Y Polisi Derbyn i Ysgolion (y flwyddyn nesaf)

Y Broses Dderbyn (2024-2025)

6.1 Dewis Rhieni

Er bod y rhan fwyaf o rieni’n anfon eu plentyn i’r ysgol agosaf, mae ganddynt hawl i fynegi dewis o blaid unrhyw ysgol yn Sir Benfro.

Gall rhieni fynegi dewis o blaid yr ysgol y maent yn ei ffafrio; fodd bynnag, nid oes gwarant y derbynnir plentyn i’r ddewis ysgol, hyd yn oed os ydynt yn byw yn y dalgylch.

Gall rhieni, ac yn achos derbyn i’r chweched dosbarth, pobl ifanc, fynegi dewis o blaid ysgol ac yn amodol ar yr eithriadau a nodir mewn deddfwriaeth, rhaid i’r awdurdod derbyn gydymffurfio â’r dewis hwnnw. Mae’r eithriadau’n cynnwys:

  • Lle byddai cydymffurfio â’r dewis yn peryglu’r gallu i ddarparu addysg effeithlon neu ddefnyddio adnoddau’n effeithlon sydd, yn y bôn, yn golygu os nad oes digon o gapasiti ac adnoddau ar gael yn yr ysgol, ni fydd y lle'n cael ei ddarparu. 
  • Lle mae’r trefniadau ar gyfer mynediad i chweched dosbarth mewn ysgol yn seiliedig yn gyfan gwbl ar ddethol trwy gyfeirio at allu neu ddawn a lle byddai cydymffurfio â’r dewis yn anghydnaws â dethol dan y trefniadau hynny.
  • Lle mae plentyn wedi cael ei wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu fwy a bod y gwaharddiad diweddaraf wedi digwydd o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Gellir newid y dewisiadau o ran ysgolion ar unrhyw adeg hyd at y dyddiad cau a bydd angen i rieni wneud hyn yn ysgrifenedig (i’r Tîm Derbyn) a chyflwyno cais newydd hefyd.

Bydd unrhyw newid i’r dewisiadau o ran ysgolion ar ôl y dyddiad cau’n cael ei drin fel cais hwyr. Os nad yw’r ysgol yn gallu cynnig lle yn y dewis cyntaf yna bydd yr ail ddewis yn cael ei ystyried.

 

6.2 Dewis Ysgol

Pa bynnag ysgol y mae rhieni’n penderfynu arni, argymhellir eu bod yn cysylltu â’u dewis ysgol(ion), yn trafod gyda hwy ac yn ymweld â hwy fel eu bod yn ymwybodol o’r cyfleusterau a’r cyfleoedd y maent yn gallu eu cynnig.

 

6.3 Ymgeisio Am Le Mewn Ysgol

Dylai’r holl geisiadau am leoedd mewn ysgolion gael eu gwneud ar-lein (ac eithrioceisiadau am leoedd yn y chweched dosbarth mewn ysgol uwchradd, a gyflwynir yn uniongyrchol i’r ysgol).

Bydd angen i’r holl geisiadau gael eu cwblhau a’u cyflwyno erbyn y dyddiad cau a nodir yn yr Amserlen Derbyn yn Adran 5. Ar ôl y dyddiad cau, bydd yr holl geisiadau a ddaeth i law erbyn y dyddiad hwnnw’n cael eu hystyried.

Anogir rhieni i ddarllen y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni a rhaid iddynt gadarnhau cyfrifoldeb rhiant am y plentyn y maent yn ymgeisio am le iddo/iddi a’u bod wedi cael cytundeb yr holl bobl eraill â chyfrifoldeb rhiant i wneud hynny, cyn cwblhau’r ffurflen ar-lein. Dylid nodi yr anogir ysgolion i gynorthwyo rhieni i gwblhau’r ffurflen ar-lein os nad ydynt yn gallu cael mynediad at gyfrifiadur gartref. O dan amgylchiadau eithriadol, er enghraifft, lle nad oes gan rieni gyfeiriad e-bost, mae ffurflenni ar gael ar ffurf copïau caled gan y Tîm Derbyn.

