sgrinio DEST2 (prawf sgrinio cynnar ar gyfer dyslecsia 2) yn nodi plant a allai fod yn debygol o gael anhawster caffael llythrennedd, gan nodi gwendidau mewn meysydd penodol.

Yna mae’r rhaglen ymyrraeth Llythrennedd Ymarferol yn darparu gweithgareddau strwythuredig sydd wedi’u hymgorffori yn addysgeg y cyfnod sylfaen – gall fod yn rhan o ddarpariaeth barhaus yn ogystal â chymorth wedi’i dargedu’n fwy penodol.

Dyslecsia: rhai pwyntiau pwysig

  • Gellir ystyried dyslecsia ar gontinwwm, o’r ysgafn i’r difrifol.
  • Mae’n bwysig adnabod a chydnabod cryfderau plant sydd â dyslecsia a cheisio ymgorffori’r cryfderau hyn yn eu rhaglen addysgu.
  • Gall maint ac effaith y dyslecsia ar y plentyn amrywio yn ôl natur y dasg a natur y cyd-destun dysgu.Mae’n bwysig ei adnabod yn gynnar er mwyn ymyrryd yn effeithiol.
  • Mae ymyrraeth gynnar yn bwysig ar gyfer ymyrraeth effeithiol.
  • Gall plant sydd â dyslecsia arddangos gwahanol nodweddion ac felly dylid ymdrîn â’u hanghenion yn unigol.
  • Er bod y prif anawsterau sy’n gysylltiedig â dyslecsia yn gysylltiedig â llythrennedd (darllen, ysgrifennu a sillafu), gall plant sydd â dyslecsia hefyd fod ag anawsterau eraill o ran cof, cydsymudedd a threfnu.
  • Gall gwybodaeth am sut y mae plant yn dysgu, a sut mae gwneud dysgu’n fwy effeithiol drwy, er enghraifft, sgiliau astudio, fod yn fuddiol dros ben ar gyfer plant sydd â dyslecsia.
  • Mae’n bwysig hefyd ystyried y cwricwlwm, gwahaniaethu a dulliau dysgu am fod y rhain yn gallu helpu plant sydd â dyslecsia i ddeall y dasg yn gliriach a dysgu’n fwy effeithiol.
  • Gellir lleihau effaith dyslecsia drwy ymyriad addysgu effeithiol ac addasu tasgau, drwy wahaniaethu’r cwricwlwm ac addasiadau yn y gweithle.
  • Gall y sawl sydd â dyslecsia fod â llawer o gryfderau, a gall ddefnyddio’r cryfderau hyn i wneud iawn am ei anawsterau.
  • Mae’n bwysig sylweddoli bod angen rhoi hwb i hunan-barch plant sydd â dyslecsia am ei bod yn rhy hawdd iddynt ddigalonni a cholli diddordeb mewn dysgu.   

Dyslecsia yn y cartref

Arwyddion dyslecsia

  • Sgiliau gwrando gwael – ymddangos fel nad yw’n clywed ceisiadau geiriol 
  • Ystafell wely anniben 
  • Bag ysgol anhrefnus      
  • Blinedig 
  • Ddim yn siŵr beth sy’n rhaid ei wneud fel gwaith cartref 
  • Plant iau – cael trafferth gwisgo (heb wybod beth i’w wneud yn gyntaf) 

Sut i helpu eich plentyn

  • Siart dasgau/rhestr ‘pethau i’w gwneud’ ar y wal 
  • Pacio bag ysgol y noson cynt   
  • Annog y plentyn i roi pethau’n ôl yn eu lle er mwyn osgoi ‘colli’ pethau e.e. dillad ymarfer corff 
  • Amser gwely rheolaidd / rheol diffodd golau 
  • Plant iau – gosod dillad allan y ffordd iawn ac yn drefn gywir ar gyfer eu gwisgo – i helpu gyda dilyniannu 
  • Plant hŷn – edrych ar y dyddiadur gwaith cartref bob dydd 
  • Dylai’r cartref fod yn lle y gall eich plentyn ymlacio. Peidiwch â gadael i amser gwaith cartref achosi straen – rhowch eich hun yn ei sefyllfa a cheisiwch fod mor amyneddgar â phosibl.              
  • Peidiwch chi â phryderu – bydd eich plentyn yn sylwi ar hyn 
  • Siaradwch â’r athro dosbarth neu’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) os ydych yn teimlo bod eich plentyn yn cael trafferth yn y dosbarth neu gyda’i waith cartref 
  • Rhowch ddigonedd o ganmoliaeth bob amser a dweud wrth eich plentyn mor galed mae’n gweithio 
  • Manteisiwch gryfderau eich plentyn wrth ddysgu e.e. os yw’n well ganddo edrych ar luniau, defnyddiwch y cyfrifiadur neu DVDs ar gyfer dysgu – os yw’n hoff o wrando, defnyddiwch lyfrau sain            
  • Mae’n bwysig iawn magu hunan-barch a datblygu hyder – defnyddiwch gryfderau eich plentyn a’i annog mewn gweithgareddau y mae’n eu mwynhau neu’n eu gwneud yn dda (e.e. chwaraeon, celf, cerddoriaeth, marchogaeth, nofio ac ati.) 

