Harfer Da a Cyflawniadau

Arwyddion Diogelwch-dull cydweithredol o roi gofal

Diogelu plant ac oedolion agored i niwed yw ein prif flaenoriaeth o hyd, ac Arwyddion Diogelwch/Signs of Safety yw ein model darparu gwasanaethau. Mae’r dull hwn sy’n arloesol, yn seiliedig ar gryfderau ac yn canolbwyntio ar ddatrysiadau yn annog gweithwyr cymdeithasol i gydweithio gyda theuluoedd. Mae’n annog rhieni a gofalwyr i ymgymryd â rôl weithredol, gan roi iddynt yr offer i lunio eu datrysiadau eu hunain a’r hyblygrwydd i addasu i sefyllfaoedd sy’n newid.

Mae Arwyddion Diogelwch / Signs of Safety bellach yn cael ei gydnabod yn eang fel dull sydd ar flaen y gad o ran ymarfer diogelu. Fel yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ddatblygu’r dull Arwyddion Diogelwch / Signs of Safety fel model ymarfer oedolion, rydym yn falch i fod yn gosod y safon yng Nghymru fel arweinwyr o ran rhoi Arwyddion Diogelwch / Signs of Safety ar waith ar draws y ddau wasanaeth. 

'Mae’r model Arwyddion Diogelwch / Signs of Safety yn cyd-fynd yn dda â’n holl ddulliau sy’n canolbwyntio ar unigolion yn y gwasanaeth camddefnyddio sylweddau i oedolion. Mae wedi profi’n arbennig o effeithiol o ran gweithio gydag aelodau o deuluoedd i hybu eu lles eu hunain. Mae hyn yn eu galluogi i sefydlu ffiniau fel nad ydynt yn cymryd cyfrifoldeb am ddefnydd y sawl sy’n agos atynt o alcohol a/neu gyffuriau, sy’n aml yn arwain at newidiadau cadarnhaol i’r arferion camddefnyddio sylweddau'

Alex Panter, Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol yn y Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol

Yn ogystal â hyfforddi cyflogeion ar draws amrywiaeth o leoliadau i ddefnyddio’r model Arwyddion Diogelwch / Signs of Safety, rydym yn cael ymholiadau ynghylch ein dull o ddefnyddio Arwyddion Diogelwch / Signs of Safety a’r modd y caiff ei roi ar waith o bob rhan o’r DU. Yn 2018 a 2019 fe gynhaliom ni ddau ddigwyddiad arddangos cenedlaethol gyda chynrychiolwyr amlasiantaeth o’r glannau hyn ac o dramor. Dyma oedd gan Viv Hogg, cyflwynydd cyweirnod mewn cynadleddau amddiffyn plant blaenllaw ledled y byd a chydawdur nifer o bapurau ar yr arfer Arwyddion Diogelwch/Signs of Safety i’w ddweud am ein gwaith yn Sir Benfro:

'Gweld tystiolaeth o Roi Ar Waith ar draws Gwasanaeth cyfan – prinnach na gras mewn beili'

'Enghraifft wych o gynnwys partneriaid, hyfforddi’r bobl gywir a’i wneud yn gynnar'

'I roi Arwyddion Diogelwch / Signs of Safety ar waith mae angen i chi greu diwylliant o werthfawrogi ac yma rydych chi’n rhannu storïau o lwyddiant'

'Y ffactor pwysicaf ar gyfer rhoi’r dull ar waith yn llwyddiannus yw Arweinyddiaeth ac rwy’n gweld digonedd o hynny'

 

ID: 7566, adolygwyd 23/03/2023

Ein Tîm Gofal Canolradd newydd

Gan ddwyn ynghyd gasgliad o wasanaethau ar draws byd iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector, mae’r Tîm Gofal Canolradd newydd yn cynorthwyo pobl i fod mor annibynnol â phosibl, gan eu galluogi i fyw a heneiddio’n dda yn Sir Benfro. Mae’r tîm yn darparu mynediad cyflym, byrdymor at gymorth therapiwtig, nyrsio, cymdeithasol ac ymarferol i helpu i atal pobl rhag gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty ac i’w galluogi i gael eu rhyddhau. 

ID: 7569, adolygwyd 26/09/2024

Ein Gwobrau

Rydym yn eithriadol o falch bod ein cyflawniadau a’n llwyddiannau wedi cael eu cydnabod a’u dathlu trwy nifer o wobrau ac enwebiadau mewn amrywiaeth o gategorïau sy’n dathlu rhagoriaeth ac arloesi mewn ymarfer gwaith cymdeithasol.

Gwobrau Cyflawniad MJ (Mehefin 2024) 

Cyrhaeddodd Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Sir Benfro rownd derfynol y categori “Arloesi mewn Gwasanaethau Plant ac Oedolion”.

Ailddilysu gwobr aur (Chwefror 2024)

Ailddilyswyd Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol De Sir Benfro eu gwobr aur am fod yn fuddsoddwyr mewn gofal. Mae’r wobr hon ar gyfer y gefnogaeth a roddir i ofalwyr di-dâl, helpu pobl i gydnabod eu bod yn ofalwyr, ac yna ceisio sicrhau bod gan y gofalwr y cymorth cywir ei hun er mwyn gallu parhau i ddarparu cymorth i eraill. 

