Y Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd - Gwybodaeth i Deuluoedd
Y Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd - Gwybodaeth i Deuluoedd
Beth rydym ni’n ei wneud
Rydym yn helpu teuluoedd i wneud newidiadau a chymryd rheolaeth o’u bywydau os ydynt yn cael anawsterau fel y gall y plant fyw’n ddiogel gartref lle bo modd.
Sut Rydym Yn Ei Wneud
- Gyda chi, byddwn yn edrych ar y cryfderau sydd gennych chi a’ch teulu eisoes. Mae’n bwysig inni glywed am y pethau da yn ogystal â’r pethau a allai fod yn achosi anhawster.
- Byddwn yn gofyn i chi a’ch teulu pa newidiadau y mae pob un ohonoch yn teimlo y mae angen i chi eu gwneud a sut y gallwch chi eu gwneud. Byddwn yn eich helpu gydag unrhyw sgiliau newydd a allai fod yn ddefnyddiol yn eich barn chi.
- Byddwn yn gweithio gyda chi yn ddwys am gyfnod byr, hyd at chwe wythnos fel arfer.
- Byddwn yn gweithio’n hyblyg fel y gallwn fod yno ar adegau sy’n ddefnyddiol i chi.
- Ein nod yw gweithio gyda holl aelodau’r teulu i’ch helpu i osod a chyflawni nodau a fydd yn gwneud rhai newidiadau gwirioneddol a chadarnhaol yn eich bywyd.
- Byddwn yn rhoi gwybod i weithiwr cymdeithasol y plant sut mae ein gwaith gyda’n gilydd yn dod yn ei flaen.
- Byddwch yn cael copïau o’r holl adroddiadau a ysgrifennwyd a chewch gyfle i ddweud eich barn wrthym am y gwasanaeth.
Beth sy’n digwydd nesaf?
- Yn dilyn ein gwaith dwys gyda chi byddwn yn trefnu i’ch gweld yn rheolaidd am hyd at ddeuddeg mis i weld sut mae pethau’n mynd.
- Yn y cyfamser gallai fod yn ddefnyddiol cael rhywfaint o gymorth ychwanegol a gallwch chi neu eich gweithiwr cymdeithasol gysylltu â ni i drefnu hyn.
- Gallwn hefyd eich helpu i gysylltu ag asiantaethau eraill i weithio gyda chi ar ddiwedd ein hymgysylltiad.
- Os teimlwch y gellir gwella’r gwasanaeth mewn unrhyw ffordd siaradwch â ni amdano.
Pwy ydym ni?
Lleolir y Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd o fewn Cyngor Sir Penfro. Mae gennym staff sy’n gymwys, wedi’u cofrestru ac â phrofiad i gynorthwyo teuluoedd mewn argyfwng lle mae problemau gyda defnyddio sylweddau ac alcohol sy’n effeithio ar ddiogelwch a lles plant.
Cysylltu â Ni
Gallwch naill ai ffonio eich gweithiwr cymdeithasol yn uniongyrchol ar ei ffôn symudol neu drwy ei dîm. Os nad oes gennych weithiwr cymdeithasol ac rydych yn teimlo bod angen cymorth arnoch, gallwch gysylltu â’r tîm asesu gofal plant ar 01437 776444. Os hoffech siarad ag aelod o’r Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd, gallwch ein ffonio ar 01437 764551.