Y Cynllun Datblygu Lleol ar ol Adroddiad yr Arolygydd
Gwerthusiad Cynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol
Mae'r Cynllun Datblygu Lleol wedi mynd drwy Arfarniad o Gynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol statudol. Sicrhaodd hyn bod elfennau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd datblygiad cynaliadwy'n rhan o'r cynllun o'r dechrau.
Mae’r papurau tystiolaeth ar gael yn ddwyieithog ar gais. E-bostiwch ldp@pembrokeshire.gov.uk
Ble'r ydym ni arni bellach?
Mabwysiadodd Cyngor Sir Penfro'r Cynllun Datblygu Lleol ar 28 Chwefror 2013. Bu Newidiadau Materion yn Codi ychwanegol a chawsant eu hasesu. Dylid darllen y dogfennau isod ar y cyd â Chynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Penfro: Mabwysiadu - 2021.
- Datganiad AC (yn ymgorffori AAS)
- Sgrinio AC Argymhellion Cyfrwymol yr Arolgydd a NMC Ychwanegol
- Sgrinio GC ar Newidiadau yn Sgil Materion sy’n Codi
- Gwerthusiad Cynaliadwyedd ar Newidiadau yn Sgil Materion sy’n Codi
- Adroddiad GC - Cynllun a Adneuwyd sy’n cynnwys Newidiadau Ôl-Adneuo
- Adroddiad GC - Cynllun a Adneuwyd sy’n cynnwys Newidiadau Ôl-Adneuo (Atodiadau)
Y camau a gwblhawyd ym mhroses y GC
Yn unol â Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2005 (Rheoliad 22), fe wnaeth Cyngor Sir Penfro wedi cyflwyno cynigion ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol i Gynulliad Cenedlaehtol Cymru. Roedd Cynllun a Adneuwyd y CDLl gan gynnwys y newidiadau â ffocws a oedd yn yr arfaeth yn destun Gwerthusiad Cynaliadwyedd, yn cynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol. Fe roddwyd prawf ar y cynllun mewn perthynas ag amcanion GC er mwyn sicrhau ei fod yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae'r dogfennau cyflwyno yn cynnwys yr Adroddiad Gwerthusiad Cynaliadwyedd terfynol (Cynllun a Adneuwyd sy'n cynnwys Newidiadau Ôl-Adneuo) sydd i'w weld isod.
- Adroddiad GC - Cynllun a Adneuwyd sy’n cynnwys Newidiadau Ôl-Adneuo
- Adroddiad GC - Cynllun a Adneuwyd sy’n cynnwys Newidiadau Ôl-Adneuo (Atodiadau)
Daeth i'r amlwg o'r asesiad sgrinio bod nifer fach o newidiadau oedd yn gofyn rhagor o asesu yn erbyn Amcanion Cynaliadwyedd. Mae'r ddogfen asesu ar gael yma:
- Gwerthusiad Cynaliadwyedd ar Newidiadau yn Sgil Materion sy’n Codi
Yn unol â'r ddeddfwriaeth fe roddwyd gwybod i'r ymgynghoreion statudol (Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cadw) bod yr AAS yn cael ei gynnal a chafodd y penderfyniad ei gofnodi.
- Adroddiad Sgrinio GC/AAS
Cam cyntaf proses y GC oedd llunio Adroddiad Cwmpasu. Mae'r adroddiad yn cynnwys adolygiad ar yr wybodaeth sylfaenol a'r cynlluniau a'r rhaglenni eraill sy'n cael eu hystyried yn berthnasol i lywio'r CDLl sydd ar y gweill. Roedd Adroddiad Cwmpasu'r GC hefyd yn cynnwys amcanion cynaliadwyedd a ddefnyddiwyd i roi prawf ar y CDLl wrth iddo gael ei lunio.
Aethpwyd ati i drin a thrafod Adroddiad Cwmpasu'r GC gyda'r tri ymgynghorai (Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cadw) am gyfnod o bum wythnos (daeth yr ymgynghoriad i ben ar 5 Medi 2008). Fe ymgynghorwyd â'r ymgynghorai penodol eraill hefyd. Mae ffurf derfynol Adroddiad Cwmpasu'r GC y cytunwyd arno, ar gael er gwybodaeth. Fe newidiwyd yr adroddiad er mwyn iddo gymryd i ystyriaeth, yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Mae'r adroddiad ymgynghori wedi'i ddarparu hefyd.
- Adroddiad Cwmpasu GC
- Atodiad Technegol 1
- Atodiad Technegol 2a
- Adroddiad Ymgynghori
Sylwer: Dogfen dechnegol yw Adroddiad Cwmpasu'r GC ac ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn ei chylch.
Cafodd Gwerthusiad Cynaliadwyedd gan gynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol eu cynnal ar y Strategaeth a Ffefrir. Rhoddwyd prawf ar y Strategaeth a Ffefrir mewn perthynas ag Amcanion y GC er mwyn sicrhau ei bod yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Fe gynhaliwyd ymgynghoriad ynghylch yr Adroddiad GC Cychwynnol gyda'r Strategaeth a Ffefrir.
- Adroddiad GC Cychwynnol - Strategaeth Ddewisol (2009)
Fe gynhaliwyd Gwerthusiad Cynaliadwyedd, sy'n cynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol, ar Gynllun a Adneuwyd y CDLl. Rhoddwyd prawf ar y Cynllun a Adneuwyd mewn perthynas ag Amcanion GC er mwyn sicrhau ei fod yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Roedd yr adroddiad ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, o 26 Ionawr 2011 hyd 5.00pm ar 9 Mawrth 2011). Cafodd yr adroddiad ei newid er mwyn cymryd i ystyriaeth yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Mae'r adroddiad ymgynghori wedi'i ddarparu hefyd.
- Adroddiad GC - Crynodeb Nad yw’n Dechnegol
- Adroddiad GC
- Adroddiad GC - Atodiad 1
- Adroddiad GC - Atodiad 2
- Adroddiad GC - Atodiad 3
- Adroddiad GC - Atodiad 4
- Adroddiad GC - Atodiad 5
- Adroddiad GC - Atodiad 6
- Adroddiad GC - Atodiad 7
- Adroddiad GC - Atodiad 8
- Adroddiad GC - Atodiad 9
- Adroddiad GC - Atodiad 10
- Adroddiad Ymgynghori GC - Cynllun Adnau (2011)