Cyngor Busnes: Diogelwch Bwyd a Chydymffurfiaeth Safonau

Cyngor Busnes: Diogelwch Bwyd a Chydymffurfiaeth Safonau

Mae Cyngor Sir Penfro'n cydnabod pwysigrwydd rhoi cyngor dibynadwy, addas i'r diben i fusnesau. Yn arbennig:

  • mae'n helpu meithrin a chynnal perthynas waith gadarnhaol rhwng swyddogion gorfodi a busnesau;
  • mae'n mynd ati i gynorthwyo cydymffurfio amserol (ac, yn achos busnesau bwyd, mae'n helpu'r busnes i sicrhau graddiad hylendid bwyd da);
  • mae'n cefnogi mabwysiadu arferion gorau;
  • mae'n helpu osgoi gwariant diangen gan fusnesau;
  • mae'n lleihau tebygolrwydd adalwadau bwyd drud;
  • mae'n lleihau tebygolrwydd gorfodi dilynol a phosibilrwydd dirwyon;
  • mae'n helpu busnesau ddatblygu a chadw enw da;
  • mae'n helpu diogelu ein cymunedau; ac
  • mae'n cyfrannu at yr agenda iechyd cyhoeddus ehangach.

Yn draddodiadol mae ein Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd wedi rhoi cyngor a chefnogaeth i fusnesau bwyd newydd a phresennol, gan gefnogi eu hymdrechion i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol ac, yn y pen draw, eu llwyddiant economaidd.

ID: 1565, adolygwyd 19/03/2021