Wasanaeth Cynhwysiant

Gwybyddiaeth a Dysgu / Anghenion Cymhleth

Beth yw'r Gwasanaeth? - Ar gyfer pwy mae'r Gwasanaeth?

Mae'r tîm Cynghori ar Anghenion Cymhleth yn cynnig cyngor ac arweiniad i ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Sir Benfro ar gyfer plant ac oedolion ifanc 3-19 oed sydd ag anghenion dysgu cymhleth.

O fewn y tîm Anghenion Dysgu Cymhleth mae athro ymgynghorol a chynorthwyydd arbenigol.

Wrth gyfeirio at y gwasanaeth, asesir anghenion disgybl a gwneir argymhellion addas. Os bydd angen, datblygir rhaglen gymorth i staff a'r disgybl ac mae'r cynorthwyydd anghenion cymhleth yn cefnogi gweithredu'r rhaglen. Caiff rhaglenni cymorth eu hailes hasesu bob pump i chwe wythnos i sicrhau bod myfyrwyr yn gwneud cynnydd da. Bydd yr amser y mae myfyriwr yn ymwneud â'r gwasanaeth yn amrywio yn dibynnu ar angen y person ifanc. 

Sut y gellir cael gafael ar y Gwasanaeth? - Â phwy i gysylltu?

Gwneir atgyfeiriadau drwy ysgol y plentyn mewn trafodaeth â'r Pennaeth neu'r Cydgysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

 

Gellir trafod pryderon ychwanegol gyda:

Helen Butland – Athro Ymgynghorol ar gyfer Anghenion Cymhleth

E-bost: Helen.Butland@pembrokeshire.gov.uk

 

ID: 7988, adolygwyd 14/04/2023