Harfer Da a Cyflawniadau
Ein Gwobrau
Rydym yn eithriadol o falch bod ein cyflawniadau a’n llwyddiannau wedi cael eu cydnabod a’u dathlu trwy nifer o wobrau ac enwebiadau mewn amrywiaeth o gategorïau sy’n dathlu rhagoriaeth ac arloesi mewn ymarfer gwaith cymdeithasol.
Gwobrau Cyflawniad MJ (Mehefin 2024)
Cyrhaeddodd Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Sir Benfro rownd derfynol y categori “Arloesi mewn Gwasanaethau Plant ac Oedolion”.
Ailddilysu gwobr aur (Chwefror 2024)
Ailddilyswyd Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol De Sir Benfro eu gwobr aur am fod yn fuddsoddwyr mewn gofal. Mae’r wobr hon ar gyfer y gefnogaeth a roddir i ofalwyr di-dâl, helpu pobl i gydnabod eu bod yn ofalwyr, ac yna ceisio sicrhau bod gan y gofalwr y cymorth cywir ei hun er mwyn gallu parhau i ddarparu cymorth i eraill.
Dathlodd Gwobrau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru (Mawrth 2024)
yr holl waith rhagorol a wnaed gan staff iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys gwirfoddolwyr) ar draws rhanbarth Gorllewin Cymru. Cawsom ein canmol mewn nifer o gategorïau fel a ganlyn:
- Yn y categori Cyd-gynhyrchu, sy’n dathlu prosiect neu dîm sydd wedi dangos cyd-gynhyrchu gwirioneddol ac arweinyddiaeth a chydweithio parhaus dan arweiniad defnyddwyr, enillodd Julie Cunningham o dîm integredig Cymorth i Deuluoedd y wobr gyntaf, a chafodd tîm cyfryngau cymdeithasol Llwybrau at Gyflogaeth ganmoliaeth uchel.
- Aeth Gwobr Datblygu'r Gweithlu i Sarah Hanley, Rheolwr Tîm a chafodd ein Tîm Aseswyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol ganmoliaeth uchel
- Cafodd Hwb Cymunedol Sir Benfro ganmoliaeth uchel yn y categori Gwobr Gofal Integredig, sy’n dathlu gwella bywydau ein dinasyddion trwy drefniadau ar y cyd a gweithio integredig, a chanmoliaeth uchel ar gyfer gwobr “Tîm y Flwyddyn”, sy’n dathlu’r tîm sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn cydweithio a gweithio mewn partneriaeth.
Gwobr Rhagoriaeth Maethu (Hydref 2023)
Enillodd merch yn ei harddegau o Sir Benfro sydd ag uchelgais o ddod yn swyddog heddlu Wobr Rhagoriaeth Maethu, clod maethu mwyaf mawreddog y DU, gan gydnabod ei chyflawniadau eithriadol. Y Gwobrau Rhagoriaeth Maethu blynyddol yw gwobrau gofal maethu mwyaf mawreddog y DU, yn dathlu llwyddiannau eithriadol ym maes maethu ac yn cydnabod y rhai sy’n gwneud cyfraniadau eithriadol i ofal maethu bob dydd.
Gwobrau Ymarfer Diogelu Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru (Mehefin 2023)
Cynhaliodd Byrddau Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru i Blant (CYSUR) ac i Oedolion (CWMPAS) eu hail seremoni wobrwyo i gydnabod y cyfraniad y mae gweithwyr allweddol o amrywiaeth o asiantaethau sector cyhoeddus wedi’i wneud i gadw’r plant a’r oedolion mwyaf bregus yn ein cymunedau yn ddiogel. Cydnabuwyd eu gwaith ar draws wyth categori.
Enillodd Gareth Tucker, Rheolwr Gwasanaethau Darparwyr, y wobr am Ddiogelu Cymunedol Ehangach Arwyddocaol – Ymarfer sydd wedi Cael Effaith Gadarnhaol ar y Gymuned wrth Ddiogelu Plant neu Oedolion, ac enillodd Karen Panter, Julie Cunningham a Cheryl Loughlin Wobr Cydnabod Gwasanaeth Hir / Cyflawniad Oes am Gyfraniad at Ymarfer a Datblygiad Diogelu Plant neu Oedolion mewn Perygl.
Mae Gwobrau Iechyd a Gofal Gorllewin Cymru (Hydref 2023)
yn cydnabod y rhai yn y gymuned y mae eu hymdrechion yn y diwydiant iechyd a gofal wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl. Aeth y wobr ar gyfer Tîm Cymunedol y Flwyddyn i’n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion Hŷn yn Sir Benfro, a oedd yn gorfod dangos effaith, gwaith tîm cryf iawn, cyfathrebu cryf, a’r gallu i weithio ar draws ffiniau sefydliadol.