Y Polisi Derbyn i Ysgolion (y flwyddyn nesaf)

Ceisiadau Aflwyddiannus (2024-2025)

8.1 Apeliadau

Bydd angen i lythyrau yn gofyn am apêl gael eu hanfon gan rieni at y Cyfarwyddwr Addysg o fewn 10 diwrnod i’r dyddiad y cawsant eu hysbysu bod cais am le wedi bod yn aflwyddiannus. Bydd apeliadau yn erbyn penderfyniadau derbyn yn cael eu clywed gan banel apeliadau annibynnol. Mae ffurflenni apelio a gwybodaeth am apelio i rieni ar gael ar-lein. Caiff trefniadau i’r panel apeliadau gwrdd eu gwneud trwy adran Gwasanaethau Cyfreithiol Cyngor Sir Penfro, a bydd apeliadau’n cael eu clywed o fewn 30 diwrnod ysgol i’r dyddiad cau penodedig ar gyfer cael apeliadau. Yn ystod gwyliau haf, bydd apeliadau’n cael eu clywed o fewn 30 diwrnod gwaith i gael yr apêl yn ysgrifenedig.

Nid oes hawl i apelio yn erbyn darpariaeth feithrin anstatudol.

Nid yw gwrthodiadau’n benderfyniadau a wneir ar chwarae bach a dim ond lle mae’r nifer derbyn wedi cael ei gyrraedd a/neu lle bydd dosbarth babanod (h.y. derbyn, blwyddyn 1 a blwyddyn 2) yn mynd y tu hwnt i 30 o blant ymhob dosbarth y byddant yn cael eu gwneud. Mae Rheoliadau Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau gyfyngu meintiau dosbarthiadau babanod i ddim mwy na 30 o ddisgyblion. Byddai derbyn rhagor o blant yn creu anfantais o ran maint dosbarthiadau, hynny yw anfantais i addysg effeithlon neu ddefnyddio adnoddau’n effeithlon. Ni fyddai anfantais o ran maint dosbarthiadau babanod yn cael ei chanfod mewn achosion lle nad oedd nifer derbyn yr ysgol wedi cael ei gyrraedd.

Fodd bynnag, mae eithriadau i’r rheoliadau hyn (a elwir yn “ddisgyblion a eithrir”) a allai ganiatáu mynd y tu hwnt i’r terfyn o 30 o ddisgyblion mewn dosbarth. Ceir rhestr lawn o’r ‘disgyblion a eithrir’ hyn yn Atodiad B.

 

8.2 Rhestri Aros

Bydd unrhyw blentyn nad yw wedi cael cynnig lle yn yr ysgol a nodwyd fel dewis cyntaf ar ei gyfer yn cael ei gadw ar restr aros tan 30 Medi yn y flwyddyn academaidd berthnasol.

Pe bai lleoedd yn dod i fod ar gael yna byddent yn cael eu dyfarnu yn unol â’r meini prawf goralw cyhoeddedig yn hytrach nag yn ôl faint o amser a fu ers cyflwyno’r ceisiadau.

Ar gyfer ceisiadau a dderbynnir y tu allan i'r rownd dderbyn arferol, cedwir rhestrau aros tan ddiwedd yr hanner tymor y gwnaed y cais amdano.

 

 

ID: 10808, adolygwyd 18/09/2023