Gall rhieni gadarnhau enw a lleoliad eu hysgol leol trwy roi cod post eu cartref i mewn i’r cyfleuster chwilio “Gwasanaethau yn eich Ardal” ar wefan Cyngor Sir Penfro. Ar ôl dewis yr union gyfeiriad ar y sgrîn ddilynol, dangosir rhestr o “Wasanaethau Agos”; bydd pwyso’r botwm “Ysgolion” yn dangos rhestr o’r holl ysgolion dalgylch ar gyfer y cyfeiriad dan sylw. Gellir cael gwybodaeth am ddalgylchoedd ysgolion o’r adran Ysgolion a Dysgu ac yna’r adran Ysgolion ar y wefan hefyd. Dangosir manylion yr holl ysgolion, yn eu clystyrau, gan gynnwys mapiau o ddalgylchoedd.

 

6.4 Ceisiadau Cynnar

Gall rhieni ymgeisio am le i’w plentyn mewn addysg feithrin ar unrhyw adeg ar ôl i’r plentyn gael ei eni. Bydd ceisiadau sy’n dod i law cyn y cylchoedd derbyn arferol (yn seiliedig ar ddyddiad geni’r plentyn) yn cael eu cydnabod, eu cadw ar ffeil a’u prosesu ar yr adeg briodol. Ni roddir blaenoriaeth i geisiadau cynnar.

 

6.5 Ceisiadau Hwyr

Ystyrir bod ceisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad cau’n geisiadau hwyr (oni bai bod rhesymau eithriadol) a dim ond ar ôl y rhai a ddaeth i law erbyn y dyddiad cau y byddant yn cael eu hystyried. Rheswm eithriadol fyddai unrhyw sefyllfa a wnaeth atal y teulu rhag ymgeisio ar amser. Yn yr achosion hyn, dylai’r teulu gynnwys dogfennau ategol gyda’r ceisiadau e.e. lle symudodd teulu i mewn i’r Awdurdod Lleol rhwng y dyddiad cau a’r dyddiad cynnig lle, yna byddai’n ofynnol dangos tystiolaeth o newid cyfeiriad.

 

6.6 Dyrannu Lleoedd

Bydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn plant hyd at Nifer Derbyn (ND) y ddewis ysgol. Lle mae’r lle olaf a ddyrennir (hyd at y nifer derbyn) yn un i blentyn a oedd yn rhan o enedigaeth luosog yna bydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn y sibling arall/siblingiaid eraill hefyd.

Mae’r Nifer Derbyn (ND) yn nodi nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i bob grŵp blwyddyn yn yr ysgol.

Rhoddir y ND ar gyfer pob ysgol yn Atodiad A: Niferoedd Derbyn Ysgolion.

Cyfrifir y nifer gan ddefnyddio fformiwla Llywodraeth Cymru – ‘Mesur capasiti ysgolion yng Nghymru’. Mae’r ddogfen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

6.7 Meini Prawf Goralw

Bydd plant sydd â datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU) sy’n enwi ysgol benodol yn cael eu derbyn i'r ysgol honno. 

Mewn achosion lle mae nifer y ceisiadau’n uwch na’r ND yna bydd lleoedd mewn ysgolion yn cael eu dyrannu yn unol â’r meini prawf goralw (a restrir yn nhrefn blaenoriaeth):

  1. Plant sydd, a Phlant a fu’n Derbyn Gofal gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr yn unol ag Adran 22 o Ddeddf Plant 1989 fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016.
  2. Disgyblion sydd â datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU) sy'n enwi'r ysgol.
  3. Anghenion dysgu ychwanegol, seicolegol neu feddygol eithriadol (gweler nodyn a.).
  4. Disgyblion sy’n byw yn nalgylch yr ysgol a fydd â sibling o oedran ysgol gorfodol yn yr ysgol honno ar adeg derbyn (gweler nodyn b.).
  5. Disgyblion sy’n byw yn nalgylch yr ysgol sydd wedi mynychu ysgol fwydo (gweler nodyn c.).
  6. Disgyblion sy’n byw yn nalgylch yr ysgol ar adeg derbyn.
  7. Disgyblion sy’n byw’r tu allan i ddalgylch yr ysgol a fydd â sibling o oedran ysgol gorfodol yn yr ysgol ar adeg derbyn (gweler nodyn b.).
  8. Disgyblion sy’n byw’r tu allan i ddalgylch yr ysgol sydd wedi mynychu ysgol fwydo (gweler nodyn c.).
  9. Disgyblion sy’n byw’r tu allan i ddalgylch yr ysgol.

