Y Polisi Derbyn i Ysgolion (y flwyddyn nesaf)
Gwybodaeth Ddefnyddiol (2026-2027)
3.1 Y Fforwm Derbyn
Mae Fforwm Derbyn Sir Benfro’n cwrdd ddwywaith y flwyddyn i drafod materion derbyn lleol. Caiff Aelodau’r ALl, Penaethiaid, Llywodraethwyr, Rhieni ac Awdurdodau Esgobaethol eu cynrychioli.
Mae cofnodion y cyfarfodydd ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro
Drwyddi draw yn y ddogfen hon, mae’r diffiniad o Rieni yn golygu’r holl bobl â chyfrifoldeb rhiant a ddiffiniwyd yn gyfreithiol ar gyfer plentyn.
3.2 Cludiant
Mae’r Awdurdod Lleol yn darparu cludiant am ddim i’r ysgol ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol (y tymor ar ôl eu 5ed pen-blwydd) ar y sail ganlynol.
I fod yn gymwys i gael cludiant am ddim, rhaid i’ch plentyn:
- Byw yn Sir Benfro
- Bod o oed ysgol gorfodol
- Yn mynd i’r ysgol dalgylch sydd wedi’i neilltuo gan y Cyngor i wasanaethu cyfeiriad cartref y disgybl, neu’r ysgol addas agosaf;
- Byw o leiaf 2 filltir o’r ysgol os yw yn yr ysgol gynradd
- Byw o leiaf 3 milltir o’r ysgol os yw yn yr ysgol uwchradd
Caiff pellter ei fesur yn ôl y llwybr cerdded byrraf rhwng y cartref a’r ysgol. O’r ffordd agosaf at yr eiddo sy’n cael ei chynnal a’i chadw gan y Cyngor at brif fynedfa’r ysgol.
Mae prosesau ymgeisio ar wahân ar waith ar gyfer derbyniadau i ysgolion a chludiant ysgol. Gall rhieni fynegi eu bod yn ffafrio lle mewn ysgol a rhaid i’r awdurdod derbyn ddiwallu hynny oni bai y byddai gwneud hynny yn peryglu darparu addysg effeithlon neu’r defnydd effeithlon ar adnoddau.Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad yw cael lle mewn ysgol fel rhan o broses derbyniadau i ysgolion yn rhoi hawl awtomatig i gael cludiant rhad ac am ddim o’r cartref i’r ysgol, a rhaid i rieni wirio a oes hawl gan eu plentyn i gael cludiant ysgol cyn mynegi pa ysgol y maent yn ei ffafrio. Gellir gwirio cymhwysedd am gludiant ysgol trwy ddefnyddio’r adnodd chwilio Cymhwysedd Cludiant Ysgol. Darllenwch Polisi Cludiant Ysgol y Cyngor
Mae manylion cyswllt yr Uned Cludiant Integredig fel a ganlyn:
Yr Uned Cludiant Integredig
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Ffôn: 01437 775222
E-bost: school.transport@pembrokeshire.gov.uk
3.3 Addysg Ddewisol yn y Cartref
Gall rhieni ddewis addysgu eu plant gartref hefyd. Addysg Ddewisol yn y Cartref yw’r enw ar hyn. Mae angen meddwl yn ofalus cyn penderfynu addysgu gartref, gan ei fod yn ymgymeriad sylweddol o ran ymrwymiad, amser a chost.
Cynghorir rhieni sy’n ystyried yr opsiwn hwn i gysylltu â’r Awdurdod Lleol a cheisio cyngor gan y Swyddog Addysg Ddewisol yn y Cartref ar 01437 764551.
3.4 Ymgynghori
Rhaid i’r ALl ymgynghori bob blwyddyn ar y trefniadau derbyn ar gyfer yr ysgolion hynny y mae’n awdurdod derbyn ar eu cyfer. Mewn perthynas ag Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, rhaid i gyrff llywodraethu perthnasol ymgynghori’n flynyddol hefyd oni bai:
i. eu bod wedi ymgynghori ar eu trefniadau arfaethedig o fewn y ddwy flynedd benderfynu flaenorol,
ii. bod y trefniadau hynny’n ddigyfnewid, a
iii. na chyflwynwyd gwrthwynebiad i Weinidogion Cymru ynglŷn â’u trefniadau derbyn yn y pum mlynedd cyn hynny.