Dysgu a Datblygu
Addysgwr Ymarfer - Hyfforddi'r genhedlaeth nesaf
Os ydych yn angerddol am gefnogi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol, rydym yn darparu amrediad eang o gyfleoedd dysgu ymarfer ar gyfer myfyrwyr gwaith cymdeithasol bob blwyddyn trwy ein partneriaethau Prifysgol. Mae'r rhain yn creu nifer o gyfleoedd i addysgwyr ymarfer cymwysedig oruchwylio myfyrwyr sydd ar leoliad. Gan gynnal safonau uchel, mae addysgwyr ymarfer yn darparu'r sylfeini a'r profiad sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddod yn weithwyr cymdeithasol effeithiol a hyderus. Ac nid y myfyrwyr yw’r unig rai sy'n cael budd o'r broses. Mae'n hynod fuddiol i’n haddysgwyr ymarfer hefyd, gan eu helpu i fyfyrio ar eu dulliau a'u ffyrdd eu hunain o weithio a’u mireinio.
Gall gweithwyr cymdeithasol gyda phrofiad ôl-gymhwysol o dair blynedd a mwy wneud cais i'n panel cymwysterau ar gyllid a chymorth i astudio ar gyfer Gwobr Addysgwr Ymarfer, a chychwyn ar y daith tuag at lunio gweithwyr cymdeithasol y dyfodol.
'Cwblheais y Wobr Addysgwr/Asesydd Ymarfer wrth weithio i Gyngor Sir Penfro yn 2017. Derbyniais gefnogaeth ac anogaeth gan fy rheolwr a'r adran hyfforddi i wneud hyn. Roedd y profiad o astudio ar y lefel hon yn un a oedd wedi bywiogi fy ymarfer fy hun ac wedi adnewyddu fy nysgu. Rwyf bellach yn addysgwr ymarfer am y pumed tro ac yn teimlo bod pob profiad yn cynnig y cyfle i mi barhau i ddatblygu fy sgiliau a'm gwybodaeth yn ogystal â darparu amrywiaeth o fewn fy rôl.' Lisa Jones, Gweithiwr Cymdeithasol, Tîm Camddefnyddio Sylweddau