Y Polisi Derbyn i Ysgolion

Gwybodaeth Ddefnyddiol

3.1 Y Fforwm Derbyn

Mae Fforwm Derbyn Sir Benfro’n cwrdd ddwywaith y flwyddyn i drafod materion derbyn lleol. Caiff Aelodau’r ALl, Penaethiaid, Llywodraethwyr, Rhieni ac Awdurdodau Esgobaethol eu cynrychioli.

Mae cofnodion y cyfarfodydd ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro.

Drwyddi draw yn y ddogfen hon, mae’r diffiniad o rieni yn golygu’r holl bobl â chyfrifoldeb rhiant a ddiffiniwyd yn gyfreithiol ar gyfer plentyn.

 

3.2 Cludiant

Mae’r Awdurdod Lleol yn darparu cludiant am ddim i’r ysgol ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol (y tymor ar ôl eu 5ed pen-blwydd) ar y sail ganlynol: 

I fod yn gymwys i gael cludiant am ddim, rhaid i’ch plentyn:

  • Byw yn Sir Benfro
  • Bod o oed ysgol gorfodol
  • Yn mynd i’r ysgol dalgylch sydd wedi’i neilltuo gan y Cyngor i wasanaethu cyfeiriad cartref y disgybl, neu’r ysgol addas agosaf;
  • Byw o leiaf 2 filltir o’r ysgol os yw yn yr ysgol gynradd
  • Byw o leiaf 3 milltir o’r ysgol os yw yn yr ysgol uwchradd

Caiff pellter ei fesur yn ôl y llwybr cerdded byrraf rhwng y cartref a’r ysgol. O’r ffordd agosaf at yr eiddo sy’n cael ei chynnal a’i chadw gan y Cyngor at brif fynedfa’r ysgol.

Mae prosesau ymgeisio ar wahân ar waith ar gyfer derbyniadau i ysgolion a chludiant ysgol. Gall rhieni fynegi eu bod yn ffafrio lle mewn ysgol a rhaid i’r awdurdod derbyn ddiwallu hynny oni bai y byddai gwneud hynny yn peryglu darparu addysg effeithlon neu’r defnydd effeithlon ar adnoddau.Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad yw cael lle mewn ysgol fel rhan o broses derbyniadau i ysgolion yn rhoi hawl awtomatig i gael cludiant rhad ac am ddim o’r cartref i’r ysgol, a rhaid i rieni wirio a oes hawl gan eu plentyn i gael cludiant ysgol cyn mynegi pa ysgol y maent yn ei ffafrio.  Gellir gwirio cymhwysedd am gludiant ysgol trwy ddefnyddio’r adnodd chwilio Cymhwysedd Cludiant Ysgol. Cyhoeddir Polisi Cludiant Ysgol y Cyngor ar-lein.

 

Mae manylion cyswllt yr Uned Cludiant Integredig fel a ganlyn:

Yr Uned Cludiant Integredig
Neuadd y Sir

Hwlffordd 
Sir Benfro 
SA61 1TP

Ffôn: 01437 775222
E-bost: school.transport@pembrokeshire.gov.uk

 

3.3 Addysg ddewisol yn y cartref

Yng Nghymru, rhieni sydd â’r prif gyfrifoldeb cyfreithiol am sicrhau bod eu plentyn yn cael addysg addas. Er bod y rhan fwyaf o rieni’n dewis cyflawni’r ddyletswydd hon drwy anfon eu plant i’r ysgol, mae rhai’n dewis cynnig addysg eu hunain gartref. Gelwir hyn yn Addysg Ddewisol yn y Cartref.

Mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod ac yn parchu hawl rhieni i ddewis addysgu eu plant gartref. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â theuluoedd i sicrhau bod pob plentyn sy’n cael ei addysgu gartref yn derbyn addysg sy’n eang, yn gytbwys ac yn briodol i’w hanghenion unigol.

 

Dyletswyddau cyfreithiol a chyfrifoldebau rhieni

O dan adran 7 o Ddeddf Addysg 1996, rhaid i rieni sicrhau bod eu plentyn yn derbyn:

“Addysg amser llawn effeithlon sy’n addas i’w hoedran, eu gallu a’u dawn, ac i unrhyw anghenion addysgol arbennig a allai fod ganddynt, naill ai drwy fynychu’r ysgol yn rheolaidd neu fel arall.”

 

Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd gyfreithiol hefyd (adran 437 o Ddeddf Addysg 1996) i sicrhau bod plant o oedran ysgol gorfodol nad ydynt ar gofrestr yr ysgol yn cael addysg addas.

Er mwyn ein helpu i gyflawni’r ddyletswydd hon, gofynnwn yn garedig i rieni roi gwybod i ni am eu bwriad i ddewis addysgu gartref. Mae cyfathrebu cynnar yn caniatáu inni gynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth wrth i chi ystyried a datblygu taith eich plentyn i gael addysg gartref.

 

Dulliau addysg yn y cartref

Nid oes cwricwlwm penodol na gofyniad addysgu ffurfiol ar gyfer plant sy’n cael eu haddysgu gartref. Gall dulliau addysgol amrywio a gallant gynnwys:

  • Dysgu strwythuredig, ar sail amserlen
  • Astudiaeth hyblyg, dan arweiniad pwnc
  • Addysg annibynnol neu dan arweiniad plant
  • Dulliau cyfunol gan ddefnyddio dysgu ar-lein, ar sail profiad, neu yn y gymuned

Gallwch addasu’r addysg i’r ffordd y mae eich plentyn yn dysgu, pa mor gyflym mae’n gwneud hynny, a beth yw ei ddiddordebau, a gall ddigwydd mewn amrywiaeth o amgylcheddau y tu hwnt i’r cartref.

 

Gwybodaeth gyswllt

ehe@pembrokeshire.gov.uk

01437 774658

 

Meddwl am addysg yn y cartref?

Os ydych chi’n ystyried addysg ddewisol yn y cartref ac yr hoffech drafod eich dewisiadau neu gyfrifoldebau ymhellach, cysylltwch â Phartneriaeth Rhieni i gael cyngor diduedd. Maen nhw yno i’ch cynorthwyo i wneud y dewisiadau addysgol gorau i’ch plentyn.

 

Gwybodaeth gyswllt

pps@pembrokeshire.gov.uk

01437 776354

 

Gweler y Swyddogion Addysg Gartref Dewisol

 

3.4 Ymgynghori

Rhaid i’r ALl ymgynghori bob blwyddyn ar y trefniadau derbyn ar gyfer yr ysgolion hynny y mae’n awdurdod derbyn ar eu cyfer. Mewn perthynas ag Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir, rhaid i gyrff llywodraethu perthnasol ymgynghori’n flynyddol hefyd oni bai:

i. eu bod wedi ymgynghori ar eu trefniadau arfaethedig o fewn y ddwy flynedd benderfynu flaenorol,

ii. bod y trefniadau hynny’n ddigyfnewid, a

iii. na chyflwynwyd gwrthwynebiad i Weinidogion Cymru ynglŷn â’u trefniadau derbyn yn y pum mlynedd cyn hynny.

ID: 9160, adolygwyd 12/08/2025