Wasanaeth Cynhwysiant

Synhwyraidd - Nam ar y Golwg

Gwybodaeth Gyffredinol - Nam ar y Golwg

Mae'r Athro Arbenigol (Athro Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg) yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc o bob oed o fabanod nes iddynt orffen eu haddysg. Mae'r gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol, Arbenigwyr Cynefino, gweithwyr Iechyd proffesiynol a Gofal Cymdeithasol. Mae rôl yr Athro Nam ar y Golwg Arbenigol yn cynnwys:

  • Monitro a helpu Disgyblion, Rhieni a'r Lleoliad Addysgol i godi ymwybyddiaeth o'r nam ar y golwg ac asesu eu hangen gweledol.
  • Darparu cefnogaeth ychwanegol i ddisgyblion unigol a phlant cyn-ysgol, gan gynnwys Braille a sgiliau bysellfwrdd arbenigol.
  • Darparu hyfforddiant i ysgolion i'w helpu i ddeall anghenion disgyblion â nam ar eu golwg.
  • Rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth, hyfforddiant pwnc-benodol, hyfforddiant offer arbenigol i ysgolion gan gynnwys defnyddio deunyddiau fel deunydd ysgrifennu, darllen sgrin, meddalwedd chwyddo, cymorthyddion golwg gwan a dyfeisiau Braille.
  • Darparu cefnogaeth a hyfforddiant trosglwyddo penodol i Nam ar y Golwg lle bo angen.
  • Cefnogi a rhoi cyngor i rieni / gwarcheidwaid.
  • Hyrwyddo a darparu hyfforddiant ar les emosiynol a sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu.
  • Cefnogi myfyrwyr trwy drosglwyddo i ddarpariaeth ôl-16 / Addysg Bellach ac i fod yn oedolion annibynnol.
  • Grymuso a chefnogi disgybl â nam ar ei olwg i ddatblygu hunanhyder a hunan-barch.
  • Addysgu sgiliau arbenigol, er enghraifft Braille, defnyddio offer arbenigol a TGCh, a sgiliau byw a dysgu annibynnol.
  • Addasu adnoddau addysgu a dysgu mewn fformatau print, sain neu gyffyrddadwy a hyfforddi staff mewn lleoliadau i wneud hyn
  • Cynghori staff ysgolion ar drefniadau mynediad ar gyfer arholiadau.
  • Helpu disgyblion i gyrraedd eu potensial waeth beth fo'u nam ar eu golwg.

Dyma daflen ffeithiau a gynhyrchwyd gan y RNIB sy’n amlinellu rôl Athro Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg:

Rôl Athro Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg 

Mewn cymdeithas sy’n gynyddol gynhwysol, rôl yr Athro Nam ar y Golwg yw sicrhau bod dewis yn cael ei gynnig i blant, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr plant a Phobl Ifanc sydd â Nam ar eu Golwg. Mae arbenigedd ac adnoddau ar gael i ddisgyblion, rhieni/gwarcheidwaid ac ysgolion i alluogi mynediad cynhwysol llawn at ddysgu. Mae sgiliau byw'n annibynnol a symudedd yn cael eu cyrchu pan fo angen hynny gan arbenigwyr Sefydlu Cŵn Tywys y DU. Sefydlir gweithio cydweithredol i helpu a diwallu pob angen.

 

Sut mae cael help gan Athro Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg/Athro Arbenigol ar gyfer Nam ar y Golwg? 

Mae'r llwybr i gael gafael ar gymorth gan Athro Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg fel arfer yn cychwyn trwy atgyfeiriad iechyd uniongyrchol gan yr Offthalmolegydd, y Clinig Llygaid neu'r Ymwelydd Iechyd. Gall y plentyn gael ardystiad Nam ar ei Olwg neu Nam Difrifol ar ei Olwg. Unwaith y bydd gan yr Athro Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg fanylion y plentyn, bydd yr Athro Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg yn cychwyn cyswllt uniongyrchol dros y ffôn, trwy'r post neu e-bost i asesu a helpu eich plentyn. Os yw'ch plentyn o dan ofal optegydd yn unig, mae'n annhebygol bod angen cefnogaeth Athro Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg gan fod golwg eich plentyn wedi'i chywiro gan sbectol bresgripsiwn. Mae angen atgyfeiriad i Athro Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg pan fydd gan eich plentyn nam ar ei olwg na ellir ei gywiro gan sbectol bresgripsiwn.

Asesiad Golwg Gwan

Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru

Os oes gan eich plentyn ardystiad nam ar ei olwg neu nam difrifol ar ei olwg, mae’n gymwys i gael Asesiad Golwg Gwan. Dim ond optegydd achrededig all wneud hyn.

