Y Cynllun Datblygu Lleol ar ol Adroddiad yr Arolygydd
Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol y CDLl
ACT ar gyfer Ymgynghori
Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Penfro a Chynllun Datblygu Lleol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2.
Canllawiau Cynllunio Atodol ar y Cyd ar Effaith Gronnol Tyrbinau Gwynt.
Mae Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymgynghori ar Ganllawiau Cynllunio Atodol ar y Cyd ar Effaith Gronnol Tyrbinau Gwynt. Paratowyd y ddogfen hon gan ymgynghorydd ar ran dau awdurdod Sir Benfro a Chyngor Sir Gaerfyrddin.
Roedd fersiwn cynharach o'r canllawiau hyn yn ffurfio Canllawiau Cynllunio Atodol i Gynllun Datblygu Lleol gwreiddiol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Fe'i defnyddiwyd hefyd gan Gyngor Sir Penfro fel Canllawiau Arfer Da.
Mae'r ddogfen wedi'i diweddaru i adlewyrchu'r polisi cynllunio cenedlaethol diweddaraf yng Nghymru'r Dyfodol - Cynllun Cenedlaethod 2040 (Llywodraeth Cymru), y canllawiau tirwedd diweddaraf ac arfer da, datblygiadau ynni gwynt newydd a maint cynyddol tyrbinau sy'n cael eu hystyried bellach.
Mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal am 3 mis a bydd yn cau am 4.30pm ar 15 Ebrill 2022.
Dylid dychwelyd sylwadau naill ai yn ysgrifenedig i Dim Cyfarwyddyd y Parc, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordi Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY neu drwy e-bost i devplans@pembrokeshirecoast.org.uk
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglyn a'r ddogfen hon, cysylltwch a Thim Cyfarwyddyd y Parc drwy e-bostio devplans@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffonio 01646 624800 a gofyn am rywun sy'n delio a'r Cynllun Datblygu Lleol. Gellir darparu copiau papur o ddogfennau ymgynghori am gost.
Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir mewn perthynas a'r eitem hon o Ganllawiau Cynllunio Atodol drafft yn cael eu cydnabod, eu cyhoeddi a'u hadrodd i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac i Gabinet Cyngo Sir Penfro. Bydd pawb sy'n gwneud sylwadau yn cael gwybod am ganlyniadau'r cyfarfodydd hynny.
Ble i weld y ddogfen:
Mae hefyd ar gael i'w lawrlwytho o wefan Awdurdod y Parc Cenedlaethod a gellir eu gweld yn swyddfeydd Awdurdod y Parc Cenedlaethod pan fyddant ar agor i'r cyhoedd (drwy apwyntiad), Oriel y Parc (pan fyddant ar agor i'r cyhoedd) ac ar gyfrifiaduron sy'n hygyrch i'r cyhoedd mewn llyfrgeloedd cyhoeddus lle bo hynny ar gael.
Noder: Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnal ymgynghoriadau cydamserol ar nifer o ddogfennau Canllaw Cynllunio Atodol eraill, ond yn yr achosion hyn dim ond yn lleoliadau'r Parc Cenedlaethol y maent yn gymwys. Mae'r eitemau ychwanegol hyn l CCA ar:
- Ansefydlogrwydd Tir - Gwaith Glo
- Colli Gwestai
- Safleoedd Geoamrywaith Rhanbarthol Bwysig
- Diogelu Parthau Mwynau
- Ardaloeedd Cadwraeth yn Angle, Caerfarchell, Ynys Byr, Hafan Fach, Maenorbyr, Trefdraeth, Portclew, Porthgain, Saundersfoot, Solfach, Tyddewi, Dinbych-y-pysgod a Threfin.
Mae rhago o wybodaeth am y dogfennau ymgynghori pellach hyn ar gael drwy ddefnyddio dolen we Awdurdod y Parc Cenedlaethol uchod, ond nodwch nad ydynt ar gael ar wefan CSP, gan na fyddant yn berthnasaol yn ardal gynllunio'r Cyngor.
Mae Cynlluniau Datblygu Lleol yn cynnwys polisïau a chynigion sy'n rhoi sail i'r penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ac ar gyfer llunio amodau ar geisiadau sydd wedi cael caniatâd. Mabwysiwyd Cynllun Datblygu Lleol y cyngor ar 28 Chwefror 2013.
Mae canllawiau cynllunio atodol yn amlinellu canllawiau manylach ar y ffordd y bydd polisïau'r Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu defnyddio mewn amgylchiadau neu feysydd penodol.
Nid yw'r canllawiau cynllunio atodol yn ffurfio rhan o Gynllun Datblygu Lleol y cyngor, ond maent yn gyson â'i ddarpariaethau ac mae croesgyfeiriadau ynddynt at bolisïau a/neu gynigion priodol y Cynllun Datblygu Lleol.
Dim ond polisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Lleol sydd â statws arbennig (uchafiaeth) mewn penderfyniadau ar geisiadau cynllunio. Fodd bynnag, ar ôl cael eu mabwysiadu, gellir ystyried y canllawiau cynllunio atodol fel ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar gais cynllunio.
Canllawiau Cynllunio Atodol a Fabwysiadwyd
Mae'r cyngor wedi mabwysiadu'r eitemau canlynol o ganllawiau cynllunio atodol i gefnogi ei Gynllun Datblygu Lleol, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ac ystyriaeth gan y Cabinet.
Bioamrywiaeth mabsysiadu Mai 2021
Bioamrywiaeth - Adroddiad Ymgynghori
Amgylchedd Hanesyddol (Archaeoleg) mabwysiadu Mai 2021
Amgylchedd Hanesyddol (Archaeoleg) CCA
Amgylchedd Hanesyddol (Archaeoleg) – Adroddiad Ymgynghori
Safleoedd Datblygu
Safleoedd Datblygu - Fersiwn wedi’i diweddaru, Rhagfyr 2016
Adroddiad ar yr Ymgynghoriad (Awst 2013)
Ynni Adnewyddadwy – cymeradwywyd ar 31 Hydref 2016 a daeth i rym ar 31 Hydref 2016
Rhwymedigaethau Cynllunio – cymeradwywyd ar 12 Medi 2016 a daeth i rym ar 16 Hydref 2016
Tai Fforddiadwy – cymeradwywyd ar 14 Medi 2015 a daeth i rym ar 14 Medi 2015
Tystysgrif - Ymgymeriad Unochrog
Tystysgrif - Ymgymeriad Unochrog
Safonau Parcio – cymeradwywyd ar 24 Mehefin 2013 a daeth i rym ar 28 Mehefin 2013
Rhaglen y dyfodol
Mae'r cyngor yn bwriadu paratoi eitemau pellach o ganllawiau cynllunio atodol. Ychwanegir manylion pellach ar y dudalen we hon maes o law