Gall dyslecsia effeithio ar feysydd eraill

  • Prosesu ffonolegol – y gallu i adnabod a dweud seiniau unigol mewn geiriau. Efallai y bydd yn cymysgu seiniau mewn geiriau e.e. yn dweud ‘ygsol’ am ysgol neu ‘basgeti’ am sbageti         
  • Dilyniannu – gwybod ym mha drefn i wneud pethau. Efallai bod eich plentyn yn drysu rhwng misoedd y flwyddyn, dyddiau’r wythnos neu’n cael anhawster gyda heddiw, yfory, ddoe     
  • Cof gweithredol – gallu ‘dal gafael’ ar wybodaeth e.e. wrth wneud mathemateg pen           
  • Y gallu i enwi eitemau cyfarwydd yn gyflym e.e. rhifau, llythrennau, gwrthrychau – efallai’n cael anawsterau’n canfod geiriau neu’n cymysgu geiriau e.e. dweud ffenestr am ddrws   
  • Cyflymder prosesu (eu cyflymder gweithio/meddwl) 

Plentyn dyslecsig yn yr ysgol

  • Anghofus, anhrefnus, yn drysu amseroedd a dyddiadau 
  • Talu sylw – yn ymddangos fel nad yw’n gwrando / ei fod yn breuddwydio 
  • Anhawster dilyn cyfarwyddiadau, copïo o’r bwrdd gwyn          
  • Defnyddio strategaethau ‘osgoi gwaith’
  • Blinder, oherwydd bod angen cymaint o ganolbwyntio ac ymdrech yn yr ysgol 
  • Diffyg hunan-barch – efallai’n nad yw cystal â’i ffrindiau am wneud gwaith ysgol 
  • Llawysgrifen anniben 
  • Yn cofio rhywbeth un diwrnod, ond wedi’i anghofio’r diwrnod wedyn! 

Gwneud darllen yn beth cadarnhaol

  • Byddwch yn esiampl cadarnhaol 
  • Darllenwch i’ch plentyn – yna trafodwch y stori a’r cymeriadau  
  • Rhannwch y darllen – darllenwch y geiriau anodd gyda’ch gilydd               
  • Ymaelodwch â llyfrgell – benthycwch ddewis da o lyfrau amrywiol am bynciau sydd o ddiddordeb i’ch plentyn               
  • Defnyddiwch lyfrau sain pan fyddwch allan e.e. yn y car 
  • Chwaraewch gemau geiriau e.e. cyfateb parau, gemau cof a gweithgareddau dilyniannu (e.e. wrth goginio swper, paratoi i fynd i’r gwely, “Beth sydd angen i ni ei wneud gyntaf?”, “Beth sy’n dod nesaf?”) 

Sut mae dyslecsia’n effeithio ar waith ysgol

  • Cael trafferth ‘cychwyn arni’ (trefnu meddyliau a syniadau)        
  • Cael trafferth dehongli ysgrifen neu symbolau mathemateg 
  • Cael trafferth cofio gwybodaeth             
  • Oedi wrth gyflawni tasgau neu gynhyrchu gwybodaeth (gall effeithio ar gyflymder llawysgrifen, siarad) 
  • Mae plant sydd ag anawsterau dysgu penodol yn prosesu gwybodaeth yn wahanol – mae’n ymwneud â’r ffordd mae’r ymennydd yn gweithio. Nid yw’r gwahaniaethau hyn yn gysylltiedig â deallusrwydd 
  • Anhawster cymryd gwybodaeth i mewn yn iawn (yn ysgrifenedig neu’n eiriol) 
  • Prosesu gwybodaeth – oedi rhwng clywed rhywbeth a’i ddeall neu ymateb iddo                    
  • Gall gymryd yn hirach i blentyn sydd ag anawsterau dysgu penodol feddwl am ateb i gwestiwn ond, yn aml, os caiff yr amser, gall roi ateb da iawn         

Dyslecsia - cryfderau

  • Yn aml yn feddylwyr creadigol a gwreiddiol iawn 
  • Meddwl yn gyfannol – gallu gweld y darlun mwy, gallu deall yn iawn sut mae pethau’n gweithio 
  • Yn wych am ddatrys problemau – am eu bod yn gorfod meddwl am ffyrdd o ddatrys yr anawsterau sydd ganddynt 
  • Galluoedd creadigol e.e. celf, cerddoriaeth, dylunio 
  • Yn aml yn dda gyda thechnoleg newydd – felly gwnewch yn fawr o hyn! 

