Harfer Da a Cyflawniadau

Harfer Da a Cyflawniadau

Bydd gwaith cymdeithasol wastad yn her, ond mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau’r bobl yr ydym yn eu cefnogi, ac rydym yn falch o’n cyflawniadau. Mae ein huwch dîm rheoli’n creu diwylliant o werthfawrogi a bod yn agored i newid ffyrdd o feddwl a thrawsnewid ymarfer. Rydym yn gosod y safon fel arweinwyr o ran rhoi’r model Arwyddion Diogelwch ar waith ar draws gwasanaethau Oedolion a Phlant, ac rydym wedi ennill sawl gwobr genedlaethol glodfawr sy’n dathlu ymarfer arloesol mewn categorïau megis ‘Gwaith Tîm Rhagorol’ a ‘Cyflogwr Ysbrydoledig’ am fentrau sy’n cynnwys ein dull newydd seiliedig-ar-gryfderau o gynnal Goruchwyliaeth WerthfawrogolTrwy barhau i chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o wella ein hymarfer mae gennym y pŵer i newid bywydau. Mae arnom angen pobl â’r angerdd a’r gallu i wneud i’r newid hwnnw ddigwydd – dyna pam fod arnom angen pobl fel chi. Ymunwch â Ni.

Covid-19

Bu’n gyfnod galed gydag effaith ddinistriol Covid-19, ond yn un y gallwn ni yng Nghyngor Sir Penfro, ac yn enwedig yma yn y gwasanaethau cymdeithasol, ymfalchïo ynddi. Mae’r pandemig wedi bwrw goleuni ar werth a phwysigrwydd ein gweithlu, ac mae ein timau angerddol ac ymroddedig wedi gwneud mwy nag ymateb i’r her. Gan ddefnyddio technoleg ddigidol ac uno â’n cydweithwyr mewn gwasanaethau Iechyd ac Awdurdodau cyfagos, mae ein timau wedi canfod ffyrdd newydd o weithio mewn amgylchiadau sy’n anghyfarwydd ac yn newid yn gyflym. Rydym wedi gorfod gweithio’n gyflym a gwneud penderfyniadau cyflym, ond rydym wedi cyd-dynnu i gwblhau’r dasg.

ID: 7565, adolygwyd 23/03/2023