Y Cynllun Datblygu Gwledig

Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd 2014-2020

Mae rhaglennu Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, a elwir weithiau yn rhaglenni Interreg, wedi'u cynllunio i hyrwyddo cydweithredu rhwng aelod-wladwriaethau o ran heriau a chyfleoedd a rennir, a hynny i gefnogi'r gwaith o sicrhau bod y farchnad sengl yn gweithredu mewn modd effeithiol.

Ymhlith 107 o raglenni ledled Ewrop, mae yna 16 o raglenni sy'n cwmpasu pob rhan o'r Deyrnas Unedig.

Caiff y rhan helaeth o'r gweithgarwch yn Sir Benfro ei gyflawni trwy Raglen Cymru Iwerddon. Mae'r rhaglen drawsffiniol hon yn buddsoddi yn llesiant economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cyffredinol Cymru ac Iwerddon. Mae'n darparu buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cynaliadwy i gymunedau ar hyd a lled Cymru ac Iwerddon.

I gael rhagor o wybodaeth, rhaglen Iwerddon Cymru (yn agor mewn tab newydd)

ID: 2361, adolygwyd 20/07/2023