Harfer Da a Cyflawniadau
Arwyddion Diogelwch-dull cydweithredol o roi gofal
Diogelu plant ac oedolion agored i niwed yw ein prif flaenoriaeth o hyd, ac Arwyddion Diogelwch/Signs of Safety yw ein model darparu gwasanaethau. Mae’r dull hwn sy’n arloesol, yn seiliedig ar gryfderau ac yn canolbwyntio ar ddatrysiadau yn annog gweithwyr cymdeithasol i gydweithio gyda theuluoedd. Mae’n annog rhieni a gofalwyr i ymgymryd â rôl weithredol, gan roi iddynt yr offer i lunio eu datrysiadau eu hunain a’r hyblygrwydd i addasu i sefyllfaoedd sy’n newid.
Mae Arwyddion Diogelwch / Signs of Safety bellach yn cael ei gydnabod yn eang fel dull sydd ar flaen y gad o ran ymarfer diogelu. Fel yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ddatblygu’r dull Arwyddion Diogelwch / Signs of Safety fel model ymarfer oedolion, rydym yn falch i fod yn gosod y safon yng Nghymru fel arweinwyr o ran rhoi Arwyddion Diogelwch / Signs of Safety ar waith ar draws y ddau wasanaeth.
'Mae’r model Arwyddion Diogelwch / Signs of Safety yn cyd-fynd yn dda â’n holl ddulliau sy’n canolbwyntio ar unigolion yn y gwasanaeth camddefnyddio sylweddau i oedolion. Mae wedi profi’n arbennig o effeithiol o ran gweithio gydag aelodau o deuluoedd i hybu eu lles eu hunain. Mae hyn yn eu galluogi i sefydlu ffiniau fel nad ydynt yn cymryd cyfrifoldeb am ddefnydd y sawl sy’n agos atynt o alcohol a/neu gyffuriau, sy’n aml yn arwain at newidiadau cadarnhaol i’r arferion camddefnyddio sylweddau'
Alex Panter, Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol yn y Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol
Yn ogystal â hyfforddi cyflogeion ar draws amrywiaeth o leoliadau i ddefnyddio’r model Arwyddion Diogelwch / Signs of Safety, rydym yn cael ymholiadau ynghylch ein dull o ddefnyddio Arwyddion Diogelwch / Signs of Safety a’r modd y caiff ei roi ar waith o bob rhan o’r DU. Yn 2018 a 2019 fe gynhaliom ni ddau ddigwyddiad arddangos cenedlaethol gyda chynrychiolwyr amlasiantaeth o’r glannau hyn ac o dramor. Dyma oedd gan Viv Hogg, cyflwynydd cyweirnod mewn cynadleddau amddiffyn plant blaenllaw ledled y byd a chydawdur nifer o bapurau ar yr arfer Arwyddion Diogelwch/Signs of Safety i’w ddweud am ein gwaith yn Sir Benfro:
'Gweld tystiolaeth o Roi Ar Waith ar draws Gwasanaeth cyfan – prinnach na gras mewn beili'
'Enghraifft wych o gynnwys partneriaid, hyfforddi’r bobl gywir a’i wneud yn gynnar'
'I roi Arwyddion Diogelwch / Signs of Safety ar waith mae angen i chi greu diwylliant o werthfawrogi ac yma rydych chi’n rhannu storïau o lwyddiant'
'Y ffactor pwysicaf ar gyfer rhoi’r dull ar waith yn llwyddiannus yw Arweinyddiaeth ac rwy’n gweld digonedd o hynny'