Y Cynllun Datblygu Lleol ar ol Adroddiad yr Arolygydd

Offeryn asesu Model Dichonoldeb Datblygu

Mae'r Cyngor wedi gweithio ochr yn ochr â'r ymgynghorwyr cynllunio a datblygu trefol Burrows-Hutchinson Ltd, ac mewn partneriaeth â chynghorau eraill ar draws y rhanbarth, i sefydlu yr offeryn asesu Model Hyfywedd Datblygu.  

Mae’r Model Hyfywedd Datblygu wedi’i greu fel model cynhwysfawr, hawdd ei ddefnyddio at ddiben asesu hyfywedd ariannol cynigion datblygu. Mae wedi'i gynhyrchu i weithio gyda Microsoft Excel ar gyfer Office 365 sy'n rhedeg ar Microsoft Windows. Mae rhagor o fanylion am fanylebau'r Model Hyfywedd Datblygu wedi'u nodi yn y Canllaw Defnyddiwr, y gellir ei lawrlwytho isod.

Canllaw Defnyddiwr Model Hyfywedd Datblygu (sydd ar gael yn Saesneg yn unig)

Offeryn gwerthuso ‘safle-benodol’ yw'r Model Hyfywedd Datblygu. Bydd pob copi o'r model a gyhoeddir gan y Cyngor yn ymwneud â safle datblygu penodol. Fodd bynnag, gellir ailddefnyddio'r un copi o'r model i asesu mwy nag un senario arfaethedig ar gyfer datblygu'r safle penodol hwnnw.

Ar y cam cais cynllunio, gellir defnyddio’r Model Hyfywedd Datblygu fel arf i ddangos hyfywedd ariannol cynnig datblygu.

Mae’r rhestr ffioedd safonol ar gyfer asesu hyfywedd ceisiadau cynllunio fel a ganlyn (mae’r holl daliadau yn amodol ar TAW a gallant newid dros amser):

  • Safleoedd o hyd at naw uned: £695
  • Safleoedd o 10-20 uned: £895
  • Safleoedd o 21-50 uned: £1195
  • Safleoedd o 51 neu fwy o unedau: £ trwy gytundeb, yn dibynnu ar faint / cymhlethdod

Bydd yr adolygiad lefel uchel y bydd y Cyngor yn ei gynnal o Fodel Hyfywedd Datblygu wedi'i gyflwyno a’i gwblhau, yn gwirio priodoldeb y wybodaeth a ddarparwyd gan hyrwyddwr y safle fel rhan o'r gwerthusiad.  Bydd y broses hon hefyd yn sicrhau bod y celloedd yn nhaenlenni'r Model Hyfywedd Datblygu wedi'u cwblhau'n briodol. Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw:

·      Y dystiolaeth a ddarparwyd i gefnogi costau a gwerthoedd a ddefnyddir yn y Asesiad Hyfywedd Ariannol (AHA) a gyflwynwyd yn ddigonol ac yn gymesurol;

  • Mae'r amserlen a awgrymir ar gyfer y datblygiad yn realistig; a
  • Mae'r AHA yn cyd-fynd â gofynion polisi'r Cyngor ac â chanllawiau a/neu ddatganiadau polisi eraill sy'n berthnasol i'r asesiad o Hyfywedd mewn cyd-destun Cynllunio. 

Ar ôl cwblhau'r adolygiad lefel uchel, bydd y Cyngor yn cyhoeddi datganiad syml i hyrwyddwr y safle i nodi i ba raddau y mae'n ystyried bod y AHA a gyflwynwyd yn bodloni'r profion a amlinellwyd uchod.  

Nid yw'r rhestr ffioedd safonol uchod yn caniatáu ar gyfer unrhyw amser y gallai hyrwyddwr safle ddymuno ei dreulio yn trafod canfyddiadau adolygiad lefel uchel cychwynnol y Cyngor o AHA. Gall ffioedd ychwanegol fod yn berthnasol mewn achosion lle mae angen rhagor o amser swyddogion o ganlyniad i hyrwyddwr y safle yn cynnal trafodaethau pellach â’r Cyngor mewn perthynas â’r gwerthusiad a gyflwynwyd, a/neu os yw’r dystiolaeth ategol a gyflwynwyd yn annigonol.  

Mae’r Cyngor yn cydnabod y gallai hyrwyddwr y safle ystyried bod rhywfaint o wybodaeth sydd ei hangen i ddangos hyfywedd yn fasnachol sensitif. Fodd bynnag, nid yw mater sensitifrwydd yn rheswm digonol i osgoi darparu'r dystiolaeth briodol. 

Ni fydd AHA a baratowyd ar y cyd â cheisiadau cynllunio ar gael i'r cyhoedd a byddant yn cael eu trin yn gyfrinachol rhwng y Cyngor a'r unigolyn neu'r sefydliad a'i cyflwynodd.

Mae Canllaw Defnyddiwr y Model Hyfywedd Datblygu (gweler y ddolen uchod) yn disgrifio sut mae'r Model Hyfywedd Datblygu yn gweithio, gan nodi manylion y wybodaeth y mae angen i'r defnyddiwr ei mewnbynnu i gelloedd perthnasol y model.

Mae pob copi o'r Model Hyfywedd Datblygu hefyd yn cynnwys 'Canllaw Cyflym', sydd wedi'i anelu at y rhai sy'n cynnal asesiad o safle datblygu preswyl yn unig nad yw’n fwy na chwe erw (2.43 hectar). 

Cynghorir defnyddwyr hefyd fod 'Nodiadau Cymorth' wedi'u cynnwys yn y model, wedi'u hymgorffori yn y taflenni gwaith eu hunain, a'r pwrpas yw atgoffa'r defnyddiwr beth i'w wneud ar bob dalen. 

I gael copi o’r model ar gyfer safle penodol, a/neu i drafod materion yn ymwneud â’r Model Hyfywedd Datblygu yn ehangach, cysylltwch â’r Tîm Cymorth Cynllunio (planning.support.team@pembrokeshire.gov.uk) yn y lle cyntaf.  Byddant yn darparu manylion cyswllt ar gyfer pa bynnag swyddog achos sydd wedi'i neilltuo i’r cais cynllunio yr ydych yn dymuno cynnal yr asesiad hyfywedd ar ei gyfer.  Bydd y swyddog achos wedyn yn trefnu rhyddhau'r model ac yn darparu unrhyw gyngor pellach sydd ei angen.

ID: 2314, adolygwyd 03/05/2024