Harfer Da a Cyflawniadau

Archwiliad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o Wasanaethau Gofal Cymdeithasol Sir Benfro - Medi 2020

Dyma rai o'r sylwadau gwych a dderbyniwyd yn dilyn yr archwiliad diweddaraf gan Arolygaeth Gofal Cymru (AGC) o Wasanaethau Gofal Cymdeithasol Sir Benfro:

'Roedd yr ymarferwyr a siaradodd â ni yn gadarnhaol ynglŷn â'r gefnogaeth a dderbyniwyd gan y tîm rheoli. Dangosodd yr awdurdod lleol ymrwymiad tuag at ddysgu a datblygu a chefnogaeth at gymhwyster ffurfiol. Mae hyn o bwys, yn enwedig wrth gefnogi nifer o staff sydd newydd gymhwyso yn yr awdurdod lleol ac yn hyrwyddo gwybodaeth a rennir ar draws timau ac asiantaethau eraill.'

'Canfuwyd cryfder mewn trefniadau partneriaeth rhwng y gwasanaethau statudol a'r gwasanaethau ataliol.'

'Gall pobl Sir Benfro fod yn sicr bod eu diogelwch a'u llesiant yn cael eu hyrwyddo. Rheolwyd yr arferion atgyfeiriadau a diogelu yn unol â gofynion statudol ac mewn ffordd briodol a phrydlon.'

 'Cydnabyddodd yr awdurdod lleol bod cefnogi lles y gweithlu yn fusnes hanfodol ac mae ganddo ffocws clir ar recriwtio, cadw a datblygu'r gweithlu. Mae'r holl staff yn elwa ar y cyfle i ddatblygu eu gwybodaeth, sgiliau a gyrfaoedd. Uchelgais yr awdurdod lleol yw sicrhau bod y bobl sy'n byw yn Sir Benfro yn elwa ar gydberthnasau hirdymor ac ymddiriedol gyda gweithwyr cymdeithasol medrus a chefnogol sy'n deall eu hanghenion a sut i weithio gyda nhw yn y modd gorau i leihau risg a gwella eu canlyniadau personol.'

ID: 7567, adolygwyd 29/09/2022