Y Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd - Gwybodaeth i Deuluoedd

Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd - Tîm Ar Ffiniau Gofal

Mae'r Tîm Ar Ffiniau Gofal yn rhan o Wasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd Cyngor Sir Penfro. Rydym yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n wynebu heriau a allai roi plant mewn perygl o fynd i mewn i ofal. Ein nod yw helpu plant i barhau yn ddiogel yn eu rhwydweithiau teuluol lle bynnag y bo modd. Rydym yn darparu cefnogaeth ddwys, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wedi'i theilwra i gryfderau, anghenion ac amgylchiadau unigryw pob teulu.

Gan weithio ochr yn ochr â theuluoedd, rydym yn canolbwyntio ar feithrin gwydnwch, gwella perthnasoedd a diogelwch a chefnogi newid cadarnhaol yn yr hirdymor. Pan fydd plentyn neu unigolyn ifanc wedi mynd i ofal, efallai y byddwn hefyd yn cefnogi cynlluniau ar gyfer ei ddychwelyd adref mewn modd diogel a chynaliadwy pan fo hyn er ei fudd pennaf.

Sut rydym yn cefnogi teuluoedd

Gall y gefnogaeth a ddarperir gan y Tîm Ar Ffiniau Gofal gynnwys:

  • Cefnogaeth ddwys i deuluoedd ac ymyrraeth.
  • Cymorth ymarferol ac emosiynol i rieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc.
  • Cryfhau perthnasoedd teuluol a chyfathrebu.
  • Cefnogi teuluoedd i reoli gwrthdaro a sefyllfaoedd heriol.
  • Rhoi teuluoedd mewn cysylltiad â’u teulu ehangach a chefnogaeth yn y gymuned.
  • Datblygu cynlluniau a strategaethau diogelwch i wella llesiant.
  • Cefnogi plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o orfod wynebu chwaliad teuluol neu fynd i ofal gyda'r nod o atal hyn lle bo'n ddiogel i wneud hynny.

Mae ein dull yn seiliedig ar gryfderau, yn gydweithredol ac yn canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant a'u teuluoedd.

Lle rydym wedi'n lleoli

Mae'r Tîm Ar Ffiniau Gofal wedi'i leoli yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd ac mae'n darparu cefnogaeth i deuluoedd ledled Sir Benfro.

Cael mynediad at ein cefnogaeth

Gwneir atgyfeiriadau i'r Tîm Ar Ffiniau Gofal gan weithwyr cymdeithasol y gwasanaethau plant sy'n cefnogi teuluoedd. Os ydych chi'n gweithio gyda gweithiwr cymdeithasol Gwasanaethau Plant Sir Benfro ar hyn o bryd, gallwch siarad â nhw i ddarganfod a allai cefnogaeth gan y Tîm Ar Ffiniau Gofal fod yn addas i'ch teulu chi.

Os nad ydych yn cael eich cefnogi gan weithiwr cymdeithasol ar hyn o bryd ond yn pryderu am blentyn, neu'n teimlo bod angen cymorth arnoch chi fel teulu, cysylltwch â'r Tîm Asesu Gofal Plant ar 01437 776444.

I siarad ag aelod o Dîm Ar Ffiniau Gofal y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd, ffoniwch 01437 764551.

Ein Nod

Cefnogi plant i barhau yn ddiogel gyda'u teuluoedd, gwella llesiant, a helpu teuluoedd i wneud newid cadarnhaol, parhaol.

ID: 10670, adolygwyd 22/09/2026