Y Polisi Derbyn i Ysgolion

Ymgeisio Y Tu Allan I’r Cylch Derbyn Arferol

9.1 Symud I Mewn I’r Ardal

Dylai rhieni sy’n bwriadu symud i mewn i’r ardal gyflwyno cais yn ddim cynharach na thymor cyn dyddiad dechrau arfaethedig eu plant.

E.e. os oes angen lle yn nhymor y gwanwyn yna dylid cyflwyno’r cais yn ddim cynharach na dechrau tymor yr hydref yn union cyn hynny.

Bydd ceisiadau sy’n dod i law fwy na thymor cyn bod angen y lle’n cael eu cadw tan yr adeg briodol. Gallai oedi cyn symud i mewn i’r ardal arwain at dynnu cynigion yn ôl, oni bai y rhoddir rheswm da.

 

9.2 Trosglwyddo Rhwng Ysgolion Yn Ystod Y Flwyddyn

Mae’n rhaid wrth ystyriaeth ddifrifol cyn newid ysgol a dylid trafod hynny’n llawn gyda Phennaeth ysgol bresennol eich plentyn yn gyntaf.

Os bydd rhieni’n dal i deimlo’r angen i drosglwyddo’u plentyn o un ysgol i’r llall yna rhaid iddynt ymgeisio trwy gyflwyno cais ar-lein a fydd yn cael ei drin yn yr un ffordd ag unrhyw gais derbyn arall.

Gall rhieni ofyn am drosglwyddiad unrhyw bryd. Fodd bynnag, oni bai mai newid cyfeiriad yw’r rheswm dros y trosglwyddiad, fel arfer dim ond ar ddechrau hanner tymor y bydd yr Awdurdod Lleol yn caniatáu trosglwyddo o un ysgol yn Sir Benfro i un arall. Mae pob cais trosglwyddo’n ddarostyngedig i’r gweithdrefnau derbyn arferol ac yn amodol ar argaeledd lleoedd yn yr ysgol y gofynnir am le ynddi.

Os gofynnir am drosglwyddiad ar unwaith a bod hynny am reswm heblaw newid cyfeiriad, cymhwysir protocol sy’n cynnwys ymwneud gan y Gwasanaeth Lles Addysg. Bydd rhieni’n cael eu gwahodd i drafod y cais trosglwyddo gyda Swyddog Lles Addysg, a fydd yn penderfynu a ddylid caniatáu trosglwyddiad ar unwaith. Os na chymeradwyir trosglwyddiad ar unwaith gan y Swyddog Lles Addysg yna dim ond ar ddechrau’r hanner tymor canlynol y gall y trosglwyddiad ddigwydd.

Er mwyn caniatáu digon o amser i brosesu ceisiadau a mwy o amser i ysgolion gynllunio ar gyfer yr adeg y bydd disgyblion newydd yn cyrraedd, cynghorir bod ceisiadau i drosglwyddo ar ddechrau hanner tymor yn dod i law o leiaf un mis cyn dechrau’r hanner tymor hwnnw.

Ar ôl cytuno i gais trosglwyddo rhwng ysgolion a hysbysu’r rhieni’n ysgrifenedig, bydd angen i rieni ymateb i’r neges e-bost sy’n cynnig lle er mwyn derbyn y lle o fewn 21 diwrnod. 

 

9.3 Lleoedd Yn Y Chweched Dosbarth

Mae’r holl Ysgolion Uwchradd yn Sir Benfro’n gyfrifol am eu derbyniadau i’r chweched dosbarth a dylai’r holl geisiadau gael eu cyflwyno’n uniongyrchol i’r ysgol o’ch dewis.

Mae derbyniadau i’r chweched dosbarth mewn ysgolion uwchradd yn dod o dan ymbarél y cyngor sir yn rhinwedd y ffaith mai’r cyngor sir yw’r Awdurdod Derbyn ar gyfer yr holl ysgolion cymunedol a gwirfoddol a reolir. Fodd bynnag, mae’r trefniadau o ddydd i ddydd ar gyfer gweinyddu ceisiadau o’r fath yn gorwedd gyda’r ysgol uwchradd berthnasol. Dylai trefniadau ar gyfer derbyn i Addysg Chweched Dosbarth gael eu trafod gyda’r ysgol unigol cyn cyflwyno cais ar gyfer derbyn i’r ysgol unigol. Rhaid i bob ysgol uwchradd â chweched dosbarth gyhoeddi eu trefniadau ar gyfer derbyn i’r chweched dosbarth ar eu gwefannau, fel arfer fel rhan o’u prosbectws, a rhaid i’r rhain gynnwys y canlynol:

  • Y cymwysterau TGAU a/neu gymwysterau eraill sy’n ofynnol ar gyfer mynediad;
  • Ym mha fodd y dylid gwneud ceisiadau, gan gynnwys y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau;
  • Gwybodaeth ynglŷn â sut y bydd dysgwyr yn cael eu hysbysu a yw lle yn y chweched dosbarth yn cael ei roi ynteu ei wrthod;
  • Gwybodaeth ynglŷn â sut y gall dysgwyr neu eu rhieni apelio yn erbyn penderfyniad yr ysgol.

Mae’n ofynnol i ysgolion uwchradd adrodd yn flynyddol wrth Fforwm Derbyn yr Awdurdod ar effeithiolrwydd eu trefniadau ar gyfer derbyn i’r chweched dosbarth.

ID: 9166, adolygwyd 18/10/2022