Y Polisi Derbyn i Ysgolion (y flwyddyn nesaf)
Yr Oedran Pan All Plant Ddechrau Yn Yr Ysgol (2024-2025)
4.1 Plant o Oedran Meithrin – Plant 3 Blwydd Oed
Y dyddiad pan fo’n rhaid iddynt fod wedi cyrraedd yr oedran priodol a tymor derbyn
- 31 Rhagfyr 2023: Gwanwyn 2024
- 31 Mawrth 2024: Haf 2024
- 31 Awst 2024: Hydref 2024
Gellir derbyn plant i Ddosbarth Meithrin yn y tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd. Mewn ychydig o ysgolion mae’r dyddiad dechrau’n hwyrach oherwydd trefniadau gyda chylchoedd chwarae lleol, a nodir isod.
- 2il dymor yn unig – Aberllydan, Spittal
- 3ydd tymor yn unig – Maenclochog, Arberth, Y Garn, Tafarn Ysbyty, Tredeml, Ysgol Bro Preseli
- Dosbarth meithrin llawn-amser – Clydau, Eglwyswrw, Casmael, Yr Enw Sanctaidd
Lle nad yw ysgolion yn derbyn disgyblion rhan-amser yn y tymor yn dilyn y trydydd pen-blwydd, bydd y ceisiadau’n dal i gael eu prosesu gyda’r un garfan o blant yn ôl dyddiad geni a bydd yr Awdurdod Derbyn yn hysbysu rhieni ynghylch y dyddiad dechrau perthnasol ar gyfer yr ysgolion penodol.
Nid oes angen i rieni ymgeisio am le meithrin llawn-amser. Unwaith y mae plentyn wedi dechrau addysg feithrin ran-amser mewn ysgol, cyfrifoldeb yr ysgol fydd hysbysu’r rhieni pan fo’r plentyn yn gallu dechrau addysg feithrin lawn-amser.
Nid yw bod yn ddisgybl mewn Dosbarth Meithrin yn gwneud plentyn yn gymwys i gael ei dderbyn i’r Dosbarth Derbyn. Bydd angen i rieni wneud cais ar wahân.
Os yw rhieni’n ymgeisio am le mewn lleoliad nas cynhelir ar gyfer eu plentyn teirblwydd oed yna bydd angen iddynt gwblhau cais ar wahân trwy Dîm y Blynyddoedd Cynnar ar wefan y Cyngor
4.1 Plant o Oedran Cynradd – Plant 4 Blwydd Oed
Y dyddiad pan fo’n rhaid iddynt fod wedi cyrraedd yr oedran priodol a tymor derbyn
- 31 Rhagfyr 2023: Gwanwyn 2024
- 31 Mawrth 2024: Haf 2024
- 31 Awst 2024: Hydref 2024
Nid yw deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i blentyn ddechrau yn yr ysgol tan y tymor ar ôl ei bumed pen-blwydd a gall y rhiant ohirio mynediad tan yr oedran hwnnw. Fodd bynnag, rhaid cyflwyno ceisiadau am fynediad gohiriedig erbyn yr un dyddiad cau â cheisiadau am fynediad nad yw’n cael ei ohirio.
4.3 Plant o Oedran Uwchradd – Plant 11 Mlwydd Oed
Y dyddiad pan fo’n rhaid iddynt fod wedi cyrraedd yr oedran priodol a tymor derbyn
- 31 Awst 2024: Hydref 2024
Gwahoddir rhieni i ddisgyblion blwyddyn 6 i fynegi eu dewis ar gyfer Ysgol Uwchradd yn ystod Tymor yr Hydref yn y flwyddyn cyn y trosglwyddiad.
Ni fydd disgyblion blwyddyn 6 sy’n mynychu Ysgol 3-16 ac sy’n bwriadu aros yn yr ysgol yn gorfod ymgeisio am le yn y cyfnod Uwchradd.