Cymorth gydag ysgrifennu

Plant ifanc - gwnewch ysgrifennu’n hwyl ac yn amlsynhwyraidd! 

  • Hambwrdd tywod, bwrdd sialc, creonau trwchus neu fwrdd gwyn a phennau marcio 
  • Gwnewch lythrennau a geiriau toes 
  • Gwnewch weithgareddau sy’n defnyddio sgiliau echddygol manwl e.e. edafu gleiniau, byrddau peg, torri a gludo ac ati.       

Helpu plant hŷn – gall hyn fod yn amlsynhwyraidd hefyd!

  • Helpwch eich plentyn i roi syniadau ar bapur
  • Pwyntiau bwled – gallant adeiladu ar y rhain i’w gwneud yn frawddegau a pharagraffau
  • Llinell amser – i helpu i roi syniadau yn y drefn gywir
  • Ysgrifennu syniadau ar bapurau Post-it – gwych ar gyfer dysgwyr ‘ymarferol’ a gellir eu ‘symud o gwmpas’ i drefnu syniadau
  • Recordio syniadau ar lafar ac wedyn eu hysgrifennu neu eu teipio
  • Defnyddio technoleg gynorthwyol ee ‘darllen yn uchel’ neu ap arddweud
  • Mae mapiau meddwl yn ffordd wych o gynhyrchu syniadau a threfnu gwybodaeth mewn ffordd weledol yna, gellir defnyddio’r rhain i drefnu a strwythuro gwaith ysgrifennu a threfnu aseiniadau neu brosiectau.

Adnoddau dyslecsia i rieni/gofalwyr

Cwestiynau Cyffredin Dyslecsia

Rwy’n credu nad yw fy mhlentyn yn gwneud digon o gynnydd gyda darllen ac ysgrifennu yn yr ysgol - beth ddylwn i wneud?

Ceisiwch beidio â dangos i’ch plentyn eich bod yn pryderu ynghylch hyn; bydd yn siŵr o ddeall. Trefnwch i drafod eich pryderon naill ai gydag athro neu athrawes dosbarth eich plentyn, neu gyda’r Cydgysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY). Dylai’r CADY allu dweud wrthych yn union sut mae eich plentyn yn gyrru ymlaen. Os ydych yn teimlo bod llyfr darllen neu restr sillafu eich plentyn yn rhy anodd, gallwch siarad ag athro neu athrawes y dosbarth ynghylch rhoi gwaith cartref gwahanol i’ch plentyn. 

Rwy’n credu y gallai fy mhlentyn fod yn ddyslecsig. Oes raid i mi dalu i’m plentyn gael diagnosis ffurfiol o ddyslecsia er mwyn cael cymorth yn yr ysgol?

Nac oes. Mae dulliau ar gael i ysgolion ar gyfer sgrinio dyslecsia a Gwahaniaethau Dysgu Penodol (ADP) eraill, er mwyn i ysgolion allu nodi plant a allai fod angen cymorth ychwanegol a rhoi cymorth mor fuan ag y bo modd. Mae mwyafrif ysgolion Sir Benfro’n cymryd rhan yn y Rhaglen Canfod ac Ymyriad Cynnar, sy’n golygu sgrinio plant mewn darpariaeth Feithrin yn Sir Benfro am anawsterau iaith a lleferydd neu gyfathrebu cymdeithasol. Caiff ymyriad ei drefnu ar gyfer y plant hynny sy’n dangos anawsterau, ar ffurf y rhaglen Gweithgareddau Cyfathrebu Ymarferol.

Caiff plant yn y Cyfnod Sylfaen yn Sir Benfro eu sgrinio i ddechrau am arwyddion dyslecsia yn y cyfnod cyn llythrennedd gyda’r Prawf Sgrinio Dyslecsia Cynnar (PSDC). Bydd plant sydd ‘mewn perygl’ o ddyslecsia’n cymryd rhan yn y rhaglen Ymyriad Llythrennedd Ymarferol ac yna’n cael eu hailbrofi’n rheolaidd er mwyn cadw golwg ar eu cynnydd.

Yna dylai plant y nodwyd bod ganddynt anawsterau dyslecsig gael ymyriad neu gymorth yn ôl maint eu hangen. Er enghraifft, gallai’r cymorth hwn fod ar ffurf rhaglen ymyrryd ar sillafu neu ddarllen, strategaethau ystyriol o ddyslecsia yn yr ystafell ddosbarth, dulliau asesu gwahanol, gwahaniaethu gwaith ar sail gallu, neu ddefnyddio technoleg gynorthwyol yn yr ystafell ddosbarth.

