Y Cynllun Datblygu Lleol ar ol Adroddiad yr Arolygydd
Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol y CDLl
ACT ar gyfer Ymgynghori
Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Penfro Asesiad o Gymeriad Tirwedd Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol Ymgynghoriad: 22ain o Chwefror - 26ain o Fai 2023
Mae'r ail ddrafft hwn o’r Asesiad Cymeriad Tirwedd drafft yn rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer CDLl2. Mae hefyd yn destun ymgynghoriad fel canllawiau cynllunio atodol drafft i'r Cynllun Datblygu Lleol (mabwysiadwyd 2013).
Ymgynghorwyd ar fersiwn flaenorol o’r Asesiad Cymeriad Tirwedd drafft ym mis Gorffennaf 2019. Mae'r ddogfen wedi'i diweddaru i adlewyrchu'r polisi cynllunio cenedlaethol diweddaraf yng Nghymru'r Dyfodol - Cynllun Cenedlaethod 2040 (Llywodraeth Cymru), ac y canllawiau tirwedd diweddaraf ac arfer da.
Mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal am 3 mis a bydd yn cau am 4.30pm ar 26ain o Fai 2023.
Dylid dychwelyd sylwadau naill ai yn ysgrifenedig i’r tîm Cynllun Datblygu Lleol
E-bost: ldp@pembrokeshire.gov.uk
Post: Cyngor Sir Penfro,
Neuadd y Sir,
Hwlffordd,
Sir Benfro,
SA61 1TP.
Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir mewn perthynas a'r eitem hon o Ganllawiau Cynllunio Atodol drafft yn cael eu cydnabod, eu cyhoeddi a'u hadrodd i Gabinet Cyngo Sir Penfro. Bydd pawb sy'n gwneud sylwadau yn cael gwybod am ganlyniadau'r cyfarfodydd hynny.
Asesiad o Gymeriad Tirwedd - Trosolwg
Asesiad o Gymeriad Tirwedd, Ardal 1-5
Asesiad o Gymeriad Tirwedd, Ardal 6-10
Asesiad o Gymeriad Tirwedd, Ardal 11-15
Asesiad a Gymeriad Tirwedd, Ardal 16-20
Asesiad o Gymeriad Tirwedd, Ardal 21-25
Asesiad o Gymeriad Tirwedd, Ardal 26-29
Ffurflen Cynrychiolaeth Canllawiau Cynllunio Atodol (yn agor mewn tab newydd)
Mae Cynlluniau Datblygu Lleol yn cynnwys polisïau a chynigion sy'n rhoi sail i'r penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ac ar gyfer llunio amodau ar geisiadau sydd wedi cael caniatâd. Mabwysiwyd Cynllun Datblygu Lleol y cyngor ar 28 Chwefror 2013.
Mae canllawiau cynllunio atodol yn amlinellu canllawiau manylach ar y ffordd y bydd polisïau'r Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu defnyddio mewn amgylchiadau neu feysydd penodol.
Nid yw'r canllawiau cynllunio atodol yn ffurfio rhan o Gynllun Datblygu Lleol y cyngor, ond maent yn gyson â'i ddarpariaethau ac mae croesgyfeiriadau ynddynt at bolisïau a/neu gynigion priodol y Cynllun Datblygu Lleol.
Dim ond polisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Lleol sydd â statws arbennig (uchafiaeth) mewn penderfyniadau ar geisiadau cynllunio. Fodd bynnag, ar ôl cael eu mabwysiadu, gellir ystyried y canllawiau cynllunio atodol fel ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar gais cynllunio.
Canllawiau Cynllunio Atodol a Fabwysiadwyd
Mae'r cyngor wedi mabwysiadu'r eitemau canlynol o ganllawiau cynllunio atodol i gefnogi ei Gynllun Datblygu Lleol, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ac ystyriaeth gan y Cabinet.
Effaith Gronnol Tyrbinau Gwynt ar y Dirwedd a’r Amwynder Gweledol. Mabwysiadu: 7 Tachwedd 2022
Bioamrywiaeth mabsysiadu Mai 2021
Bioamrywiaeth - Adroddiad Ymgynghori
Amgylchedd Hanesyddol (Archaeoleg) mabwysiadu Mai 2021
Amgylchedd Hanesyddol (Archaeoleg) CCA
Amgylchedd Hanesyddol (Archaeoleg) – Adroddiad Ymgynghori
Safleoedd Datblygu
Safleoedd Datblygu - Fersiwn wedi’i diweddaru, Rhagfyr 2016
Adroddiad ar yr Ymgynghoriad (Awst 2013)
Ynni Adnewyddadwy – cymeradwywyd ar 31 Hydref 2016 a daeth i rym ar 31 Hydref 2016
Ynni Adnewyddadwy – Adroddiad Ymgynghori
Rhwymedigaethau Cynllunio – cymeradwywyd ar 12 Medi 2016 a daeth i rym ar 16 Hydref 2016
Tai Fforddiadwy – cymeradwywyd ar 14 Medi 2015 a daeth i rym ar 14 Medi 2015
Tystysgrif - Ymgymeriad Unochrog
Tystysgrif - Ymgymeriad Unochrog
Safonau Parcio – cymeradwywyd ar 24 Mehefin 2013 a daeth i rym ar 28 Mehefin 2013
Cymeriad y Morlun – Mabwysiadwyd 02/10/2023 (CSP) and 20/09/2023 (APCAP)
Canllawiau cynllunio atodol gymeriad y morlon (yn agor mewn tab newydd)
Rhaglen y dyfodol
Mae'r cyngor yn bwriadu paratoi eitemau pellach o ganllawiau cynllunio atodol. Ychwanegir manylion pellach ar y dudalen we hon maes o law