Y Cynllun Datblygu Lleol ar ol Adroddiad yr Arolygydd
Adroddiad yr Arolygydd
Mae'r Cyngor wedi derbyn Adroddiad yr Arolygydd ar Gynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Penfro (ar gyfer y Sir ac eithrio ardal Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro).
Teitl yr adroddiad yw ‘Adroddiad ar Archwiliad Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Penfro Mabwysiadu - 2021' ac mae'r Arolygydd wedi ei gyflwyno ef i'r Cyngor. Gellir gweld yr adroddiad yma Adroddiad yr Arolygydd
Mae'r Arolygydd wedi dod i'r casgliad hwn; gan fod y newidiadau a argymhellir, sy'n cael eu hamlinellu yn ei adroddiad, wedi cael eu cynnwys yn y CDLl, yna mae'r Cynllun yn bodloni gofynion Adran 64(5) Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ac hefyd yn bodloni'r profion ar gadernid a restrir yn CDLl Cymru.
A nawr mae'r Cyngor yn gorfod mabwysiadu'r Cynllun - mae'n rhaid gwneud hyn o fewn 8 wythnos i ddyddiad derbyn adroddiad yr Arolygydd.
Ar ôl iddo gael ei fabwysiadu, Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Penfro fydd y Cynllun Datblygu ar gyfer Sir Benfro (ac eithrio ardal Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro) ac arno ef y seilir y penderfyniadau a wneir ynghylch cynllunio defnydd tir yn yr ardal hon. Bydd yn disodli'r Cydgynllun Datblygu Unedol ar gyfer Sir Benfro yn yr ardaloedd hynny o'r Sir sydd o fewn awdurdodaeth cynllunio'r Cyngor.