Adran 1 - Cyflwyniad i’r Cyfansoddiad
Y Cyfansoddiad
Mae'r Cyfansoddiad yn disgrifio sut y mae'r Awdurdod yn gweithredu, yr amrywiol gyrff sy'n ffurfio'r Awdurdod, sut y caiff penderfyniadau eu gwneud a'r gweithdrefnau a ddilynir.
Mae rhai o'r prosesau hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith, tra bo eraill yn fater i'r Cyngor eu dewis.
Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu Cyfansoddiad diwygiedig a ddaeth i rym ar 18 Tachwedd 2016 ac fe’i diweddarwyd ym mis Ionawr 2018, Mehefin 2019 a Ionawr 2020, Gorffennaf 2020, Chwefror 2021 a Mawrth 2021 yn dilyn y newidiadau Cyfansoddiadol a fabwysiadwyd gan y Cyngor.
Mae'r Cyfansoddiad ar gael ar y ddolen ganlynol:
Y Cyfansoddiad (yn agor yn y ffenestr)
Canllaw i gyfansoddiad Cyngor Sir Penfro
Cymryd Rhan - Aelodau o'r Cyhoedd
Mae Rhan 5 o Adran 2 yn nodi sut y gall aelodau o'r cyhoedd gymryd rhan.
Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
Cwestiynau Cyhoeddus yn y Cyngor Llawn
Mae'r Cyfansoddiad yn rhoi cyfle i aelodau o'r cyhoedd ofyn cwestiynau yn y Cyngor. Ceir manylion am sut i gyflwyno cwestiwn yn y Nodyn Cyfarwyddyd a Ffurflen amgaeedig.
Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu
Mae croeso i'r cyhoedd awgrymu materion y dylai Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu eu hadolygu ac adrodd arnynt a chyflwyno'u barn yn ysgrifenedig ar faterion o'r fath a awgrymwyd ac i gyflwyno'u barn yn ysgrifenedig ar faterion sy'n cael eu hystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.
Susan Sanders
Rheolwr Gwasanaethau Democratiadd a Charaffu
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Ffôn: 01437 775719
E-bost: Susan.Sanders@Pembrokeshire.gov.uk