Y Polisi Derbyn i Ysgolion (y flwyddyn nesaf)
Cynnig Lle Mewn Ysgol (Hysbysu Ynghylch Cynnig) (2024-2025)
Bydd neges e-bost yn cael ei hanfon at rieni a honno’n cadarnhau, neu beidio, bod lle ar gael yn yr ysgol ac yn cynnig y cyfle iddynt dderbyn y lle.
Bydd negeseuon e-bost penderfynu mewn perthynas â cheisiadau am leoedd mewn Ysgolion Uwchradd yn cael eu hanfon ar 1 Mawrth 2024 ac mewn perthynas â cheisiadau am leoedd mewn Ysgolion Cynradd ar 16 Ebrill 2024.
Bydd angen i’r holl gynigion gael eu derbyn neu eu gwrthod gan rieni. Bydd y neges e-bost a anfonir at rieni’n cynnwys dolen a fydd yn galluogi rhieni i dderbyn neu wrthod y cynnig o fewn 21 diwrnod.
Os na dderbynnir y cynnig yna gellir tynnu’r lle yn ôl a chynnig y lle i ddisgybl arall.
7.1 Ysgol Amlsafle
Bydd cynigion ar gyfer ysgol sy’n gweithredu ar fwy nag un safle’n rhai ar gyfer yr ysgol ac nid safle penodol. Mater ar gyfer trefniadaeth fewnol yr ysgol yw’r safle y mae plant yn ei fynychu. Ni ellir apelio yn erbyn y safle a ddyrennir.
7.2 Derbyn Y Tu Allan I’r Grŵp Oedran Arferol
Er y bydd y rhan fwyaf o blant yn cael eu derbyn i ysgol o fewn eu grŵp oedran cronolegol eu hunain, o bryd i’w gilydd mae rhieni’n ymgeisio am leoedd y tu allan i’w grŵp oedran arferol ar gyfer plant dawnus a thalentog, neu blant sydd wedi profi problemau neu wedi colli rhan o flwyddyn, yn aml oherwydd afiechyd. Er na fyddai’n briodol fel arfer i blentyn gael ei leoli mewn grŵp blwyddyn nad yw’n cyd-fynd â’i oedran cronolegol, dylai awdurdodau derbyn ystyried y ceisiadau hyn yn ofalus a gwneud penderfyniadau ar sail amgylchiadau pob achos a chan ymgynghori â’r rhieni a’r ysgol, ac yn benodol mewn perthynas â’r hyn sydd fwyaf buddiol i’r plentyn. Dylid rhoi ystyriaeth ddyladwy hefyd i adroddiad y Seicolegydd Addysg lle mae un ar gael, a dylid gallu cadarnhau rhesymau eglur dros wneud penderfyniad o’r fath.
Os penderfynir bod sail i ystyried cais ‘y tu allan i’r flwyddyn’, mae gan rieni y gwrthodwyd eu cais am le mewn ysgol hawl statudol i apelio. Fodd bynnag, nid oes hawl i apelio os cynigiwyd lle ond bod hwnnw ddim yn y grŵp blwyddyn a ddymunir.
7.3 Dechrau Yn Yr Ysgol
Oni bai bod rhesymau eithriadol, bydd disgwyl i blentyn ddechrau yn yr ysgol ar y dyddiad a nodir yn y cynnig. Bydd angen i achosion o oedi cyn dechrau gael eu trafod gyda’r Ysgol, gan na fydd yn bosibl cadw’r lle am gyfnod amhenodol. Bydd penderfyniadau ynglŷn â pha mor hir i gadw’r lle’n cael eu gwneud fesul achos unigol a chan ymgynghori â’r holl bartïon cysylltiedig. Fodd bynnag, ni ddisgwylir y bydd lle’n cael ei gadw am yn hwy nag un tymor.
Bydd ceisiadau sy’n dod i law fwy na thymor cyn bod angen y lle’n cael eu cydnabod a rhieni’n cael eu hysbysu y bydd y cais yn cael ei brosesu ar yr adeg briodol.
7.4 Tynnu Cynnig O Le Yn Ôl
Bydd y cynnig o le mewn ysgol yn cael ei dynnu’n ôl ar y sail ganlynol:
7.4.1 Os darganfyddir yn ddiweddarach bod cais twyllodrus neu gais a oedd yn fwriadol yn gamarweiniol wedi cael ei wneud (megis cyfeiriad ffug yn agosach at yr Ysgol).
7.4.2 Os nad oes cadarnhad bod y lle’n cael ei dderbyn yn cael ei ddychwelyd at yr Awdurdod Lleol erbyn y dyddiad a nodir yn y cynnig.
7.4.3 Wrth benderfynu a fydd y lle’n cael ei dynnu’n ôl, rhaid ystyried am faint o amser yr oedd y plentyn wedi bod yn yr ysgol. Lle tynnir lle yn ôl ar sail gwybodaeth gamarweiniol, rhaid ystyried y cais o’r newydd a chynnig hawl i apelio os gwrthodir lle.