Y Cynllun Datblygu Lleol ar ol Adroddiad yr Arolygydd
Cytundebau Adran 106
Cyntundebau Adran 106 a Thai Fforddiadwy
Mae rhwymedigaethau cynllunio dan Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd), a adwaenir yn gyffredinol fel Cytundebau A106, yn fecanwaith sy'n gwneud cynnig datblygu na fyddai'n dderbyniol fel arall yn dderbyniol yn nhermau cynllunio. Gwneir cytundeb gyda'r awdurdod cynllunio lleol lle rydych yn cytuno i dalu arian neu ddarparu tai fforddiadwy er mwyn cael caniatâd cynllunio. Weithiau, defnyddir yr hyn a elwir yn gytundeb unochrog. Mae Cytundebau Unochrog bron union yr un fath â chytundebau A106. Cyfeirir at y rhain weithiau fel ymgymeriadau unochrog.
Mae cytundebau Adran 106 o geisiadau cynllunio Cyngor Sir Penfro a Pharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn cael eu rheoli a'u monitro gan Swyddog Monitro Rhwymedigaethau Cynllunio Cyngor y Sir. Gellir cysylltu â'r Swyddog Monitro drwy e-bost: planningobligationsmonitoring@pembrokeshire.gov.uk
Map Cyfraniadau Tai Fforddiadwy
Mae cyfraniadau tai fforddiadwy o geisiadau cynllunio'r Parc Cenedlaethol a Chyngor y Sir yn cael eu rheoli a'u monitro gan y ddolen isod sy'n agor map rhyngweithiol, sy'n anelu at ddarparu tryloywder ar gasglu a defnyddio cyfraniadau ariannol tai fforddiadwy. Mae'r map yn cynrychioli pob cyfraniad yn ‘faes gwario' yn nhermau cwmpas y cyngor cymunedol; rhennir hyn yn beth sydd wedi cael ei wario a'r hyn na wariwyd, ac mae'n darparu manylion (lle bo'n berthnasol) am sut y gwariwyd cyfraniad. Mae'r map yn gydweithrediad rhwng Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chyngor y Sir ac mae'n manylu ar gyfranogiadau gan geisiadau cynllunio a gyflwynwyd i'r ddau awdurdod cynllunio. Bydd y map yn cael ei ddatblygu dros amser wrth i geisiadau newydd gael eu derbyn ac wrth i gyfraniadau gan geisiadau blaenorol gael eu gwario.
Cytunodd Cabinet CSP ar fframwaith i benderfynu ar ddefnydd y cyfraniadau a dderbyniwyd ar gyfer tai fforddiadwy ar 22 Chwefror 2016. Mae copi o’r adroddiad ar gael yma:
Adroddiad Cabinet Tai Fforddiadwy 2016
Map Tai Fforddiadwy Rhyngweithiol PCNPA (yn agor mewn tab newydd)
Adran 106 Cyfraniadau a Dderbyniwyd 1 Ebrill 2016 – 31 Mawrth 2017
Adran 106 Cyfraniadau a Dderbyniwyd 1st Ebril 2017 - 31st Mawrth 2018
Adran 106 Cyfraniadau a Dderbyniwyd 1st Ebril 2018 - 31st Mawrth 2019
Adran 106 Cyfraniadau a Dderbyniwyd 1st Ebrill 2019 - 31st Mawrth 2020
Adran 106 Cyfraniadau a Dderbyniwyd 1st Ebrill 2020 - 31st Mawrth 2021
Adran 106 Cyfraniadau a Dderbyniwyd 1st Ebrill 2021 – 31st Mawrth 2022
Adran 106 Cyfraniadau a Dderbyniwyd 1st Ebrill 2022 - 31st Mawrth 2023
Mae gwybodaeth ar gael ar Adran 106 Cyfraniadau a Dderbyniwyd 1st Ebrill 2023 - 31st Mawrth 2024
Sylwch nad yw'r symiau yn yr adroddiadau uchod yn cynnwys cyfraniadau a dderbyniwyd o Gytundebau Adran 106 y Parc Cenedlaethol.