Wasanaeth Cynhwysiant
Gwasanaeth Cymorth Ymddygiad
Mae'r Gwasanaeth Cymorth Ymddygiad yn cynnig cymorth ac arweiniad i ysgolion a theuluoedd ledled y sir. Mae'r tîm yn cynnwys pedwar athro/athrawes sy'n cwmpasu'r holl agweddau ar allgymorth ymddygiad gan gynnwys:
- Hyfforddiant i athrawon, staff a llywodraethwyr yr ysgol
- Cefnogi disgyblion unigol
- Rhoi cyngor i staff yr ysgol ar systemau, gweithdrefnau a pholisïau
- Gweithio'n agos gyda phartneriaid i gefnogi plant a phobl ifanc megis Partneriaeth Rhieni, Gwasanaeth Lles Addysg, Gwasanaeth Ieuenctid, a Gwasanaethau Plant ac ati
- Cefnogi disgyblion i mewn ac allan o leoliadau arbenigol
- Cefnogi cyfnod pontio disgyblion rhwng ysgolion a chyfnodau allweddol
- Arwain ar gynlluniau Cymorth Bugeiliol
- Monitro gwaharddiadau ac ymyriadau
- Rhoi cyngor i ysgolion mewn perthynas ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
ID: 7930, adolygwyd 01/07/2022