Y Cynllun Datblygu Lleol ar ol Adroddiad yr Arolygydd

Gwerthusiad Rheoliadau Cynefinoedd

Yn unol â deddfwriaeth, gwnaed Gwerthusiad Rheoliadau Cynefinoedd (GRhC) ar y CDLl i benderfynu a oes unrhyw effeithiau arwyddocaol tebygol ar fywyd gwyllt a chynefinoedd safleoedd Ewropeaidd dynodedig (safleoedd Natura 2000). Ystyriwyd effeithiau posibl y CDLl yn unigol ac ar y cyd â chynlluniau eraill ar amrywiol adegau wrth baratoi'r CDLl. Dangosodd ARhC ble byddai modd gwneud newidiadau i'r Cynllun er mwyn sicrhau nad oes effaith ar safleoedd Ewropeaidd. Nodwyd mesurau lliniaru hefyd. Mae 19 o safleoedd Ewropeaidd yn Sir Benfro neu'n agos at derfyn ardal y Cynllun i'w hystyried. Enghraifft o safle Ewropeaidd yn Sir Benfro yw ACA Afon Cleddau.

Ble'r ydym ni arni bellach?

Mabwysiadodd Cyngor Sir Penfro'r Cynllun Datblygu Lleol ar 28 Chwefror 2013. Bu Newidiadau Materion yn Codi ychwanegol a chawsant eu hasesu. Dylid darllen y dogfennau isod ar y cyd â Chynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Penfro: Mabwysiadu - 2021 (Mae fersiwn gweithredol o destun y Cynllun Datblygu Lleol, sy'n cynnwys y newidiadau a argymhellwyd yn Adroddiad yr Arolygydd, ar gael man yma).

Sylwch fod y rhain yn ddogfennau technegol ac ar gael yn Saesneg yn unig.

Y camau a gwblhawyd ym mhroses y GRhC  

Yn unol â Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2005 (Rheoliad 22) mae Cyngor Sir Penfro wedi cyflwyno Cynllun Datblygu Lleol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Gwerthusiad Rheoliadau Cynefinoedd wedi cael ei gynnal ar Gynllun a Adneuwyd y CDLl gan gynnwys y newidiadau â ffocws sydd yn yr arfaeth. Mae'r dogfennau cyflwyno yn cynnwys Adroddiad Gwerthusiad Rheoliadau Cynefinoedd terfynol (y Cynllun a Adneuwyd sy'n cynnwys y Newidiadau Ôl-Adneuo) i'w gweld isod.

Adroddiad GRhC - Cynllun a Adneuwyd yn cynnwys y Newidiadau Ôl-Adneuo

Adolygiad GRhC ar yr Atodiad Caniatadau

Yn sgil Gwrandawiadau'r Archwiliad ar y CDLl mae Cyngor Sir Penfro wedi llunio Newidiadau yn Sgil Materion sy'n Codi er mwyn ymgynghori yn eu cylch.  Mae'r newidiadau hyn wedi cael eu sgrinio er mwyn pwyso a mesur a fyddant o bosibl yn cael effeithiau sylweddol ar safleoedd Ewropeaidd.  Mae'r ddogfen sgrinio ar gael man hyn:

O ganlyniad i'r asesiad sgrinio fe restrwyd nifer fach o newidiadau y mae'n rhaid cynnal asesiad ychwanegol yn eu cylch, mewn perthynas â'r Arfarniad o'r Rheoliadau Cynefinoedd.  Mae'r ddogfen asesu ar gael man hyn:

Cafodd y CDLl ei sgrinio o'r cychwyn cyntaf er mwyn dynodi unrhyw effeithiau posibl.  Fodd bynnag cyfnod cynnar y cynllun oedd hi ac felly nid oedd unrhyw strategaethau penodol i'w pwyso a'u mesur.  Fe ymgynghorwyd â'r ymgynghoreion statudol ac fe wnaethant hwy roi sylwadau ar y Gwerthusiad Rheoliadau Cynefinoedd.

Cafodd Dewis Strategaeth y CDLl ei sgrinio er mwyn penderfynu a fyddai e'n cael unrhyw effeithiau sylweddol tebygol, o bosibl, ar y safleoedd Ewropeaidd sydd wedi cael eu dynodi oherwydd y bywyd gwyllt a'r cynefinoedd sydd ganddynt (safleoedd Natura 2000).  Mae'r broses hon yn rhan o'r Gwerthusiad Rheoliadau Cynefinoedd (GRhC).

Mae maes sgrinio'r GRhC yn rhagfynegi beth yw effeithiau posibl Strategaeth a Ffefrir y CDLl, ar y safleoedd Ewropeaidd.  Bryd hynny, roedd rhywfaint o ansicrwydd ynghylch a allai'r CDLl gael effaith sylweddol debygol ar safleoedd Ewropeaidd.  Bu'r GRhC yn bwrw golwg fanwl ar y cynllun ac yn pwyso a mesur yr effeithiau posibl; y cynllun ar ei ben ei hun ac ar y cyd â chynlluniau eraill, ac fe wnaeth y gwerthusiad nodi y byddai'n rhaid gwneud newidiadau yn y Cynllun er mwyn sicrhau na cheid unrhyw effaith ar y safleoedd Ewropeaidd.  Fe nodwyd mesurau lliniaru hefyd.

Fe wnaeth yr ymgynghoreion statudol roi eu sylwadau ar y Gwerthusiad Rheoliadau Cynefinoedd ar y Dewis Strategaeth.

Sylwer: dogfen dechnegol yw'r Adroddiad Sgrinio ac ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn ei chylch.  Mae'r ddogfen ar gael yn Saesneg yn unig.

Fe gynhaliwyd GRhC ar Gynllun a Adneuwyd y CDLl.  Mae'r adroddiad wedi dod i'r casgliad na fydd y cynllun yn cael effaith sylweddol debygol ar y safleoedd Ewropeaidd.  Roedd yr adroddiad ar gael i ymgynghori yn ei gylch o 26 Ionawr 2011 hyd 5.00pm ar 9 Mawrth 2011.  Cafodd yr adroddiad ei newid er mwyn cymryd i ystyriaeth yr ymatebion i'r ymgynghoriad.    Mae'r adroddiad ymgynghori wedi'i ddarparu hefyd. 







ID: 2494, adolygwyd 13/09/2017