Y Cynllun Datblygu Lleol ar ol Adroddiad yr Arolygydd

Y Cynllun Datblygu Lleol ar ol Adroddiad yr Arolygydd

Ar 28ain Chwefror 2013, fe wnaeth y Cyngor fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar gyfer Sir Benfro (ac eithrio ardal Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro).

Cynllun Datblygu Lleol

 

Dyddiad gorffen ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) cyfredol Cyngor Sir Penfro, wedi'i fabwysiadu ar 28/02/2013

Ar 24 Medi 2020, ysgrifennodd Julie James, AS/MS, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (ac wedyn y Gweinidog Newid Hinsawdd ers mis Mai 2021), at bob awdurdod lleol ac awdurdod parc cenedlaethol yng Nghymru ynglŷn â dyddiadau gorffen CDLlau.

Nododd y canlynol:

‘Dechreuwyd y ddarpariaeth yn Neddf Cynllunio Cymru 2015 ynghylch y cyfnod y mae gan gynllun effaith ynddo ar 4 Ionawr 2016. Nid yw'r darpariaethau hyn yn berthnasol i CDLlau a fabwysiadwyd cyn y dyddiad hwn.  Bydd y cynlluniau a fabwysiadwyd cyn 4 Ionawr 2016 yn parhau i fod y CDLl ar gyfer pennu ceisiadau cynllunio hyd nes eu bod yn cael eu disodli gan CDLl pellach. Ar gyfer y CDLlau hynny a fabwysiadwyd ar ôl 4 Ionawr 2016, bydd y cynllun yn peidio â bod yn CDLl pan ddaw’r cyfnod a nodir yn y cynllun i ben.’

Ar gyfer Cyngor Sir Penfro, mabwysiadwyd y CDLl cyfredol (CDLl 1) ar 28/02/2013, sy'n golygu, yng nghyd-destun llythyr y Gweinidog, y bydd yn parhau i fod mewn grym hyd nes CDLl 2 yn cael ei fabwysiadu. 

Felly, ni ddylid ystyried y rhan o deitl y cynllun sy'n nodi ‘hyd at 2021’.

Cymru'r Dyfodol:Y Cynllun Cenedlaethol 2040

Cymru'r Dyfodol, wedi'i baratoi gan Lywodraeth Cymru, yw'r fframwaith datblygu cenedlaethol i Gymru ac mae ganddo statws Cynllun Datblygu.  Mae manylion pellach ar gael yma ar wefan Llywodraeth Cymru:

Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 (llyw.cymru) (yn agor mewn tab newydd)

Gellir defnyddio'r map o Sir Benfro a welir isod i lywio trwy'r Mapiau Cynnig a Mewnosod.

Caiff data mapiau'r Arolwg Ordnans a geir yn y cyhoeddiad hwn ei ddarpau gan Gyngor Sir Penfro o dan drwydded gan yr Arolwg Ordnans er mwyn cyflawni eu swyddogaeth gyhoeddus I weithredu fel awdurdodau cynllunio. Dylai personau sy'n bwrw golwg ar y mapiau hyn gysylltu a hawlfraint yr Arolwg Ordnans i gael cyngor os ydynt yn dymuno trwyddedu data mapiau'r Arolwg Ordnans at eu diben eu hunain.

Cliciwch ar ardal rhifedig o'r map isod i weld y map cynigion.

Os hoffech weld Map wedi'i Fewnosod, cliciwch yn gyntaf ar y daflen Awgrymiadau Map berthnasol.  Yna cliciwch of fewn y bocs Map wedi'i Fewnosod sydd ei angen ar y daflen Awgrymiadau Map.

Map Cynigion 3 Map Cynigion 4 Map Cynigion 1 Map Cynigion 4 Map Cynigion 6 Map Cynigion 5 Map Cynigion 12 Map Cynigion 13 Map Cynigion 7 Map Cynigion 17 Map Cynigion 16 Map Cynigion 14 Map Cynigion 15 Map Cynigion 11 Map Cynigion 10 Map Cynigion 8 Map Cynigion 9 Map Cynigion 25 Map Cynigion 24 Map Cynigion 22 Map Cynigion 23 Map Cynigion 21 Map Cynigion 20 Map Cynigion 18 Map Cynigion 19 Map Cynigion 27 Map Cynigion 26 Map Cynigion 28 Map Cynigion 29 Map Cynigion 31 Map Cynigion 30 Map Cynigion 32 Map Cynigion 33

Allweddol Mapiau Cynigion
ID: 2485, adolygwyd 08/07/2024