Rwy’n ansicr a yw fy mhlentyn yn cael unrhyw gymorth yn yr ysgol – sut allaf i gael gwybod?

Os ydych yn ansicr pa gymorth sydd ar gyfer eich plentyn, dylech ofyn am gael siarad â Chydgysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol, a ddylai allu rhoi’r wybodaeth hon i chi, yn ogystal ag ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynghylch cynnydd eich plentyn. Fe allai cymorth i’ch plentyn fod ar wahanol ffurfiau fel: gweithgareddau gwahanol strategaethau ystyriol o ddyslecsia yn yr ystafell ddosbarth, ymyriad grwpiau bach / gweithgareddau fesul dau, rhaglenni llythrennedd neu rifedd, defnyddio TG, neu oddefiadau mewn arholiadau a phrofion. 

Os oes gan fy mhlentyn anawsterau dyslecsig, a fydd hyn yn golygu defnyddio troshaenau lliw neu sbectol liw i ddarllen?

Na, dim o reidrwydd. Mae tystiolaeth yn dangos bod anawsterau gweld i’w cael ar draws pob math o alluoedd darllen ac, wrth gwrs, yn enwedig yn y rhai gyda’r galluoedd darllen gwanaf. Os yw eich plentyn yn cael unrhyw anhawster gyda geiriau’n ‘symud’ ar y dudalen wrth ddarllen, yn cael anhawster darllen print du ar bapur gwyn, neu’n cael anhawster dilyn wrth ddarllen (colli lle neu neidio llinellau), mae’n ddoeth trefnu i weld Optometrydd, sy’n gallu dehongli anawsterau gweld. Cael asesiad iechyd llygaid gan weithiwr proffesiynol cymwysedig yw’r flaenoriaeth gyntaf os yw rhywun yn cael unrhyw anesmwythder a/neu aflonyddwch gyda’r golwg.

Fe all Optometrydd wneud prawf llawn i weld natur y broblem a phenderfynu a yw’n berthnasol i un o’r canlynol: synnwyr / amgyffred gweledol (aflonyddwch neu anesmwythder gyda’r golwg); plygiant (yn achosi blino llygaid, craffu, golwg aneglur); neu anhawster symud y llygaid cysylltiedig â sut mae cyhyrau’r llygaid yn cydweithio (a allai achosi cymylu, geiriau’n ‘symud’, neu anawsterau dilyn).

Caiff llawer o symptomau a gafodd yr enw ‘straen ar y golwg’ eu hachosi’n aml gan broblemau plygiannol neu symud y llygaid mewn gwirionedd.

  • Mae gan bobl sydd â dyslecsia yr un siawns o gael anawsterau gweledol â'r rhai heb ddyslecsia
  • Anhawster dysgu iaith a llythrennedd yw dyslecsia, nid anhawster gyda golwg
  • Nid yw problemau golwg yn achosi dyslecsia, ond gallant fod yn bresennol hefyd

Sut allaf i sicrhau bod holl athrawon fy mhlentyn yn ymwybodol o anghenion dysgu fy mhlentyn?

Holwch Gydgysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol ynghylch ysgrifennu Proffil Disgybl ar gyfer eich plentyn, a fydd yn rhoi gwybodaeth i’r athrawon am gryfderau ac anawsterau eich plentyn a sut mae’n dysgu orau. Fe all hyn fod yn arbennig o bwysig yn yr ysgol uwchradd, lle bydd gan eich plentyn amryw wahanol athrawon.

A oes angen i'm plentyn gael diagnosis ffurfiol o ddyslecsia er mwyn cael cymorth yn ei arholiadau?

Nac oes. Os yw’r ysgol wedi nodi bod gan eich plentyn unrhyw anghenion ychwanegol, yna bydd Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol yn trefnu i’ch plentyn gael ei asesu ar gyfer trefniadau mynediad arholiadau gan aseswr sydd wedi’i gymeradwyo gan bennaeth yr ysgol. Rhaid i unrhyw drefniadau mynediad arholiad a roddir ar waith ar gyfer eich plentyn adlewyrchu ei ffordd arferol o weithio yn yr ysgol, e.e. os oes angen amser ychwanegol ar eich plentyn, neu liniadur, darllenydd neu anogwr, er enghraifft. Os oes gennych bryderon ynglŷn â hyn, cysylltwch â CADY eich ysgol a threfnu cyfarfod.

ID: 7809, adolygwyd 18/09/2024