Lle mae mwy nag un plentyn yn bodloni’r meini prawf hyn a bod ymgeiswyr yn weddill o hyd yna bydd y plentyn sy’n byw agosaf at yr ysgol yn cael ei dderbyn. Bydd pob pellter yn cael ei fesur yn ôl y pellter cerdded byrraf (gan ddefnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol y Cyngor) rhwng y gât ysgol agosaf sydd ar gael a’r man lle mae cartref y plentyn yn cysylltu â’r briffordd gyhoeddus.

Ar gyfer y categorïau goralw sy’n cynnwys meini prawf sy’n ymwneud â siblingiaid (categorïau 4 a 7), os yw dewisiadau’n uwch na nifer y lleoedd sydd ar gael bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i’r disgyblion hynny sydd agosaf mewn oedran at y sibling ieuengaf sydd yn yr ysgol yn barod (e.e. ar gyfer derbyn i ysgol gynradd, byddai disgybl â sibling ym mlwyddyn 3 yn cael blaenoriaeth uwch na disgybl â sibling ym mlwyddyn 6; ar gyfer derbyn i ysgol uwchradd byddai disgybl â sibling ym mlwyddyn 9 yn cael blaenoriaeth uwch na disgybl â sibling ym mlwyddyn 11).

Yn achos ysgol 3-16 neu 3-19, ni fydd disgybl â sibling mewn cyfnod ar wahân yn bodloni’r meini prawf yng nghategorïau 4 a 7 yn rhinwedd y ffaith bod gan yr ysgol niferoedd derbyn ar wahân ar gyfer cyfnodau cynradd ac uwchradd (e.e. disgybl o oedran cynradd â sibling o oedran uwchradd yn yr un ysgol).

 

Nodiadau

a)    Anghenion Meddygol neu Seicolegol

Gall angen meddygol neu seicolegol fod naill ai ar gyfer y plentyn neu ar gyfer ei rieni. I gael eu hystyried dan y maen prawf hwn rhaid i rieni ddarparu tystiolaeth ategol annibynnol ar adeg y cais sy’n nodi pam mai’r ddewis ysgol yw’r ysgol fwyaf addas i’r plentyn a’r anawsterau a fyddai’n cael eu hachosi pe bai’n rhaid i’r plentyn fynychu ysgol wahanol. 

Mae tystiolaeth ategol a fyddai’n cael ei hystyried yn briodol yn cynnwys:

i.  Llythyr neu adroddiad gan un o’r gweithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig canlynol: Meddyg Ymgynghorol Arbenigol, Pediatrydd Cymunedol, Seicolegydd, Seicolegydd Addysg, Seiciatrydd, Ffisiotherapydd, Therapydd Galwedigaethol. Rhaid i’r llythyr neu adroddiad fod yn seiliedig ar wybodaeth y gweithiwr proffesiynol ei hun am gyflwr ac amgylchiadau’r plentyn / rhiant.

ii.  Llythyr neu adroddiad gan weithiwr gwaith cymdeithasol cofrestredig y mae’n rhaid iddo fod yn seiliedig ar ei wybodaeth ei hun am gyflwr ac amgylchiadau’r plentyn / rhiant. 

Ni fydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi dan y maen prawf hwn os na ddangosir y dystiolaeth ofynnol ar adeg ymgeisio.

Rhaid i Anghenion Dysgu Ychwanegol gael eu cadarnhau gan Wasanaeth Cynhwysiant yr Awdurdod Lleol.