 

Adnoddau a gwybodaeth am Nam ar y Golwg

Llythrennedd a Nam ar y Golwg

Cyrchu Darllen ac Ysgrifennu gyda Nam ar y Golwg

Asesir Plant a Phobl Ifanc gan yr Athro Cymwysedig Disgyblion â Nam ar eu Golwg o oedran ifanc iawn i sicrhau eu bod yn cyrchu'r cyfrwng cywir i ddarllen ac ysgrifennu. Os oes gan blentyn olwg gwan, yna bydd arddull, maint a lliw'r ffont yn bwysig ar gyfer ei gyrchu. Os oes gan blentyn nam difrifol ar ei olwg, gellir gweithredu cwricwlwm amgen sy’n cynnwys cwricwlwm cyffyrddol/Braille.

Gwefan sy'n cynnig syniadau ac awgrymiadau i blant o bob oed yw Paths to Literacy.

Mae ganddyn nhw raglenni Llythrennedd Braille, Gwersi Braille a Chelf Braille ac adnoddau ar gyfer athrawon a chynorthwywyr cymorth.

Living Paintings

Llyfrgell Gyffwrdd am ddim drwy’r post ar gyfer pob oedran ysgol.

RNIB Bookshare

Gwefan rannu llyfrau AM DDIM sy’n darparu e-lyfrau ac adnoddau hygyrch, am ddim ar gyfer dysgwyr â nam ar eu golwg.

Llyfrgell Hygyrch

Llyfrgell ar-lein am ddim arall ar gyfer pobl â nam ar eu golwg.

Llyfrau Llafar Cymru

Sefydliad sy’n cynhyrchu llyfrau llafar Cymraeg a Saesneg ar gyfer pobl â nam ar eu golwg.

Llyfrau CustomEyes

Dewis eang o lyfrau print bras i’w prynu ar gyfer myfyrwyr â nam ar eu golwg.

Gwasg Gomer

Detholiad enfawr o e-lyfrau Cymraeg a Saesneg i’w prynu.

Oxford Reading Tree

Detholiad o lyfrau darllen Cymraeg am ddim i blant o gyfres Oxford Reading Tree

 

Rhifedd a Nam ar y Golwg

Cyrchu Mathemateg gyda Nam ar y Golwg

Dylai rhifedd ar gyfer plentyn â nam ar ei olwg fod yn “ymarferol” ac yn gyffyrddadwy ei natur. Bydd angen i'r cysyniad/thema gael ei ategu gan eitem sy'n ei helpu i ddeall yr hafaliad. Bydd defnyddio Numicon, cownteri a hyd yn oed blociau i gyd yn galluogi mynediad. Dyma ambell ddolen i'ch helpu gartref ac yn yr ysgol:

Awgrymiadau ar addysgu mathemateg i ddisgybl â Nam ar ei Olwg

Arweiniad syml i helpu addysgwyr a theuluoedd gyda rhifedd mewn lleoliad addysgol neu gartref

Maths Investigation Box

Bocs o adnoddau Cysyniad Rhifedd Cynnar i helpu plant â Nam ar eu Golwg

Braille a Rhifedd

Rhestr o adnoddau i wneud rhifedd yn gyffyrddadwy a hygyrch i ddisgyblion

56 cysyniad Mathemateg Cyffyrddadwy i helpu plant â Nam ar eu Golwg

Blog gwych â syniadau bob dydd i helpu rhieni ac ysgolion ddatblygu cysyniadau rhifedd cyffyrddadwy

 

Nam ar y Golwg yn y Blynyddoedd Cynnar

(Cymorth dysgu ar gyfer oedran meithrin a chyn-ysgol)

Yn y Blynyddoedd Cynnar, mae'n bwysig cefnogi datblygiad ymwybyddiaeth gyffyrddadwy a sgiliau gweledol sylfaenol plentyn trwy'r cysyniad o sgiliau edrych positif. Mae'r math o ddysgu a chwarae yn dod yn bwysig ac yn benodol i allu eich plentyn i archwilio'r amgylchedd o'i gwmpas. Unwaith y bydd plentyn yn cael ei atgyfeirio at yr Athro Nam ar y Golwg Arbenigol, caiff eich plentyn ei asesu a gweithredir strategaethau wedi'u teilwra'n arbennig i ddatblygu eu sgiliau gweledol sylfaenol. Dyma ambell ddolen i helpu rhieni a lleoliadau addysgol:

Plant a Braille – gwybodaeth ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid

Addasu Delweddau ar gyfer plant sy’n dechrau darllen – arweiniad i addasu adnoddau gwersi i fod yn weledol hygyrch yn y Blynyddoedd Cynnar

The Marvin Story Time Show – Amser stori sy’n addas ar gyfer Nam ar y Golwg i ddisgyblion â Golwg Gwan

 

Helpu disgyblion sydd â Nam ar y Golwg ac anghenion Dysgu Ychwanegol a Chymhleth

Isod ceir ambell ddolen i helpu disgyblion sydd ag anghenion ychwanegol a chymhleth â Nam ar eu Golwg i ddefnyddio ac ymarfer eu sgiliau gweledol sylfaenol:

Sensory Bucket Time

Story Buckets Edrych Positif i annog sgiliau gweledol sylfaenol gydag amser stori, strategaethau llythrennedd a rhifedd ar gyfer nam ar y golwg

Active Learning Space​​

Awgrymiadau ar sut i greu gofodau dysgu llesol ar gyfer plant

CVI Scotland​​

Gwybodaeth am helpu datblygiad iaith i’r rhai â Nam Ymenyddol ar y Golwg ac Anableddau Dwys a Dysgu Lluosog

CVI Society

Gwybodaeth am ddefnyddio pebyll lliw i gynyddu ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad gweledol ar gyfer plant â Nam Ymenyddol ar y Golwg ac Anableddau Dwys a Dysgu Lluosog 

Little Bear Sees – Gwefan wedi’i dylunio ar gyfer plant â Nam Ymenyddol ar y Golwg

 

Technoleg Hygyrch

Mae technoleg yn dod yn fwyfwy hygyrch i blant sydd â golwg gwan / nam ardystiedig ar eu golwg. Os oes gan blentyn nam difrifol ar ei olwg, efallai y bydd angen dyfeisiau chwyddo, cyffyrddol neu Braille arbenigol. Mae'r dechnoleg a'r rhaglenni ategol yn aml yn cynnwys teipio cyffwrdd.

Isod mae dolenni i wybodaeth am ffyrdd o gael mynediad at dechnoleg os oes gan eich plentyn olwg gwan:

iPad- Defnyddio gosodiadau Llais

Cyngor ac adnoddau technoleg ar gyfer myfyrwyr â nam ar eu golwg.

Microsoft Windows 10

Gwybodaeth ddefnyddiol ar sut i osod opsiynau hygyrchedd yn Windows 10.

Llwybrau Byr Microsoft Windows

Gwybodaeth am sut i ddefnyddio llwybrau byr bysellfwrdd yn Windows.

Teipio cyffwrdd

Cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu sgiliau teipio cyffwrdd (fformat gwers wrth wers)

BBC Dance mat

Teipio cyffwrdd ar gyfer Golwg Gwan (sylfaenol)

Humanware

Mae Humanware yn gwmni byd-eang sy’n ceisio darparu technoleg gynorthwyol ar gyfer unigolion sydd â nam ar eu golwg.  

Apiau hygyrch ar gyfer ffonau symudol a llechi fel iPads

Mae hygyrchedd yn hanfodol i ddatblygu sgiliau annibynnol i ddisgybl/plentyn â nam ar ei olwg. Dyma ddolen i’r apiau cynhwysol a hygyrch gorau sydd ar gael:

Apiau ar gyfer Nam ar y Golwg

 

Gwefannau Defnyddiol Eraill

Mae nifer o elusennau a sefydliadau ar gael sy’n helpu plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg:

RNIB Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall

Elusen yn y DU sy'n cynnig gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i bobl â nam ar eu golwg. Maen nhw hefyd yn cynnig Grant Technoleg Gynorthwyol lle gall teuluoedd wneud cais am ddyfeisiau i'w defnyddio gartref.

Cŵn Tywys

Sefydliad elusennol Prydeinig sy'n helpu pobl ddall a rhannol ddall trwy'r Gwasanaethau Sefydlu, Symudedd, Cynefino, Sgiliau Bywyd a gwneud cais am Gi Tywys.

LOOK UK

Elusen sy'n cynnig mentora, digwyddiadau trawsnewidiol, grwpiau cymorth i rieni a fforymau ieuenctid, i helpu pobl ifanc â nam ar eu golwg.

Positive Eye

Cwmni hyfforddi arbenigol Nam ar y Golwg sy'n cynnal cyrsiau ac yn darparu adnoddau i helpu plant a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg.

UCAN

Mae UCAN yn gwmni cydweithredol perfformio a chelfyddydau creadigol ar gyfer plant, pobl ifanc ddall a rhannol ddall

Victa Parent Portal​​

Canolfan wybodaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n magu plentyn â nam ar ei olwg.

 

Byw gyda Dallineb neu Nam ar y Golwg yn Sir Benfro

Cymdeithas Deillion Sir Benfro – elusen leol sy’n helpu teuluoedd ag aelodau sy’n cael diagnosis o Nam ar eu Golwg

Access Pembrokeshire - Gwasanaeth gwybodaeth ar gyfer unigolion sy’n byw gydag anableddau yn Sir Benfro

Help os oes gennych broblemau golwg – dolen i sefydliadau a gwasanaethau cymorth yn Sir Benfro

 

Nam ar y Golwg yn y newyddion 

Lego Braille yn cael ei ddarparu i ddisgyblion sy’n cael eu haddysg drwy Braille

 

Gwasanaethau Colli Golwg yng Nghymru

RNIB

Sight Cymru 

Cyngor Cymru i'r deillion 

 

ID: 7906, adolygwyd 14/04/2023