Dysgu a Datblygu
Fframwaith y Tair Blynedd Gyntaf o Ymarfer
Blwyddyn Ymarfer Gyntaf
Yn eich blwyddyn ymarfer gyntaf bydd gennych gynllun datblygiad unigol. Bydd hyn yn eich helpu i atgyfnerthu ac ehangu eich sgiliau a'ch gwybodaeth ac adlewyrchu ar arferion, gan gefnogi eich cynnydd tuag at y rhaglen Gyfuno. Byddwch hefyd yn cael budd o oruchwyliaeth eang, mentor annibynnol, llwyth gwaith gwarchodedig, rhaglen hyfforddi strwythuredig a sesiynau grŵp cyfoedion rheolaidd mewn amgylchedd diogel er mwyn i chi rannu eich profiadau a chefnogi gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso eraill i archwilio datrysiadau cadarnhaol a chryfhau eich arferion.
Mae ein mentoriaid yn weithwyr cymdeithasol profiadol, sy'n angerddol dros eu gwaith gyda dyhead i gefnogi eraill wrth iddynt ddatblygu a thyfu. Ein nod yw paru ein gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso gyda mentor o du allan eich tîm sydd â phrofiad yn eich maes gwasanaeth craidd, fel eu bod â dealltwriaeth o'r rôl ac yn gallu archwilio datrysiadau ymarferol a chadarnhaol mewn amgylchedd diogel a chyfrinachol.
Rhaglen Gyfuno (ail flwyddyn ymarfer)
Mae'r Rhaglen Gyfuno (yr ail flwyddyn ymarfer yn arferol) yn adeiladu ar eich datblygiad yn y flwyddyn gyntaf a'ch cefnogi tuag at ail-gofrestru, gyda chyfleoedd ar gyfer cysgodi, cydweithio, cyfarfodydd grŵp, cefnogaeth cyfoedion, gweithdai a mentora. Rydych yn cael eich annog i adlewyrchu ar eich arferion, eich cryfderau a’ch cymhellion a sut y maent yn addas yng nghyd-destun ehangach eich gwaith, gan eich helpu i bontio'n llyfn o fod yn fyfyriwr i ddod yn weithiwr proffesiynol cymwysedig.