 

b)    Sibling

Ystyr sibling yw brawd llawn neu chwaer lawn, hanner brawd neu chwaer neu lysfrawd neu lyschwaer, neu blant mabwysiedig neu blant maeth, sy’n byw ar yr un aelwyd ar adeg derbyn. 

 

c)    Ysgol Fwydo

Ystyr ysgol fwydo yw ysgol gynradd o fewn yr un ‘clwstwr o ysgolion’ ag ysgol uwchradd.

 

6.8 Cyfeiriad Cartref

Ystyr cyfeiriad cartref disgybl yw eiddo preswyl sy’n gweithredu fel unig neu brif fan preswylio’r plentyn. Naill ai:

6.8.1   yn cael ei berchnogi gan y rhiant/rhieni neu'r sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant cyfreithlon diffiniedig am y plentyn; neu

6.8.2   yn cael ei brydlesu neu ei rentu gan riant/rhieni’r plentyn neu’r sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant dan gytundeb rhentu ysgrifenedig.

Lle ceir cyfrifoldeb rhiant a rennir am blentyn, a bod y plentyn hwnnw’n byw gyda’r ddau riant neu’r ddau berson â chyfrifoldeb rhiant a rennir, am ran o’r wythnos, yna pennir mai’r prif fan preswylio yw’r cyfeiriad y mae’r plentyn yn byw ynddo am y mwyafrif o’r wythnos ysgol (h.y. 3 allan o 5 diwrnod) neu’r cyfeiriad y caiff y budd-dal plant ei dalu iddo.

Ceidw’r ALl yr hawl i ofyn am brawf o gyfeiriad ar unrhyw adeg yn ystod y broses dderbyn.

 

6.9 Symud Cyfeiriad

Pan fo teulu’n symud a bod rhieni’n ymgeisio am le i’w plentyn gael ei dderbyn i ysgol yn seiliedig ar eu cyfeiriad newydd gall yr Awdurdod Lleol gymryd camau i wirio’r trefniadau. Bydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn naill ai:

6.9.1   Llythyr cyfreithiwr yn nodi bod y contract wedi cael ei gyfnewid ac yn nodi dyddiad cwblhau;

6.9.2   Cytundeb tenantiaeth gyda llofnod a dyddiad arno.

Os na ellir rhoi prawf o’r cyfeiriad newydd yna bydd y cais yn seiliedig ar y cyfeiriad cyfredol.

 

6.10  Derbyniadau I Ysgol Arbennig Portfield A Chanolfannau Adnoddau Dysgu Mewn Ysgolion (Unedau Atodol)

Ymdrinnir â derbyniadau i Ysgol Arbennig Portfield a Chanolfannau Adnoddau Dysgu dynodedig sydd wedi’u hatodi wrth ysgolion prif ffrwd gan Wasanaeth Cynhwysiant yr Awdurdod ar sail lefel asesedig anawsterau dysgu ac anghenion cymhleth disgyblion. Mae rhieni’n ymgeisio yn y ffordd arferol ac mae’r Gwasanaeth Derbyn yn trosglwyddo’r manylion i’r Gwasanaeth Cynhwysiant mewn achosion lle cedwir cofnod ar System Gwybodaeth Reoli’r Awdurdod Lleol.

 

6.11  Teuluoedd Personél Lluoedd Arfog Y Du A Gweision Eraill Y Goron (Gan Gynnwys Diplomyddion)

Mae teuluoedd personél Lluoedd Arfog y DU a Gweision eraill y Goron yn symud yn aml o fewn y DU ac o dramor, a hynny’n aml yn gymharol fyr rybudd. O ganlyniad, bydd ceisiadau am leoedd mewn ysgolion ar gyfer y flwyddyn ysgol sy’n nesáu yn cael eu hystyried os anfonir llythyr swyddogol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn neu’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad gyda’r cais a hwnnw’n datgan dyddiad dychwelyd. Wedyn bydd lleoedd mewn ysgolion yn cael eu dyrannu os byddai’r ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf pan fydd yn symud i’w gyrchfan newydd. Bydd cyfeiriadau post unedau ar gyfer ceisiadau gan bersonél y Lluoedd Arfog yn cael eu derbyn hefyd, yn niffyg cyfeiriad post newydd.

