Y Polisi Derbyn i Ysgolion (y flwyddyn nesaf)

Awdurdodau Derbyn (2026-2027)

2.1 Ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir

Yn achos Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir yn Sir Benfro, Cyngor Sir Penfro (yr ALl) yw’r Awdurdod Derbyn. Mae manylion cyswllt Cyngor Sir Benfro fel a ganlyn:-

 

Y Tîm Derbyn

Y Gyfarwyddiaeth Addysg

Neuadd y Sir

Hwlffordd

Sir Benfro

SA61 1TP

 

Ffôn: 01437 764551

E-bost: admissions@pembrokeshire.gov.uk

 

Dylid gwneud ceisiadau gan ddefnyddio’r ffurflen derbyn ar-lein

 

2.2 Ar gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir

 

Ar gyfer Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir (Yr Eglwys Yng Nghymru neu Gatholig) Corff Llywodraethu’r Ysgol yw’r Awdurdod Derbyn. Caiff ceisiadau eu gwneud ar-lein yn yr un ffordd ag uchod, a byddant yn cael eu trosglwyddo o’r Awdurdod Lleol i’r ysgol berthnasol.

 

2.3 Ar gyfer ysgolion mewn Awdurdodau cyfagos

 

Mae Sir Benfro’n ffinio ag awdurdodau lleol Sir Gâr a Cheredigion. Os byddwch yn dymuno i’ch plentyn fynychu ysgol yn y naill neu’r llall o’r awdurdodau hyn, yna dylech gysylltu â’r Awdurdod hwnnw yn uniongyrchol.

 

2.4 Cynllun cydlynol (derbyniad 2027)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gofynion newydd sydd wedi’u gosod gan Reoliadau Addysg (Cydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 a ddaeth i rym ar 28 Mehefin 2024.

Mae’r cynllun ar waith er mwyn i awdurdodau lleol sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, bod pob rhiant i blentyn sy’n byw yn ardal yr awdurdod lleol sy’n gwneud cais am le mewn ysgol yn ystod y cylchoedd derbyn cynradd ac uwchradd arferol, yn cael cynnig ar un, a dim ond un lle ysgol ar y diwrnod cynnig cyffredin ar gyfer y lleoedd ysgol hyn.

Mae Cyngor Sir Penfro eisoes yn gweithredu cynllun cydlynol llwyddiannus, ac felly bydd hyn yn parhau gyda rhai mân newidiadau yn cael eu rhoi ar waith yn dechrau yn y derbyniadau cynradd ac uwchradd yn 2027. Bydd y newidiadau yn cynnwys dyddiadau cau newydd ar gyfer cyflwyno ceisiadau derbyn (31 Hydref ar gyfer ceisiadau uwchradd a 15 Ionawr ar gyfer ceisiadau cynradd) a chyfnod byrrach i rieni dderbyn cynigion o leoedd (pythefnos).

Bydd rhieni yn parhau i gyflwyno cais am le mewn ysgol gynradd ac uwchradd drwy wefan Cyngor Sir Penfro. Bydd cais am le mewn ysgol wirfoddol a reolir yn parhau i gael ei anfon ymlaen at y corff llywodraethu a fydd yn gwneud y penderfyniadau yn unol â threfniadau derbyn eu hysgol eu hunain. Bydd ymateb i bob cais yn cael ei anfon at rieni yn uniongyrchol gan wasanaeth derbyniadau Cyngor Sir Penfro.

Ni fydd unrhyw newid i’r ffordd y caiff ceisiadau yn ystod y flwyddyn eu prosesu.

Gan nad oes gennym y gallu yn Sir Benfro i rieni wneud cais trwy ein ffurflen gais gyffredin ar gyfer ysgolion y tu allan i’n hawdurdod lleol, bydd rhieni’n parhau i gael eu cynghori i gyflwyno unrhyw geisiadau o’r fath i’r awdurdod lleol y lleolir yr ysgol ynddo. Byddwn yn parhau i rannu gwybodaeth am geisiadau trawsffiniol gyda’n hawdurdodau cyfagos i gynorthwyo gyda’r cynllun cydlynol.

ID: 10786, adolygwyd 10/07/2025