Y Cynllun Datblygu Lleol ar ol Adroddiad yr Arolygydd

Nodiadau Cyngor Arfer Da

Yn ogystal â Chanllawiau Cynllunio Atodol (CCA), mae Cyngor Sir Penfro hefyd wedi creu nifer o nodiadau cyngor arfer da, wedi’u rhestru isod, y mae rhai ohonynt ar gael ar-lein.

 

Cynllun Datblygu Lleol - Polisi GN.1 (Polisi Datblygu Cyffredinol), maen prawf 7, Nodyn Cynghori - Diogelu at ddibenion cynllunio, Rhagfyr 2014

Mae'r nodyn cynghori ynghylch Diogelu ar gyfer Dibenion Cynllunio yn ymhelaethu ar un agwedd ar GN.1 (Polisi Datblygu Cyffredinol) polisi'r Cynllun Datblygu Lleol. Yn ôl maen prawf rhif 7 GN.1 mae'n rhaid i'r datblygiad beidio ag achosi nac arwain at niwed annerbyniol i iechyd a diogelwch. Os oes parth diogelu yn bodoli eisoes ac y bwriedir datblygu ynddo, yna fe geisir cyngor gan y corff diogelu priodol. Mae'r nodyn cynghori hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am ddiogelu ar gyfer dibenion cynllunio, gan gynnwys ym mhle y gellir cael gwybodaeth ychwanegol.

 

Polisi GN.8 Diogelu safleoedd ac adeiladau cyflogaeth

Mae'r Nodyn Polisi Rheoli Datblygu hwn yn ategu GN.8 polisi'r Cynllun Datblygu Lleol ynghylch Diogelu Safleoedd ac Adeiladau Cyflogaeth.  Mae ynddo ganllawiau ar gyfer Swyddogion Rheoli Datblygu ynghylch maen prawf y polisi, a pharagraff 6.46 y Cyfiawnhad Rhesymedig dros y polisi hwnnw, sy'n canolbwyntio'n benodol ar ofynion marchnata safleoedd os bydd newid defnydd yn yr arfaeth, a fyddai'n disodli defnydd cyflogaeth (Dosbarthiadau Defnydd B1, B2 neu B8).

Fe allai'r Nodyn Polisi hwn hefyd fod o ddiddordeb i'r rhai hynny sy'n bwriadu ailddatblygu, neu ddefnyddio, safleoedd neu adeiladau busnes, diwydiannol cyffredinol, storio neu ddosbarthu at ddibenion eraill.  Oherwydd hynny mae e ar gael i'w weld ar y tudalennau cynllunio ar wefan y Cyngor.

 

Polisi GN.22 y Cynllun Datblygu Lleol -Tynnu’r adnodd mwynol o flaen llaw

Mae echdyniad ymlaen llaw yn cyfeirio at symud ymaith o safleoedd datblygu, yr adnoddau mwynol economaidd sydd i'w cael ar wyneb y tir neu'n agos ato, cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.  Mae'n atal y sterileiddio diangen ar adnoddau mwynol ond ni fydd y drefn hon yn briodol mewn rhai amgylchiadau neilltuol.

Mae'r nodyn cyfarwyddyd hwn ynghylch arferion da wedi cael ei baratoi ar gyfer swyddogion Rheoli Datblygu ac mae'n dweud yn union sut y dylid ymdrin â'r materion allweddol mewn perthynas ag echdynnu mwynau ymlaen llaw, pan mae ceisiadau cynllunio'n cael eu gwerthuso.

Rydym yn rhagweld y gallai'r nodyn cyfarwyddyd hefyd fod o ddiddordeb i bwy bynnag sy'n bwriadu datblygu ac felly mae e ar gael ar y tudalennu cynllunio ar wefan y Cyngor.

 

Canllawiau i Effaith Gronnol Tyrbinau Gwynt ar Dirwedd ac Amwynder Gweledol

Mae'r Canllawiau hwn ar Effaith Cronnus Tyrbinau Gwynt ar Dirlun a Mwynderau Gweledol: Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn darparu canllawiau arfer da interim ar gyfer ymgeiswyr, datblygwyr, ymgynghoreion a swyddogion y Cyngor yn ardal gynllunio Cyngor Sir Penfro.

 

Arweiniad Arfer Da Sir Benfro:Storfeydd Slyri

Cyhoeddwyd yr arweiniad hwn â chymorth ADAS, Cyngor Cefn Gwlad Cymru , Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a Chyngor Sir Benfro, gan ddiolch yn neilltuol i Mr Chris James and Mr David James.

 

Adeiladau Rhestredig: Cyngor I Berchnogion Eiddo

Pwyntio gyda Morter Calch

Mae'r cyfarwyddyd hwn yn rhoi gwybodaeth ymarferol ar ddefnyddio morter calch meddal, hydraidd ar sail pwti calch, sy'n ddelfrydol ar gyfer trwsio ac ail-bwyntio' uniadau morter hen furiau cerrig. Nid yw'n sôn am ddefnyddio morter sy'n cynnwys calch hydrolig neu bwti calch wedi'u dogni â sment, y ddau ohonynt yn creu morter llawer iawn caletach a llai hydraidd yn gyffredinol.

Mae'n hanfodol i berchenogion adeiladau, contractwyr adeiladu ac eraill sy'n gyfrifol am ofalu am hen adeilad ond nad ydynt yn arbenigo yn y maes ei ddarllen.

 

Nodyn Cynghori Dros Dro ar Ddatblygu yng Nghanol Trefi

Mae'r nodyn cynghori dros dro hwn yn rhoi canllawiau ar gymhwyso polisïau cynllunio ac ystyriaethau materol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio yng nghanol trefi.

 

ID: 2488, adolygwyd 20/04/2023