 

6.12  Plant Sipsiwn A Theithwyr

Mae rhwymedigaeth statudol ar y Cyngor i sicrhau bod yr holl blant o oedran ysgol gorfodol yn cael addysg sy’n briodol i’w hoedran, galluoedd ac unrhyw anghenion addysgol arbennig, ac sy’n hybu safonau uchel o ran darparu addysg a lles plant. Mae’r rhwymedigaethau hyn yn berthnasol i’r holl blant ni waeth pa un a ydynt yn breswylwyr parhaol yn yr ardal ai peidio. Byddir yn ymdrin â cheisiadau derbyn a gyflwynir mewn perthynas â theuluoedd sipsiwn a theithwyr, gyda golwg ar leoli’r plant hyn mor gyflym â phosibl yn yr ysgol agosaf sydd ar gael ac sy’n briodol.

 

6.13  Disgyblion A Waharddwyd Ddwywaith

Os yw disgybl eisoes wedi cael ei wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu fwy yna gall ei riant fynegi dewis o blaid ysgol y maent yn dymuno i’w plentyn gael ei addysgu ynddi. Nid oes rhaid i’r Awdurdod Lleol gydymffurfio â’u dewis am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad eu gwaharddiad diweddaraf.

Nid yw hyn yn berthnasol i’r canlynol:

  • Plant â datganiadau o AAA/CDU.
  • Plant a oedd islaw oedran ysgol gorfodol pan gawsant eu gwahardd.
  • Plant a dderbyniwyd yn ôl i’r ysgol ar ôl gwaharddiad parhaol.
  • Plant a fyddai wedi cael eu derbyn yn ôl i’r ysgol ar ôl gwaharddiad parhaol pe bai wedi bod yn ymarferol gwneud hynny.
  • Plant sydd a Phlant a fu’n Derbyn Gofal, lle gwneir y cais derbyn gan neu ar ran y rhiant corfforaethol.

 

6.14  Plant Sy’n Derbyn Gofal

Yn achos plentyn sy’n derbyn gofal gan Awdurdod Lleol yng Nghymru neu yn Lloegr (fel y’i diffinnir gan adran 22 o Ddeddf Plant 1989 ac adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014), rhaid i'r Awdurdod Lleol perthnasol (rhiant corfforaethol) gyflwyno cais a rhaid darparu tystiolaeth ategol (Gorchymyn Gofal neu Orchymyn Gofal Dros Dro) gyda’r cais. Yn dilyn ymgynghoriad ar briodoldeb yr ysgol a enwir yng ngoleuni cefndir ac anghenion y plentyn, mae gan y Cyngor ddyletswydd i dderbyn y plentyn i’r ysgol a rhoi’r flaenoriaeth uchaf yn y meini prawf gordanysgrifio.

Yn achos plentyn a oedd yn arfer derbyn gofal gan Awdurdod Lleol yng Nghymru neu yn Lloegr (fel y’i diffinnir gan ddogfen Cod Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru rhif  005/2013), rhaid darparu tystiolaeth ategol (llythyr gan yr Awdurdod Lleol perthnasol [cyn-riant corfforaethol]) gyda’r cais. Yn dilyn ymgynghoriad ar briodoldeb yr ysgol a enwir yng ngoleuni cefndir ac anghenion y plentyn, mae gan y Cyngor ddyletswydd i roi’r flaenoriaeth uchaf yn y meini prawf gordanysgrifio.

Yn dilyn ymgynghoriad gyda fforwm Plant sy’n Derbyn Gofal/Ymadawyr Gofal Cyngor Sir Penfro a chymeradwyaeth yn dilyn hynny  gan y Bwrdd Rhianta Corfforaethol, cyfeirir yn lleol at y term ‘Plentyn sy’n Derbyn Gofal’  fel ‘Unigolyn Ifanc sy’n Derbyn Gofal’.

 

 

ID: 10803, adolygwyd 18/09/2023