Dathlodd Gwobrau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru (Mawrth 2024)

yr holl waith rhagorol a wnaed gan staff iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys gwirfoddolwyr) ar draws rhanbarth Gorllewin Cymru. Cawsom ein canmol mewn nifer o gategorïau fel a ganlyn:

  • Yn y categori Cyd-gynhyrchu, sy’n dathlu prosiect neu dîm sydd wedi dangos cyd-gynhyrchu gwirioneddol ac arweinyddiaeth a chydweithio parhaus dan arweiniad defnyddwyr, enillodd Julie Cunningham o dîm integredig Cymorth i Deuluoedd y wobr gyntaf, a chafodd tîm cyfryngau cymdeithasol Llwybrau at Gyflogaeth ganmoliaeth uchel.
  • Aeth Gwobr Datblygu'r Gweithlu i Sarah Hanley, Rheolwr Tîm a chafodd ein Tîm Aseswyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol ganmoliaeth uchel
  • Cafodd Hwb Cymunedol Sir Benfro ganmoliaeth uchel yn y categori Gwobr Gofal Integredig, sy’n dathlu gwella bywydau ein dinasyddion trwy drefniadau ar y cyd a gweithio integredig, a chanmoliaeth uchel ar gyfer gwobr “Tîm y Flwyddyn”, sy’n dathlu’r tîm sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn cydweithio a gweithio mewn partneriaeth. 

Gwobr Rhagoriaeth Maethu (Hydref 2023)

Enillodd merch yn ei harddegau o Sir Benfro sydd ag uchelgais o ddod yn swyddog heddlu Wobr Rhagoriaeth Maethu, clod maethu mwyaf mawreddog y DU, gan gydnabod ei chyflawniadau eithriadol. Y Gwobrau Rhagoriaeth Maethu blynyddol yw gwobrau gofal maethu mwyaf mawreddog y DU, yn dathlu llwyddiannau eithriadol ym maes maethu ac yn cydnabod y rhai sy’n gwneud cyfraniadau eithriadol i ofal maethu bob dydd. 

Gwobrau Ymarfer Diogelu Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru (Mehefin 2023) 

Cynhaliodd Byrddau Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru i Blant (CYSUR) ac i Oedolion (CWMPAS) eu hail seremoni wobrwyo i gydnabod y cyfraniad y mae gweithwyr allweddol o amrywiaeth o asiantaethau sector cyhoeddus wedi’i wneud i gadw’r plant a’r oedolion mwyaf bregus yn ein cymunedau yn ddiogel.  Cydnabuwyd eu gwaith ar draws wyth categori.

Enillodd Gareth Tucker, Rheolwr Gwasanaethau Darparwyr, y wobr am Ddiogelu Cymunedol Ehangach Arwyddocaol – Ymarfer sydd wedi Cael Effaith Gadarnhaol ar y Gymuned wrth Ddiogelu Plant neu Oedolion, ac enillodd Karen Panter, Julie Cunningham a Cheryl Loughlin Wobr Cydnabod Gwasanaeth Hir / Cyflawniad Oes am Gyfraniad at Ymarfer a Datblygiad Diogelu Plant neu Oedolion mewn Perygl. 

Mae Gwobrau Iechyd a Gofal Gorllewin Cymru (Hydref 2023)

yn cydnabod y rhai yn y gymuned y mae eu hymdrechion yn y diwydiant iechyd a gofal wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl.  Aeth y wobr ar gyfer Tîm Cymunedol y Flwyddyn i’n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion Hŷn yn Sir Benfro, a oedd yn gorfod dangos effaith, gwaith tîm cryf iawn, cyfathrebu cryf, a’r gallu i weithio ar draws ffiniau sefydliadol.

ID: 7570, adolygwyd 19/11/2024

Harfer Da a Cyflawniadau

Bydd gwaith cymdeithasol wastad yn her, ond mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau’r bobl yr ydym yn eu cefnogi, ac rydym yn falch o’n cyflawniadau. Mae ein huwch dîm rheoli’n creu diwylliant o werthfawrogi a bod yn agored i newid ffyrdd o feddwl a thrawsnewid ymarfer. Rydym yn gosod y safon fel arweinwyr o ran rhoi’r model Arwyddion Diogelwch ar waith ar draws gwasanaethau Oedolion a Phlant, ac rydym wedi ennill sawl gwobr genedlaethol glodfawr sy’n dathlu ymarfer arloesol mewn categorïau megis ‘Gwaith Tîm Rhagorol’ a ‘Cyflogwr Ysbrydoledig’ am fentrau sy’n cynnwys ein dull newydd seiliedig-ar-gryfderau o gynnal Goruchwyliaeth WerthfawrogolTrwy barhau i chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o wella ein hymarfer mae gennym y pŵer i newid bywydau. Mae arnom angen pobl â’r angerdd a’r gallu i wneud i’r newid hwnnw ddigwydd – dyna pam fod arnom angen pobl fel chi. 

 

ID: 7565, adolygwyd 25/11/2024