Cyngor Busnes: Diogelwch Bwyd a Chydymffurfiaeth Safonau
Dewisiadau Cynghori: Gwasanaeth ar Sail Ffi
Bydd ein gwasanaeth cynghori newydd ‘ar sail ffi' ar gyfer diogelwch a safonau bwyd yn cynnig amrywiaeth eang o gyngor, gan gynnwys y canlynol:
- Cyngor ar gynllun eiddo, adeiledd, cyfleusterau, offer.
- Cyngor ar arferion a gweithdrefnau diogelwch bwyd (e.e. ar ofynion rheoli tymheredd, ac ar sut allai'r busnes gadw at ganllawiau i reoli perygl traws-halogiad E.coli, pan fo hynny'n briodol).
- Cyngor / cymorth wrth ddatblygu systemau rheoli diogelwch bwyd / HACCP a chadw cofnodion sy'n gymesur â busnes.
- Cyngor ar y gofynion perthnasol i hyfforddi, cyfarwyddo a goruchwylio'r rhai sy'n trin bwyd.
- Cyngor ar y meini prawf sy'n cael eu hystyried dan y Cynllun Graddio Hylendid Bwyd, a'r gofynion cyffredinol i'w hateb er mwyn cyrraedd graddfa uchel - cynorthwyo busnesau newydd gael y cychwyn gorau.
- Cyngor ar / cymorth gyda samplu bwyd ac arwyddocâd unrhyw ganlyniadau.
- Cyngor ar gydymffurfio â gofynion labelu / hysbysu alergenau bwyd.
- Cyngor ar gydymffurfio â gofynion eraill labelu / disgrifio / hysbysebu bwyd.
- Cyngor ar ofynion cyfansoddol bwyd.
- Cymeradwyo labeli bwyd / bwydlenni / gwefannau / hysbysebion eraill sy'n cael eu paratoi gan y busnes.
- Archwiliadau eiddo bwyd (‘gwiriadau iechyd').
Eich busnes chi fydd yn penderfynu yn y pen draw.
ID: 1567, adolygwyd 12/10/2022